Callender yn ôl i Gymru i herio Iwerddon yn y Chwe Gwlad

Mae Alex Callender yn dychwelyd i'r tîm i herio Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Mae Alex Callender yn dychwelyd i Gymru wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul.
Mae'r chwaraewr rheng-ôl wedi bod yn un o sêr y tîm mewn blynyddoedd diweddar, ond dydy hi ddim wedi chwarae yn y bencampwriaeth eto eleni yn dilyn anaf.
Wrth i Gymru chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn 2025, mae'r hyfforddwr Sean Lynn wedi symud Georgia Evans i'r ail reng, a dewis Kelsey Jones yn lle Carys Phillips fel bachwr.
Kayleigh Powell fydd yn dechrau fel maswr, ac mae Lleucu George yn ôl ar y fainc.
Mae Cymru ar waelod y tabl yn dilyn colledion yn erbyn Yr Alban, Lloegr a Ffrainc.
Mae Iwerddon yn drydydd ar ôl curo Yr Eidal.
Cyn y gêm yn Rodney Parade, dywedodd Lynn bod angen "dal i adeiladu ein perfformiadau a chanolbwyntio ar wella ein steil o chwarae a'r hyn rydyn ni eisiau bod fel carfan".
Cymru: Jasmine Joyce; Lisa Neumann, Hannah Jones (c), Courtney Keight, Carys Cox; Kayleigh Powell, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones, Jenni Scoble, Abbie Fleming, Georgia Evans, Kate Williams, Bethan Lewis, Alex Callender.
Eilyddion: Carys Phillips, Maisie Davies, Donna Rose, Natalia John, Alaw Pyrs, Sian Jones, Lleucu George, Catherine Richards.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth
- Cyhoeddwyd22 Mawrth
- Cyhoeddwyd28 Mawrth