Llanberis 'yn rhemp' gyda cherddwyr yn ganol nos
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion sy’n byw ar ddechrau llwybr mwyaf prysur yr Wyddfa wedi dweud bod y nifer cynyddol o bobl sy’n penderfynu dringo’r mynydd yn oriau mân y bore wedi gwneud eu bywydau’n "ofnadwy".
Mae recordiad camerâu cylch cyfyng o gynharach ym mis Mehefin yn dangos ymhell dros 100 o bobl yn cerdded ar hyd Rhes Victoria yn Llanberis am 01:30.
Yn y fideo, mae modd gweld nifer ohonyn nhw’n siarad yn uchel a fflachio eu tortshis tuag at rhai o dai’r trigolion.
Yn ôl rhai yn lleol mae aflonyddwch o’r fath yn dod yn fwy cyffredin, gan greu problemau fel diffyg cwsg, mwy o sbwriel a gwastraff dynol ar y stryd.
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod nhw’n annog ymwelwyr i drin pobl leol a’u cymunedau gyda pharch bob amser.
Yn ôl Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, maen nhw'n ymwybodol o’r sefyllfa ac yn ymrwymo i ddod o hyd i ddatrysiad.
Camera Christine Patton recordiodd y grŵp diweddaraf, oedd yn cymryd rhan mewn taith gerdded elusennol.
Mae hi’n sicr bod y broblem wedi gwaethygu ers iddi symud o ganol Lanberis i fyw ar Res Fictoria tair blynedd yn ôl.
“Pan nes i symud yma i ddechrau, mi oedd yna broblemau weithiau ond nid fel mae hi nawr. Ma' hi 'di mynd yn rhemp yma, yn ormod," meddai
"Mae pobl yn dod o bobman a meddwl 'wnâi ddringo’r Wyddfa i weld yr haul yn codi', ond dyw nhw ddim yn meddwl am y bobl sy’n byw ar y stryd yma.
"Dwi’n lwcus os ga’i ddwy neu dair awr o gwsg ar benwythnos yn ystod yr haf.”
'Pobl ddim yn dangos parch'
Yr un noson y cafodd hi ei deffro gan y grŵp mawr o gerddwyr elusennol, recordiodd camera Christine ymwelydd arall yn pasio dŵr yn erbyn wal ei gardd ychydig funudau ar ôl parcio y tu allan i'w chartref yng nghanol nos.
“Dwi jyst yn teimlo ein bod ni’n cael ein sathru. Dyw pobl ddim yn dangos parch tuag atom ni o gwbl," meddai.
"Ac mae’n gallu bod yn beryglus yma hefyd, mae cymaint o geir yn dod ar hyd y lon yn gyflym wrth edrych am rywle i barcio a tydi hynny ddim yn ddiogel i blant bach.
"S'neb yn ein helpu ni ac mae angen help.”
Nid Christine yw’r unig un sy’n pryderu am y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr gyda’r nos.
Mae Mona Hallfeld wedi byw ar y stryd ers dros 40 mlynedd ac wedi sylwi fod pethau wedi gwaethygu’n sylweddol ers y pandemig.
“Mae o fatha byd arall o’i gymharu â phryd prynais i’r tŷ nol yn 1978. Yn enwedig ers Covid, mae 'di bod yn ofnadwy.
"'Da ni’n licio gweld y cerddwyr yn dod yma ond maen nhw’n anghofio dangos parch i ni hefyd. Maen nhw’n dŵad ganol nos a jyst gweiddi a mwynhau heb feddwl.
"Fama ges i fy ngeni, felly i feddwl fy mod i’n gorfod symud o'ma i gael noson dda o gwsg, mae’n siom. Mae angen help arnom ni."
Llwybr Llanberis yw'r mwyaf poblogaidd o'r chwe ffordd swyddogol sydd o ddringo’r Wyddfa.
Yn 2022 yn unig, fe gerddodd 234,469 o bobl ar hyd y llwybr yma.
Mae Alex a Jade o Ellesmere Port yn Sir Caer yn ddwy o’r rheiny sydd wedi defnyddio’r llwybr yr wythnos hon.
Dywedodd Jade: “Y rheswm am gerdded ar hyd llwybr Llanberis oedd ei fod e’n haws na llawer o’r llwybrau eraill, yn ôl beth dwi’n ei ddeall beth bynnag.
"O’n i ddim wir wedi ystyried bod y llwybr yn dechrau ble mae’r rhes o dai, ond dwi’n gallu gweld pam fyddai nifer fawr o bobl yn gallu cael effaith ar y bobl sy’n byw yno.”
Ychwanegodd Alex: “Nes i weld arwydd ar ben y stryd yn dweud mai ardal dawel yw hon ond o’n i’n meddwl bod e braidd yn rhyfedd fod yr arwydd wedi’i leoli wrth i chi adael y stryd a dechrau’r siwrnai fyny'r mynydd.
"Byddai’n well cael o’n agosach at y tai fel bod pobl yn sylweddoli bod angen cadw’n dawel yma.”
Tra'u bod yn croesawu ymwelwyr, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn annog pawb i drin pobl leol a’u cymunedau gyda pharch a charedigrwydd bob amser, gan gynnwys peidio ag aflonyddu ar bobl leol, yn enwedig yn hwyr yn y nos.
Ychwanegon nhw eu bod yn gweithio gyda’u partneriaid a’r diwydiant twristiaeth i sicrhau fod pobl yn gallu mwynhau eu hunain yn ddiogel.
Mewn datganiad fe ddywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eu bod yn ymwybodol o’r sefyllfa ar Res Fictoria, a’u bod yn ymrwymo i fynd i’r afael â’r heriau hyn a dod o hyd i ddatrysiad.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod digwyddiadau sydd wedi eu trefnu yn cydymffurfio gyda’r rheolau ymddygiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2023
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2023