Pleidiau'n targedu ffermwyr wedi'r protestiadau
- Cyhoeddwyd
Mae yna ymdrech amlwg gan y pleidiau yn ystod yr ymgyrch etholiadol i ddenu cefnogaeth y gymuned amaethyddol yn dilyn y protestio diweddar, medd un undeb.
Er fod polisi amaeth wedi'i ddatganoli, mae'r gyllideb ar gyfer cymorthdaliadau’r diwydiant a threfniadau masnach ryngwladol yng ngofal Llywodraeth San Steffan.
Mae grwpiau ffermio ac amgylcheddol wedi galw am gynnydd sylweddol yn y cyllid sydd ar gael i'r sector.
Maen nhw am weld dros £500m y flwyddyn yn cael ei glustnodi i gefnogi'r gwaith o symud at gymorthdaliadau amaethyddol gwyrddach yng Nghymru.
Yng nghanol sŵn y prynu a'r gwerthu ym mart Llanybydder, Sir Gaerfyrddin roedd rhai ffermwyr wrthi'n trafod y diweddara' o ymgyrch yr etholiad cyffredinol hefyd.
Dywedodd Llyr Davies, 35, ei bod hi'n adeg "anodd" i fod yn ffermwr, gyda chostau'n cynyddu ac ansicrwydd ynglŷn â'r newidiadau i gymorthdaliadau.
"Mae'n rhaid iddyn nhw wrando ar be ma' ffermwyr moyn - dyw addewidion ddim yn meddwl dim byd oni bai bo' nhw'n dilyn lan ar hwnna," meddai'r ffermwr defaid..
"Heb ffermio, heb cefn gwlad s'dim byd i gael - s'dim diwylliant ar ôl. Ma' rhaid bod mwy o arian."
"'S'dim lot o obaith sai'n credu ar y foment," ychwanegodd Lena Evans, 23.
"Dyw pobl ddim yn dallt faint ma' ffermwyr yn rhoi mewn (i'w gwaith)... na pha mor anodd yw e i berson ifanc fel fi i drio cymryd fferm ymlaen."
Roedd Alun Thomas, 52 yn credu bod y protestiadau diweddar yng Nghymru wedi bod yn "agoriad llygad" i wleidyddion, gan eu hannog nhw i edrych yn fanylach ar gefn gwlad.
"Mae'n amser am newid - smo' chi'n gwybod be sy'n mynd i ddod," meddai.
Fe ledodd brotestiadau gan ffermwyr ar draws Cymru yn sgil cyhoeddi'r ymgynghoriad diweddaraf ar Gynllun Ffermio Cynaliadwy newydd y llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd.
Dyma'r cynllun fydd yn cymryd lle'r hen daliadau i ffermydd oedd yn dod o'r Undeb Ewropeaidd - gan gynnig cyllid wedi'i gysylltu â chyrraedd amcanion amgylcheddol.
Ond mae undebau amaeth wedi dadlau nad yw agweddau o'r cynllun yn ymarferol, a byddai'n arwain at golli swyddi.
Wythnos cyn i'r etholiad cyffredinol gael ei gyhoeddi, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod am oedi cyflwyno'r cynllun am flwyddyn arall a sefydlu grŵp arbenigol - gan gynnwys ffigyrau amaethyddol ac amgylcheddol - i geisio dod i gytundeb ar yr agweddau oedd yn peri trafferth.
Yn ôl y gweinidogion, roedd hyn yn dangos eu bod yn gwrando ar bryderon y diwydiant, ond mae eu gwrthwynebwyr gwleidyddol wedi cymryd mantais lawn o'r sefyllfa.
Fe lansiodd y Ceidwadwyr Cymreig eu hymgyrch ar gyfer yr etholiad ar fferm, tra bod Plaid Cymru wedi cynnal digwyddiad i'r wasg mewn mart hefyd.
Dywedodd Elin Jenkins, swyddog polisi Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) bod y pleidiau "bendant" yn gwneud ymdrech i apelio at ffermwyr yn ystod yr ymgyrch.
Mae'r undeb wedi gorfod trefnu nosweithiau hystings ychwanegol, oherwydd y diddordeb gan ymgeiswyr i siarad gyda ffermwyr, meddai.
Eu prif alwad ar y pleidiau yw sicrhau mwy o gyllideb ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru.
Daw hyn yn dilyn ffrae rhwng Bae Caerdydd a San Steffan yn ystod y blynyddoedd diwethaf ynglŷn ag a oedd addewid i gynnig yr un faint o gyllid a oedd ar gael cyn Brexit wedi'i gadw gan Lywodraeth Geidwadol y DU.
Mae £238m ar gael ar hyn o bryd i dalu'r prif gymhorthdal y mae ffermydd Cymru yn dibynnu arno.
'Angen dros £500m y flwyddyn'
Ond mae UAC am weld "o leiaf £450m y flwyddyn" mewn cyllid sydd wedi'i warchod ar gyfer amaethyddiaeth a datblygiad gwledig yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae'r undeb amaethyddol arall NFU Cymru yn dweud bod angen dros £500m y flwyddyn "er mwyn cyrraedd yr uchelgeisiau y mae pawb yn eu rhannu o ran bwyd, hinsawdd a natur".
