Iestyn Garlick i roi'r gorau i'w rôl fel llais gemau Cymru

Iestyn GarlickFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iestyn Garlick wedi bod yn rôl y cyhoeddwr ers 35 mlynedd, gyda'i gyfnod yn pontio dau stadiwm

  • Cyhoeddwyd

Mae'r actor Iestyn Garlick wedi cyhoeddi mai eleni fydd ei flwyddyn olaf fel llais y stadiwm yng ngemau rygbi Cymru, wedi 35 mlynedd yn y rôl.

Mae Iestyn Garlick yn adnabyddus fel cyflwynydd, cynhyrchydd ac actor - yn enwog am chwarae cymeriadau fel Jeifin Jenkins ar sawl rhaglen, a Jim Gym ar Rownd a Rownd.

Ond i gefnogwyr rygbi Cymru, ef sydd wedi bod yn llais y stadiwm ers degawdau, yn gwneud cyhoeddiadau fel y sgôr neu sgorwyr y ceisiau.

Gyda chyffro Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar fin dechrau unwaith yn rhagor, mae wedi gwneud y penderfyniad i gamu i ffwrdd o'r meicroffon.

Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iestyn Garlick wedi bod yn llais cyfarwydd i gefnogwyr Cymru ers degawdau

Mae ei gyfnod wrth y meicroffon wedi pontio dau stadiwm hefyd.

Fe ddechreuodd yn yr hen Stadiwm Cenedlaethol ar safle Parc yr Arfau, cyn i Stadiwm y Mileniwm agor yn 1999.

Yn siarad ar Dros Frecwast, cyfaddefodd nad yw'n cofio rhyw lawer am y gêm gyntaf y bu'n gwneud y rôl, ond ei fod yn "cofio fel oedd hi yn yr hen stadiwm".

"O'n i jest mewn rhyw gornel fach, dim cadair - jest bwrdd oeddan ni'n rhannu efo'r heddlu, y frigâd dân a'r ambiwlans - ac fe ddywedon nhw 'you sit over there Iestyn, here's the microphone, and here's how you switch it on'.

"A dyna hi - dim byd arall!

"Mi oedd pethau'n benagored iawn - i ddweud y sgôr yn syml iawn, yr eilyddion, a dim byd arall mewn gwirionedd."

Gwrthod cyhoeddi'n Saesneg yn gyntaf

Dywedodd ei fod wedi cael cais "a fyddwn i gystal â gwneud o'n Saesneg yn gyntaf".

"Wel, 'naeth hynny ddim digwydd, ac mi oedd hynny ychydig bach o stand-off am gyfnod.

"Ond erbyn hyn dwi'n falch o ddweud bod y Gymraeg yn sicr yn cael ei lle yn y stadiwm."

Iestyn Garlick
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Iestyn Garlick yn rhoi'r gorau iddi wedi Cyfres yr Hydref

Dywedodd fod "pethau wedi newid yn rhyfeddol dros y blynyddoedd, ac erbyn hyn mae o'n dipyn mwy proffesiynol nag eistedd mewn cornel fach efo meicroffon".

Ychwanegodd fod tri o bobl yn gyfrifol am fod yn lleisiau'r stadiwm bellach - Rhys ap William a Geraint Hardy i lawr ar y cae, tra bod Iestyn yn "yr atig i fyny'n reit uchel yn y stadiwm yn edrych i lawr ar y cyfan".

'Nifer' o droeon trwstan

Ychwanegodd fod "nifer" o droeon trwstan yn aros yn y cof.

"Fel bob dim, gwnewch chi'ch gwaith yn iawn, does 'na neb yn sylwi arnoch chi.

"Ond gwnewch chi un camgymeriad ac mae 'na 80,000 yn clywed chi!"

Dywedodd mai "o'r troeon trwstan mwya' embarassing i fi" oedd gwneud cyhoeddiad anghywir ar gyfer sgoriwr y cais cyntaf yn Stadiwm y Mileniwm, "ond mae 'na reswm da iawn dros hynny".

Mark Taylor ac Alan Bateman oedd yn chwarae fel canolwyr ar y diwrnod hwnnw yn 1999, pan lwyddodd Cymru i drechu De Affrica o 29-19.

Ond roedd y ddau wedi cyfnewid crysau yn y twnnel, heb i Iestyn Garlick wybod.

Taylor sgoriodd y cais cyntaf yn y stadiwm newydd, ond oherwydd eu bod wedi cyfnewid crysau, fe wnaeth Iestyn gyhoeddi mai Bateman oedd wedi gwneud hynny!

Bydd Iestyn Garlick yn parhau yn ei rôl dros Bencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chyfres yr Hydref eleni, cyn gadael y meicroffon ar ddiwedd y flwyddyn.

Dywedodd y byddai'n "hyfryd" cael gorffen ei gyfnod gyda Chymru'n ennill gemau yn Stadiwm Principality, ond ychwanegodd: "Dwi ddim yn dal fy ngwynt!"