Aaron Ramsey yn ymuno â chlwb Pumas ym Mecsico

Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe orffennodd Pumas yn y chweched safle yn Uwch Gynghrair Mecsico y tymor diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae capten tîm pêl-droed Cymru, Aaron Ramsey, wedi ymuno gyda chlwb Pumas UNAM, neu Club Universidad Nacional, ym Mecsico.

Y gred yw ei fod wedi arwyddo cytundeb blwyddyn o hyd gyda'i glwb newydd.

Ramsey, 34, yw'r chwaraewr adnabyddus cyntaf o'r Deyrnas Unedig i chwarae yng nghynghrair Mecsico.

Cafodd Ramsey ei benodi'n rheolwr dros dro ar Gaerdydd ar gyfer tair gêm olaf yr Adar Gleision yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf ar ôl i'r clwb ddiswyddo Omer Riza.

Ond disgynnodd y tîm i Adran Un ac fe gadarnhaodd Ramsey ym mis Mehefin y byddai'n gadael y clwb.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.