Dyn, 19, yn pledio'n euog i achosi anafiadau difrifol ym Methesda

Stryd Fawr Bethesda
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn ymwneud â digwyddiad ar Stryd Fawr Bethesda fis diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 19 oed wedi pledio'n euog i sawl trosedd ar ôl i berson gael ei daro gan gar ym Methesda yng Ngwynedd fis Awst.

Fe blediodd Thomas Baker yn euog i achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad, gyrru'n beryglus, gyrru pan oedd wedi'i wahardd a gyrru heb yswiriant wedi'r digwyddiad ar 18 Awst.

Clywodd y llys bod Baker wedi achosi niwed corfforol difrifol i David Thomas, ac fe blediodd yn euog hefyd i ymosod ar Michael Smith.

Wrth ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun, cafodd Baker rybudd gan y barnwr Timothy Petts mai "carchar yw'r unig ganlyniad posib".

Cafodd ei gadw yng Ngharchar y Berwyn yn Wrecsam tan ei wrandawiad dedfrydu.