Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Yr Alban 24-21 Cymru

Cymru v Yr AlbanFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Roedd 'na siom i Gymru wrth iddyn nhw golli yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn, yn eu gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

24-21 oedd y sgôr terfynol yn yr Hive Stadium yng Nghaeredin wrth i'r gwrthwynebwyr sgorio tri chais yn erbyn tîm Sean Lynn yn ei gêm gyntaf wrth y llyw.

Roedd y tîm cartref 10 pwynt i saith ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf yn dilyn cais Sarah Bonar.

Fe diriodd Emma Orr a Leah Bartlett yn yr ail hanner i sicrhau'r fuddugoliaeth - gyda Abbie Fleming a Gwenllian Pyrs yn ceisio i Gymru.

Roedd perfformiad y bachwr profiadol Carys Phillips - a geisiodd yn yr hanner gyntaf - yn elfen bositif i Gymru, ac fe ddaeth Pyrs, Kelsey Jones, Gwen Crabb, Donna Rose, Bryonie King a Courtney Keight i'r maes yn yr ail hanner.

Bydd tîm merched Cymru yn chwarae yn erbyn Lloegr nesaf yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, 29 Mawrth.

Pynciau cysylltiedig