Eryri: 'Lleiafrif yn anwybyddu negeseuon parcio'
![Arwydd parth towio ffwrdd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/ef92/live/4050a250-f109-11ee-a9f7-4d961743aa47.jpg)
Er nad oedd y broblem yn agos i fod gynddrwg â Phasg y llynedd, dywedodd Parc Cenedlaethol Eryri fod "lleiafrif yn penderfynu anwybyddu ein negeseuon"
- Cyhoeddwyd
Mae "lleiafrif" o'r ymwelwyr ag Eryri yn "parhau i anwybyddu negeseuon am barcio'n gyfrifol", yn ôl y Parc Cenedlaethol.
Gyda rhai o brif atyniadau Eryri wedi bod "yn brysur" dros y Pasg, roedd miloedd wedi manteisio ar y tywydd ffafriol a'r penwythnos hir.
Y llynedd cafodd bron i 30 o gerbydau eu towio am barcio peryglus ar yr A5 yn ardal Llyn Ogwen ar ddydd Gwener y Groglith.
Ond er nad oedd y broblem yn agos i fod cynddrwg eleni, dywedodd Parc Cenedlaethol Eryri fod " lleiafrif yn penderfynu anwybyddu ein negeseuon ac arwyddion am barcio’n gyfrifol o gwmpas ardaloedd prysur megis Pen y Pass ac Ogwen".
Serch hyn diolchodd Cyngor Gwynedd i'r "mwyafrif llethol o ymwelwyr a ddangosodd barch i’r gofynion hyn".
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2023
Yn ôl Parc Cenedlaethol Eryri penwythnos y Pasg oedd "heb os" y cyfnod prysuraf hyd yn hyn eleni.
Ond ychwanegodd llefarydd "nad oedd wedi bod mor brysur â'r llynedd", yn ôl adroddiadau.
"Roedd hi’n braf gweld llawer o bobl yn dychwelyd i’r ardal dros Ŵyl y Banc ond ar y llaw arall yn anffodus roedd lleiafrif wedi penderfynu anwybyddu ein negeseuon ac arwyddion am barcio’n gyfrifol o gwmpas ardaloedd prysur megis Pen y Pass ac Ogwen."
![Bysiau](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1600/cpsprodpb/ce22/live/a309e810-f105-11ee-8d5f-65b84919cd53.jpg)
Mae cynlluniau parcio a theithio ar waith i geisio ymateb i'r broblem parcio
"Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru, Traffig Cymru a Chynghorau Gwynedd a Chonwy er mwyn galluogi bod cynifer o bobl â phosib yn gallu cyrraedd yr ardaloedd poblogaidd, ac mae yna systemau a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus mewn lle i bobl wneud hynny mewn ffyrdd cyfrifol a chynaliadwy.
"Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid gydol y flwyddyn er mwyn sicrhau bod pawb sy’n dymuno yn gallu mwynhau'r cyfan sydd gan Eryri i’w gynnig,” ychwanegodd llefarydd.
'Diolchgar i'r mwyafrif'
Ar un diwrnod yn unig yn ystod penwythnos y Pasg 2023 cafodd 29 o gerbydau eu hadfer am barcio peryglus ar y ffyrdd cul ger Llyn Ogwen.
Cafodd naw cerbyd arall eu tynnu yn ardal Pen-y-Pass ger yr Wyddfa.
Doedd dim awgrym fod y broblem yn agos i fod cynddrwg eleni, ond bydd ymdrechion yn parhau i annog parcio synhwyrol.
![Ceir ar ochr yr A5 ger Llyn Ogwen](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1248/cpsprodpb/1b7f/live/9bc1ef20-f106-11ee-8d5f-65b84919cd53.jpg)
Roedd penwythnos y Pasg "heb os y cyfnod prysuraf hyd yn hyn eleni" ond "nid mor brysur â'r llynedd", yn ôl adroddiadau
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Fel cyngor, rydym yn gweithio gyda’n partneriaid o awdurdodau eraill er mwyn annog cydbwysedd rhwng hybu’r economi leol, gwarchod yr amgylchedd ac amddiffyn ein cymunedau lleol.
“Rydym yn ddiolchgar i’r mwyafrif llethol o ymwelwyr a ddangosodd barch i’r gofynion hyn, drwy barcio’n gyfrifol, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan fo’n bosib a mynd â’u sbwriel gartref gyda nhw."
![Towio cerbyd ar yr A5](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/42a1/live/cd61c010-f105-11ee-8369-47dc4454b972.jpg)
Y llynedd cafodd sawl cerbyd eu tynnu am barcio'n anghyfreithlon
Ychwanegon nhw byddai ymdrechion yn parhau dros gyfnod yr haf i annog defnydd o feysydd parcio pwrpasol.
“Dros yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod ac wrth i’r tymor ymwelwyr ddwysáu, rydym yn parhau i annog ymwelwyr i wneud eu trefniadau o flaen llaw er mwyn sicrhau eu diogelwch eu hunain ac eraill - er enghraifft gwirio ble mae’r meysydd parcio ac os oes angen talu.
“Mae’n bwysig fod ein ffyrdd yn glir er mwyn sicrhau llif traffig ac wrth gwrs i ganiatáu’r gwasanaethau brys i fedru gwneud eu gwaith.
"Mae ein swyddogion yn gallu cymryd camau i symud cerbydau sydd yn parcio’n anghyfreithlon, a hynny er diogelwch y cyhoedd.”