'Y mwyafrif ar fudd-dal salwch yn gallu gweithio'

David TC DaviesFfynhonnell y llun, ITV Cymru Wales
Disgrifiad o’r llun,

David TC Davies oedd yn cynrychioli'r Ceidwadwyr yn nadl etholiad cyffredinol ITV Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'r rhan fwyaf o bobl ar fudd-dal salwch yn gallu gweithio, meddai gweinidog Ceidwadol mewn dadl deledu.

Mae'r Ceidwadwyr yn bwriadu arbed £12bn drwy gyflwyno newidiadau i daliadau lles wrth ddiwygio cynlluniau sy'n ymwneud ag iechyd.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies y byddai mwyafrif o'r rhai ar fudd-daliadau salwch "yn gallu gweithio pe baen ni'n gallu rhoi'r hyder iddyn nhw fynd allan i'r gweithle".

Bu'n siarad yn ystod dadl etholiad cyffredinol ITV Cymru nos Sul.

Hefyd ar y rhaglen, fe ddywedodd aelod amlycaf Llafur Cymru yn San Steffan, Jo Stevens, nad oes arian ar gael i Gymru yn sgil prosiect rheilffordd High Speed ​​2.

Cyfaddefodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, fod yna beryglon i Gymru yn gysylltiedig ag annibyniaeth.

Fel rhan o'r ddadl roedd y tri ffigwr amlycaf yn San Steffan o blith y Ceidwadwyr, Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn mynd benben â'i gilydd.

Cafodd David TC Davies ei holi ar feirniadaeth gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a ddywedodd er mwyn arbed £12bn, byddai angen torri gwerth £1m o fudd-daliadau iechyd, neu byddai angen torri £2,200 o daliadau bob hawlydd.

Dywedodd Mr Davies ei fod yn rhagweld y bydd buddion i bobl sâl yn codi o tua £70bn i £90bn.

"Mae hynny'n gwbl anghynaladwy. Nid yw pobl yn godro'r system, efallai bod nifer fach," meddai.

“Ond fe fyddai’r mwyafrif o’r bobl hynny’n gallu gweithio pe baen ni’n gallu rhoi’r hyder iddyn nhw fynd allan i’r gweithle, ac mae’n rhaid i ni wneud hynny.”

Mae cynlluniau maniffesto'r Ceidwadwyr yn cynnwys newid asesiadau fel bod pobl sydd â "problemau iechyd meddwl cymedrol neu broblemau symudedd a allai o bosibl ymgysylltu â byd gwaith yn cael cymorth wedi'i deilwra, yn hytrach na chael eu rhoi ar fudd-daliadau".

David Davies a Jo StevensFfynhonnell y llun, ITV Cymru Wales
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jo Stevens mai £350m sy'n ddyledus i Gymru am HS2

Mae galwadau ers tro o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol, gan gynnwys Llywodraeth Lafur Cymru, i Gymru dderbyn arian ychwanegol o ganlyniad i wariant ar brosiect rheilffordd High Speed ​​2 (HS2).

Galwodd Plaid Cymru, yn ei maniffesto, yn benodol am £4bn mewn cyllid - yn seiliedig ar amcangyfrifon o gost adeiladu'r prosiect.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cysgodol Llafur Cymru, fod "llawer o ffigyrau yn cael eu taflu o gwmpas" a dywedodd mai'r union swm oedd "£350m".

Gan gyfeirio at y ffaith bod y Prif Weinidog wedi cwtogi ar HS2, ychwanegodd: “Dydi o ddim y biliynau o bunnau wnaethoch chi sôn amdanyn nhw'n gynharach, ond beth bynnag yw'r ffigwr, y ffaith yw bod Rishi Sunak wedi chwalu’r prosiect hwnnw.

“Dyw'r un blaid yn yr etholiad hwn, fel [Plaid Cymru] sy’n seilio eu maniffesto ac ymrwymiadau gwario ar arian sydd ddim yno, yn mynd i allu cyflawni unrhyw addewidion.”

Wedi'i gwthio gan Liz Saville Roberts ar "pam na allwch chi gadw at aelodau Senedd Llafur Cymru sydd hefyd yn galw am ariannu HS2 i Gymru yn iawn", ychwanegodd Ms Stevens: "Rwyf newydd ateb eich cwestiwn - nid yw'r arian yno".

Liz Saville RobertsFfynhonnell y llun, ITV Cymru Wales
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Liz Saville Roberts ei bod yn "cydnabod bod yna risg" yn gysylltiedig ag annibyniaeth

Mae Plaid Cymru yn credu dylai Cymru fod yn wlad annibynnol.

Dywedwyd wrth Liz Saville Roberts bod adroddiad diweddar wedi dweud ei fod yn opsiwn hyfyw, ond ei bod wedi cymryd 50 mlynedd i Iwerddon gael economi a oedd yn cyfateb i'r DU.

Dywedodd Ms Saville Roberts: “Yn wahanol i’r bobl a ymgyrchodd dros Brexit, a ddywedodd y byddai popeth yn rhosod, ydyn – rydyn ni’n cydnabod bod yna risg yma.

"Ond mae'n siŵr y bydd pobl yn edrych ar y cyflwr y mae'r Deyrnas Unedig yn cadw Cymru ynddi ac yn gofyn, a ddylem ni fod yn edrych ar ffordd wahanol.

“Mae’n anodd iawn gweithio allan beth fyddai’r sefyllfa oni bai bod gennym ni’r holl ysgogiadau i adeiladu’r economi.

"Wrth gwrs, yr Ymerodraeth Brydeinig, mae pawb wedi cael hyn am bob cenedl sy'n gadael - y bydden nhw'n dlawd pe baen nhw'n gadael. Does dim un ohonyn nhw eisiau mynd yn ôl."

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Dywedodd Mr Davies fod llywodraeth y DU yn cynyddu gwariant ar y GIG yn Lloegr ond nad oedd yr arian “ychwanegol” sy’n cael ei roi i Lywodraeth Cymru “yn canfod ei ffordd i mewn i’r GIG yng Nghymru, mae wedi cael ei gymryd i rywle arall”.

Dywedodd fod gan Gymru’r rhestrau aros hiraf yn y DU: “Mae gennym ni 20,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, tra yn Lloegr gydag 20 gwaith y boblogaeth, dim ond ychydig gannoedd yw’r ffigwr”.

Dywedodd Jo Stevens fod “yn bendant angen gwelliant” yn y GIG yng Nghymru ond dywedodd “ym mhob cenedl yn y Deyrnas Unedig mae eu gwasanaethau iechyd yn ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd”.

Dywedodd y byddai llywodraeth Lafur y DU yn rhoi “chwistrelliad arian parod ar unwaith” i’r GIG.

Dywedodd Liz Saville Roberts ei bod yn “annioddefol” bod “19% o boblogaeth Cymru” ar restr aros.

Dywedodd y byddai Plaid Cymru yn ei gwneud hi'n haws gweld meddyg teulu drwy recriwtio 500 o rai newydd.

Cytunodd y tri gwleidydd fod angen gweithredu ar ofal cymdeithasol gyda Mr Davies yn galw am "gytundeb trawsbleidiol".