Dynes yn y llys wedi ei chyhuddo o lofruddio ei mab

Karolina ZurawskaFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Karolina Zurawska yn cael ei thywys i'r llys fore Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes sydd wedi ei chyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth ei mab yn Abertawe wedi ymddangos yn y llys ddydd Llun.

Mae Karolina Zurawska, 41, wedi’i chyhuddo o lofruddiaeth mewn cysylltiad â marwolaeth Alexander Zurawski, chwech oed, mewn eiddo ar Glos Cwm Du, Gendros ddydd Iau.

Mae hi hefyd wedi’i chyhuddo o geisio llofruddio mewn cysylltiad â digwyddiad yn ymwneud â dyn 67 oed yn gynharach ar yr un dyddiad.

Mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Abertawe, fe wnaeth Ms Zurawska ond siarad i gadarnhau ei henw, ei chyfeiriad a'i dyddiad geni.

Cafodd ei chadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Alexander Zurawski, 6, ei ddisgrifio gan ei deulu fel plentyn "anhygoel"

Dywed Heddlu'r De nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac yn y gorffennol maen nhw wedi dweud bod Ms Zurawska ac Alexander yn byw gyda'i gilydd.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Chris Truscott bod y digwyddiad wedi bod yn "un trallodus" ac wedi bod yn "sioc anferth i'r gymuned leol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Karolina Zurawska wedi'i chyhuddo o lofruddio ei mab chwech oed yn Abertawe

Mewn teyrnged i Alexander, dywedodd ei deulu ei fod yn "blentyn caredig iawn" a'i fod "wrth ei fodd yn chwarae gyda’i chwaer fach a’i gi, Daisy".

“Roedd Alexander bob amser yn ymddwyn yn dda a byth yn ddrwg," meddai'r deyrnged.

“Roedd yn glyfar iawn ac yn aeddfed iawn am ei oedran. Roedd ganddo ddealltwriaeth wych o ffeithiau ac yn siarad Saesneg a Phwyleg.

“Roedd Alexander bob amser yn barod i helpu. Bob amser yn awyddus i helpu gyda choginio a glanhau... Roedd yn anhygoel."