Cymru'n colli yn erbyn Lloegr o flaen torf o fwy na 21,000

Y prop, Jenni Scoble sgoriodd y cais cyntaf i Gymru yn y munudau agoriadol
- Cyhoeddwyd
Fe gollodd Cymru o 12-67 gartref yn erbyn Lloegr yn eu hail gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Er i dîm Sean Lynn ddechrau ar dân gyda chais yn y munudau cyntaf, doedd Cymru methu ymdopi â chryfder a chyflymder yr ymwelwyr.
Cafodd record newydd ei osod ar gyfer torf i ddigwyddiad chwaraeon menywod yng Nghymru gyda mwy 'na 21,000 yn gwylio'r gêm yn Stadiwm Principlaity.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Cymru yn parhau yn pedwerydd safle yn y tabl, a bydd y garfan yn teithio i Ffrainc ar gyfer eu gêm nesaf ar 12 Ebrill.
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd22 Mawrth
Roedd y prif hyfforddwr Sean Lynn wedi gwneud dau newid i'r tîm a gollodd i'r Alban y penwythnos diwethaf yn ei gêm gyntaf wrth y llyw, gyda Gwenllian Pyrs a Gwen Crabb yn dod i mewn am Maisie Davies ac Alaw Pyrs.
Roedd Lloegr, ar y llaw arall, wedi gwneud 13 newid i'r tîm enillodd o 38-5 yn erbyn yr Eidal ar y penwythnos agoriadol - gan gynnwys dechrau Megan Jones, gafodd ei geni yng Nghymru, yn y canol.
Cymru ddechreuodd orau gyda'r olwyr yn lledu'r bêl yn effeithiol o un asgell i'r llall gan roi amddiffyn Lloegr dan bwysau.
Fe wyrodd y bêl ymlaen o ddwylo Zoe Harrison y tu ôl i linell gais y Saeson, gan roi sgrym ymosodol mewn safle gwych i Gymru.
Bron i Georgia Evans gyrraedd y llinell cyn i'r prop, Jenni Scoble lwyddo i groesi'r gwyngalch i roi Cymru ar y blaen.

Doedd Cymru methu cynnal y momentwm wedi dechrau gwych i'r gêm
Ond o fewn llai na phum munud roedd Lloegr yn gyfartal.
Fe lwyddodd Maddie Feaunati i ganfod bwlch yn amddiffyn Cymru o lein ymosodol ac fe wibiodd yn glir cyn tirio ger y pyst.
Munudau yn ddiweddarach ac roedd Lloegr ar y blaen diolch i gais unigol ardderchog gan Megan Jones.
Ar ôl derbyn y bêl yng nghanol y cae fe wnaeth Jones ochr-gamu heibio tri o amddiffynwyr Cymru cyn sgorio ail gais i'r ymwelwyr.
Parhau i ymosod wnaeth Lloegr a daeth y trydydd cais wedi 18 o funudau - wrth i'r prop, Sara Bird groesi yn hawdd yn dilyn pasio cyflym ymhlith y blaenwyr.

Fe sgoriodd Megan Jones, gafodd ei geni yng Nghymru, gais unigol ardderchog i Loegr
Roedd profiad a chryfder yr ymwelwyr i'w weld yn glir wrth iddyn nhw lwyddo i greu sawl cyfle i ymestyn eu mantais.
Daeth y pedwerydd cais wedi 26 munud ar ôl i'r olwyr ledu'r bêl allan at y blaenasgellwr, Maddie Feaunati.
Fe lwyddodd Cymru i arafu momentwm Lloegr tua diwedd yr hanner cyntaf, ond prin oedd y cyfleoedd ymosodol i'r rhai yn y crysau cochion.

Fe sgoriodd Maddie Feaunati ddau gais yn yr hanner cyntaf
Fe ddechreuodd y tîm cartref ar y droed flaen yn yr ail hanner hefyd gan lwyddo i reoli'r chwarae - ond yn wahanol i'r hanner cyntaf, doedd Cymru methu ychwanegu rhagor o bwyntiau.
Ac ar ôl methu â manteisio ar y cyfleoedd hynny, daeth pumed cais i Loegr drwy Ellie Kildunne.
Fe sgoriodd Kildunne ei hail gais wedi 54 o funudau yn dilyn cyfnod hir o bwysau ymosodol gan yr ymwelwyr.
Ac fe lwyddodd y cefnwr i gwblhau hat-trick dau funud yn ddiweddarach i'w gwneud yn 7-43.

Ellie Kildunne yn dathlu ar ôl sgorio ei thrydydd cais mewn ychydig funudau
Fe wnaeth Cymru ymateb i'r don honno o geisiau drwy sgorio eu hail gais, a hynny drwy Kate Williams.
Yn dilyn camgymeriad gan Loegr, fe lwyddodd Cymru i ganfod bwlch lawr yr asgell chwith wrth i Kayleigh Powell a Carys Cox gyfuno cyn taflu'r bêl i gyfeiriad Williams yn y gornel.
Doedd Cymru methu adeiladu ar y cais hwnnw, ac fe ymatebodd Lloegr yn syth ac yn gadarn.
Fe sgoriodd Abby Dow gais gwych ar ôl dal cic ardderchog gan Zoe Harrison, cyn i Abi Burton ei gwneud hi'n 12-55.
Daeth ail gais i Abby Dow gyda thri munud yn weddill, cyn i'r eilydd Burton ychwanegu ei hail hi hefyd yng nghymal olaf y gêm.
Roedd cic Harrison yn gywir i'w gwneud hi'n 12-67, gan goroni perfformiad ardderchog gan yr ymwelwyr.