Undeb Rygbi Cymru'n cydnabod 'methiant' arweinyddiaeth

Prif weithredwr URC, Abi Tierney a Chadeirydd URC, Richard Collier-KeywoodFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Abi Tierney a Richard Collier-Keywood wedi ymddiheuro i'r chwaraewyr

  • Cyhoeddwyd

Roedd y ffrae dros gytundebau tîm cenedlaethol merched Cymru yn cynrychioli “methiant” o ran llywodraethu ac arweinyddiaeth gan Undeb Rygbi Cymru.

Dyna gyfaddefiad cadeirydd yr undeb, Richard Collier-Keywood, wrth ymddangos gerbron Pwyllgor Diwylliant a Chwaraeon Senedd Cymru.

Roedd yr undeb eisoes wedi ymddiheuro am y ffordd y cafodd trafodaethau cytundebau tîm y merched eu cynnal.

Dywedodd Mr Collier-Keywood hefyd ei fod yn cymryd cyfrifoldeb am beidio â sefydlu is-bwyllgor o fwrdd URC i ddelio â rygbi merched yn gynt.

Awgrymodd pe bai is-bwyllgor yn bodoli y gellid bod wedi osgoi’r “argyfwng” ynghylch cytundebau.

Sefydlwyd y pwyllgor ym mis Medi.

'Rhywiaeth ddim yn ffactor'

Dywedodd prif weithredwr yr undeb, Abi Tierney, wrth y pwyllgor na all sicrhau na fydd y sefydliad yn destun penawdau negyddol yn y dyfodol.

Meddai: “Rwy’n meddwl y byddai’n annheg i mi eistedd yma a dweud na fydd gennym ni byth mwy o benawdau eto oherwydd mae newid diwylliant yn daith, a dwi’n meddwl mai sut rydyn ni’n ymateb i’r penawdau hynny sydd mor bwysig.”

Gwadodd Mr Collier-Keywood fod rhywiaeth wedi bod yn ffactor.

Cadarnhaodd ei fod ef a Ms Tierney wedi ymddiheuro i'r chwaraewyr.

Wrth siarad â’r BBC ar ôl y gwrandawiad, dywedodd Mr Collier-Keywood: “Fe wnaethon ni gael rhai pethau o’i le gydag URC.

"Nid oeddem wedi sefydlu’r lefel gywir o broses, roeddem wedi drysu eu rolau fel athletwyr... ac roeddem wedi eu rhoi dan bwysau i lofnodi’r cytundebau, a teimlais nad dyna oedd y peth iawn i’w wneud.

"Felly dwi'n meddwl pan fyddwch chi'n cael pethau'n anghywir y dylech chi ymddiheuro."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe orffennodd dynion a merched Cymru yn olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni

Dywedodd Ms Tierney y byddai “newid trawsnewidiol yn cymryd amser” a bod canlyniadau arolygon staff misol yn “heriol”.

“Mae’n rhoi syniad i ni o ble mae’n rhaid i ni dyfu,” meddai.

Ychwanegodd: “Mae heriau systemig wedi bod gyda rygbi Cymru ers blynyddoedd lawer, a dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw atebion cyflym.

"Yr hyn rwy’n ceisio’i wneud yw gosod atebion cynaliadwy a fydd yn cymryd amser, ac rwy’n gobeithio y bydd pobl yn amyneddgar a bod ganddynt hyder ynof fi i’w wneud.”

Cafodd y cytundebau proffesiynol cyntaf erioed gan dîm y merched eu harwyddo ar ddechrau 2022, gyda Chymru yn cymryd camau mawr ar y cae, gan orffen yn drydydd ym Mhencampwriaethau Chwe Gwlad y Merched 2022 a 2023.

Ond i gyd-fynd â’r trafodaethau cytundebol, mae 2024 wedi gweld cwymp sylweddol yn eu perfformiadau, gyda Chymru yn gorffen ar waelod y bencampwriaeth.