£2m i droi adeiladau gwag Stryd Fawr Bangor yn siopau a fflatiau

Stryd Fawr Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r nifer o siopau gwag ar Stryd Fawr Bangor wedi cynyddu ers y pandemig

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu buddsoddi £2.25m er mwyn adfywio Stryd Fawr Bangor.

Mae nifer y siopau gwag ar y Stryd Fawr wedi cynyddu ers y pandemig ac mae ansawdd sawl adeilad wedi dirywio gydag amser.

Bydd yr arian, sy'n cynnwys bron i £1m o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, yn cael ei ddefnyddio i geisio lleihau faint o eiddo gwag sydd yng nghanol y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi a'r Gymuned, fod y cynllun yn "gam sylweddol" i fynd i'r afael â'r broblem sydd wedi bod yn "her fawr" i'r ddinas.

Yn ogystal â mynd i'r afael ag adeiladau gwag, bydd yr arian yn mynd at grantiau o hyd at £200,000 i berchnogion adeiladau.

Y bwriad yw y bydd hynny'n galluogi eu hailddatblygu i fod yn gyfuniad o unedau masnachol fel siopau a chaffis ar y llawr gwaelod, gyda fflatiau ar y lloriau uchaf yn y gobaith o ddenu busnesau a thenantiaid newydd.

'Cam sylweddol ymlaen'

Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes: "Mae eiddo gwag yn parhau i fod yn her fawr i'n trefi a'n cymunedau, ac nid yw hyn yn fwy amlwg nag yn unig ddinas Gwynedd a'i chanolfan isranbarthol bwysig.

"Mae'r fenter hon yn gam sylweddol ymlaen i fynd i'r afael â'r materion hyn drwy weithio'n agos â pherchnogion eiddo ac ailsefydlu sianeli cyfathrebu a allai fod wedi bod ar goll yn y gorffennol.

"Ein gobaith yw y bydd Menter Eiddo Gwag Bangor nid yn unig yn chwarae rhan hanfodol yn adfywio Bangor, ond hefyd yn creu model y gellir ei efelychu ledled Gwynedd."

'Buddion i bobl leol, busnesau ac ymwelwyr'

Dywedodd Ysgrifennydd Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant y byddai'r fenter yn "dod â buddion parhaol i bobl leol, busnesau ac i ymwelwyr – yn sicrhau adfywiad cynaliadwy o ein cymunedau, sydd ei hangen ac yn haeddu".

"Mae strategaeth adfywio Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys ym Mangor, drwy ddod â rhagor o gartrefi gwag yn ôl i ddefnydd gweithredol ac adfywio ein canol trefi a dinasoedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig