'Ymchwiliad heddlu i dreuliau AS yn cael ei gymryd o ddifri'
- Cyhoeddwyd
Mae’r Blaid Geidwadol yn cymryd ymchwiliad heddlu i dreuliau un o’u haelodau o ddifrif, yn ôl cyd-Aelod Ceidwadol o’r Senedd.
Nos Wener cafodd Laura Anne Jones ei thynnu o'i rôl yn y cabinet cysgodol wedi i negeseuon testun o'i ffôn awgrymu bod aelod o staff wedi cael cais i gynyddu ei cheisiadau am dreuliau gymaint â phosib.
Dywed cyfreithiwr ar ran Ms Jones ei bod "yn fodlon bod unrhyw honiadau cysylltiedig ag amhriodoldeb ynghylch treuliau yn gwbl gamsyniadol".
Dywedodd AS Gogledd Cymru, Sam Rowlands, wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales y byddai unrhyw gamau'n cael eu cymryd pan ddaw'r ymchwiliadau i ben.
Mae Ms Jones, sy'n AS dros Ddwyrain De Cymru, yn destun ymchwiliad gan yr heddlu wedi honiadau yn ymwneud â'i threuliau.
Roedd un neges destun yn gofyn i aelod o staff: "Wrth hawlio costau petrol - nodwch fwy nag y gwnes i bob amser - ychwanegwch bethau os gwelwch yn dda".
Yn y negeseuon gafodd eu gweld gan BBC Cymru, maen nhw'n gofyn a ddylid hawlio treuliau ar ran gwleidyddion yn ystod dyddiau pan oedd Ms Jones i ffwrdd yn sâl.
Nid oedd ateb uniongyrchol i'r cwestiwn hwnnw. Fodd bynnag, mae'n ymddangos wedyn bod graff o'r hyn fyddai'r treuliau wedi cael ei anfon i ffôn Ms Jones.
Dywedodd ymateb o ffôn Ms Jones: "Pe baech chi bob amser yn gallu gwneud mwy nag y mae'n ei ddweud, byddai hynny'n wych, diolch".
Cafodd y neges ei dilyn gan emoji bodiau i fyny.
Dywedodd neges arall o'r un ffôn: "Wrth hawlio petrol - gwnewch y cyfanswm yn fwy na nes i bob amser - ychwanegwch bethau os gwelwch yn dda".
Cafodd y neges honno ei dilyn gan emoji bawd i fyny ac un o ddwylo gyda'i gilydd.
Pan ofynnodd aelod o staff "tebyg i ymweliadau â swyddfa etholaeth?", mae ymateb yn dweud: "Ie - stwff fel 'na [emoji dwylo gyda'i gilydd]."
Ni all y BBC wirio a yw'r negeseuon yn cynrychioli'r holl sgyrsiau rhwng y bobl dan sylw, na'u cyd-destun yn llawn.
Mae ymchwiliad i Ms Jones yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gan y Comisiynydd Safonau, Douglas Bain a Heddlu'r De.
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau. Nid oes unrhyw un wedi cael ei arestio.
Dywedodd Sam Rowlands: “Mae hi wedi cael ei thynnu o gabinet yr wrthblaid yn y Senedd, ac mae ymchwiliad ar y gweill i ddeall beth sy’n digwydd.
"Mae hynna'n cael ei wneud yn annibynnol, ac rwy’n siŵr y bydd camau priodol yn cael eu cymryd o ganlyniad i hynny.
“Y cyfan rydyn ni wedi'i weld hyd yn hyn yw ychydig o sgrinluniau o rai negeseuon.
“Mae angen i ni ddeall y manylion cyn cymryd camau priodol.
“Mae bod yn rhan o'r cabinet cysgodol yn rôl bwysig yn y Senedd, felly mae symud Laura o’r swydd honno yn gam arwyddocaol ac yn dangos pa mor ddifrifol y mae'r mater yn cael ei ystyried.”
'Cam arwyddocaol'
Gofynnwyd i Mr Rowlands hefyd pam fod arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi tynnu Ms Jones o'i rôl yn y cabinet cysgodol ond heb ei hatal o'r grŵp Ceidwadol.
Dywedodd: "Mae cael gwared ar y rôl honno yn y cabinet cysgodol yn gam arwyddocaol go iawn."
Pan ofynnwyd iddo a oedd y penderfyniad hwnnw’n tanseilio Mr Davies pan y mae'n cwestiynu gonestrwydd a barn y Prif Weinidog Vaughan Gething, dywedodd Mr Rowlands: “Mae gonestrwydd a chrebwyll Andrew RT Davies yn gwbl bwysig o fewn hyn ac rwy’n siŵr ei fod yn adolygu’r manylion wrth iddyn nhw ymddangos a bydd yn gweithredu pan fo gwir angen gwneud hynny."
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd21 Mai 2024
Mae cyfreithiwr ar ran Ms Jones wedi dweud mewn datganiad nad yw wedi derbyn "unrhyw gŵyn ffurfiol am fwlio mewn perthynas ag unrhyw un o'i staff".
Ychwanegodd yn y datganiad ei bod hi "yn fodlon bod unrhyw honiadau cysylltiedig ag amhriodoldeb ynghylch treuliau yn gamsyniad llwyr".
“Mae Ms Jones yn credu nad oes sail i'r cwynion sydd wedi eu cyflwyno i’r comisiynydd safonau.
“Gan fod y materion hyn yn cael eu hymchwilio ar hyn o bryd byddai’n amhriodol i Ms Jones wneud unrhyw sylw pellach.
"Nid oes gan Ms Jones unrhyw broblem gyda'r BBC na'r ffynonellau a wnaeth gyflwyno'r honiadau hyn i'r heddlu a/neu'r comisiynydd safonau - maen nhw yn rhoi'r cyfle iddi ymateb yn ffurfiol fel rhan o'r ymchwiliad pe bai'r awdurdodau'n mynnu hynny."
Yn y cyfamser, dywedodd Mr Rowlands fod yr ymgeisydd Ceidwadol yn yr etholiad cyffredinol, Craig Williams wedi gwneud "camgymeriad enfawr" wedi iddo fetio ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol nesaf.
"Mae'r mater yn cael ei godi wrth fynd o ddrws i ddrws," meddai Mr Rowlands.
"Ond mae gan fwy o bobl ddiddordeb yn record y llywodraeth yma yng Nghymru."
Mae Mr Williams, a fu'n gynorthwy-ydd i'r prif weinidog, ac sy'n sefyll ym Maldwyn a Glyndŵr, wedi cyfaddef ei fod wedi ei fod wedi gwneud "camsyniad difrifol".