Cyfnod Vaughan Gething fel Prif Weinidog mewn lluniau
- Cyhoeddwyd
Wedi i Brif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, ymddiswyddo o'i rôl dyma rhai o'r lluniau sy'n croniclo ei gyfnod byr yn y swydd.

Vaughan Gething - oedd yn weinidog economi ar y pryd - yng Ngholeg Cambria Wrecsam fis Ionawr 2024 yn cyhoeddi ei faniffesto i arwain Llafur Cymru

Ddeufis yn ddiweddarach, cefnogwyr a gwleidyddion y Blaid Lafur - gan gynnwys yr ail yn y ras, Jeremy Miles - ym Mhrifysgol Caerdydd yn llongyfarch Vaughan Gething wedi iddo gael ei ethol yn arweinydd Llafur Cymru

Yr un diwrnod - 16 Mawrth 2024 - a Gething yn cael ei longyfarch gan ei deulu am ddod y person du cyntaf i arwain gwlad yn Ewrop

Vaughan Gething yn y Senedd wedi iddo gael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru ar 20 Mawrth

Arweinydd Llafur y DU Syr Keir Starmer yn Y Bari gyda Vaughan Gething fis Mai eleni yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol

Daeth Vaughan Gething yn emosiynol yn ystod trafodaeth yn y Senedd am ei arweinyddiaeth ar 5 Mehefin. Fe gollodd bleidlais o ddiffyg hyder ynddo fel Prif Weinidog o 27-29 yn dilyn rhoddion dadleuol i'w ymgyrch i fod yn arweinydd

Vaughan Gething eto gyda Keir Starmer - oedd erbyn hyn newydd gael ei ethol yn Brif Weinidog y DU ar ddechrau Gorffennaf

Vaughan Gething yn egluro i'r Senedd ei benderfyniad i ddiswyddo un o'i weinidogion Hannah Blythyn gan honni iddi ryddhau negeseuon i'r cyfryngau - rhywbeth mae hi'n ei wadu. Yn ystod ei ddatganiad roedd AS Delyn (sydd i'w gweld tu cefn iddo yn y llun yn edrych i'w gyfeiriad) yn ysgwyd ei phen
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2024

Vaughan Gething gyda'r Brenin Charles III yng Nghaerdydd 11 Gorffennaf yn ystod ymweliad â Chymru i nodi 25 mlynedd ers sefydlu Senedd Cymru. Lai nag wythnos yn ddiweddarach fe ymddiswyddodd Vaughan Gething
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2024