"Dyw'r gyllideb yna nid dim ond yn cefnogi ffermio a chynhyrchu bwyd, ond mae'n cynnig dyfodol i gymunedau gwledig - ein hysgolion lleol, ein siopau lleol a'r iaith Gymraeg," meddai Ms Jenkins.
Ar wahân i fwy o gyllid - mae cyrff amaethyddol Cymreig hefyd eisiau gweld mwy o graffu ar gytundebau masnach a thegwch o ran rheolau mewnforio ac allforio ar ôl Brexit, ychwanegodd.
Mae grwpiau amgylcheddol wedi galw hefyd am gynnydd sylweddol mewn gwariant i gefnogi "amaethu natur-gyfeillgar" gan lywodraeth nesa'r DU.
Mae'r Wildlife and Countryside Link, casgliad o 82 sefydliad cadwraeth, wedi dweud bod angen dyblu'r cyllid presennol i "o leiaf £6bn y flwyddyn" ar draws y DU.
Dywedodd Arfon Williams, pennaeth polisi tir a môr RSPB Cymru y byddai hyn yn golygu "isafswm o £500m y flwyddyn" i Gymru.
"Mae symud i ffwrdd o bolisi amaeth cyffredin yr UE i gynllun newydd yng Nghymru yn golygu ein bod ni'n gofyn i'n ffermwyr ni 'neud lot mwy," meddai.
"Mae ond yn rhesymol bod 'na gyllideb uwch yn dod gyda'r gofynion yna."
"Dyma'r un cyfle sydd gyda ni yma yng Nghymru i sicrhau cynllun fydd yn helpu ffermwyr helpu ni gyrraedd bob math o dargedau amgylcheddol - ac ecosystemau ry'n ni gyd yn dibynnu arnyn nhw."
Beth mae'r pleidiau yn ei ddweud?
Dywedodd Plaid Cymru mai eu blaenoriaeth oedd "gwarchod dyfodol ffermydd teuluol".
Maen nhw'n cynnig rhoi'r hawl i Gymru wahardd unrhyw gytundebau masnach arfaethedig yn y dyfodol fyddai'n "tanseilio cymunedau amaethyddol Cymreig".
Ac o ran cyllid, maen nhw'n dweud bod "rhaid dychwelyd i lefelau fel yr oedden nhw cyn Brexit mewn termau real".
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud eu bod yn "falch o sefyll gyda'r miloedd (o ffermwyr) a fynychodd brotestiadau ar draws Cymru".
Fe fydden nhw'n "cynyddu buddsoddiad ar draws y DU mewn ffermio gan £1 biliwn yn ystod y pum mlynedd nesa... gan sicrhau bod cyllid sydd wedi'i anfon at Lywodraeth Cymru ar gyfer ffermwyr Cymreig yn cynyddu gyda chwyddiant," meddai llefarydd, wnaeth ychwanegu bod y blaid am weld Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn cael ei ollwng a'i ail-ddylunio.
Dywedodd Llafur Cymru bod dyfodol llwyddiannus i amaeth yng Nghymru yn golygu "cynhyrchu bwyd cynaliadwy, edrych ar ôl ein hamgylchedd a sicrhau ein cymunedau gwledig, tra'n goresgyn yr argyfyngau hinsawdd a natur".
Maen nhw'n ychwanegu fod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn "allweddol i gyflawni hyn" a'u bod yn "parhau i weithio mewn partneriaeth gyda'r gymuned amaethyddol, grwpiau amgylcheddol ac eraill i greu cynllun sy'n gweithio ar gyfer y tymor hir".
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymrwymo i wario £1bn ychwanegol ar "gefnogi ffermio proffidiol, cynaliadwy sy'n gyfeillgar i natur," fyddai'n golygu £50m yn fwy i Gymru.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod am ail-negydu cytundebau masnach "trychinebus" gydag Awstralia a Seland Newydd a "rhoi'r gallu i'n ffermwyr fasnachu a'n cymdogion Ewropeaidd" a llai o rwystrau.
Treblu'r arian sy'n cael ei wario ar amaethyddiaeth yn San Steffan yw addewid y Blaid Werdd "er mwyn cefnogi'r newid i ffermio cynaliadwy".
Mae’r blaid hefyd yn dweud y bydd yn gweithio gyda ffermwyr ac eraill i “drawsnewid ein system bwyd a ffermio” gyda “chyflog teg i dyfwyr”, a chynyddu faint o fwyd sy’n cael ei dyfu a’i fasnachu yn y DU gan geisio gwneud hynny "mor lleol â phosib".
Mae Reform UK yn dweud eu bod yn cydnabod "pwysigrwydd hanfodol" amaethyddiaeth i economi Cymru, yn ogystal â'r "heriau" sy'n wynebu ffermwyr.
Maen nhw'n dweud eu bod "yn anelu at sicrhau dyfodol llewyrchus i amaethyddiaeth yng Nghymru" drwy gynyddu'r gyllideb ffermio i £3 biliwn.
Maen nhw hefyd yn bwriadu dileu “cymorthdaliadau ffermio sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd sydd ddim o fudd uniongyrchol i gynhyrchu bwyd”, cyflwyno taliadau uniongyrchol i ffermwyr, yn ogystal â lleihau “y baich biwrocrataidd ar ffermwyr”.