Ailagor capel yn Sir Gâr 'er mwyn y gymuned'

Roedd cryn waith adnewyddu'r capel wrth i'w gyflwr ddirywio'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf
- Cyhoeddwyd
Mae straeon am gau a gwerthu capeli i'w clywed yn gyson y dyddiau 'ma ond mae un capel yn Sir Gâr wedi ailagor "er mwyn ymestyn ma's i'r gymuned".
Ddechrau Ebrill fe gafodd oedfa ei chynnal i ailagor Capel Newydd ym mhentref Llan-y-bri yn swyddogol wedi cryn waith adnewyddu.
"Am fod cyflwr y capel mor wael allen ni fod wedi aros yn y festri," meddai Wendy Evans un o'r aelodau ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru.
"Ond roedd pawb yn gytûn bod angen i ni adnewyddu ac ailagor y capel."
Roedd capel yr Annibynwyr yn ailagor yn swyddogol ar yr un wythnos yr oedd trafodaethau yn Llandudno ar ddyfodol cannoedd o gapeli.
'Ni ddim yn digalonni'
"Roedd pawb yn teimlo bod hi'n ddyletswydd ailagor y capel - ddim yn unig at ddibenion yr aelodau - ond ar gyfer y gymuned leol," ychwanegodd Wendy Evans.
"Does ganddon ni ddim gweinidog ers 1981 ond ry'n ni yn 40 o aelodau ac mae 18 yn dod yn ffyddlon.
"Gyda'r eglwys yn Llan-y-bri wedi cau, roedden ni'n teimlo bod angen y capel ar gyfer y gymuned leol.
"Mae'n ardal Seisnigaidd iawn gyda llawer o dai gwyliau ac ail gartrefi ac mae'n bwysig felly cynnal gweithgareddau Cymraeg a dwyieithog - ni'n cael oedfaon ein hunain, wrth gwrs, ond hefyd oedfa arbennig i'r plant adeg y Nadolig, pererindod ac oedfa ar y traeth hefyd.
"Cwmni bach y'n ni ond cwmni clòs iawn. Ni ddim yn digalonni."
Roedd cryn waith adnewyddu'r capel wrth i'w gyflwr ddirywio'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Mi aeth yn brosiect llawer mwy na'r disgwyl," meddai Wendy Evans, "ond o'n i'n lwcus bod gennym arian wrth gefn - diolch i haelioni ein cyn-dadau.
"Mae'n ffydd ni dal yn gryf o fewn yr eglwys a gobeithio bydd modd trosglwyddo ein hymroddiad i'r genhedlaeth nesaf a bydd yr achos yn parhau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2023