Neil Foden: 'Pryderon wedi'u codi gyda Chyngor Gwynedd'
- Cyhoeddwyd
Cafodd pryderon am Neil Foden eu codi gyda Chyngor Gwynedd, wnaeth ymchwilio a pheidio gweithredu ymhellach, mae llys wedi clywed.
Mae Mr Foden - a oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - yn gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â phum plentyn.
Mae'r honiadau'n dyddio o Ionawr 2019 hyd at Fedi 2023 ac yn cynnwys cyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.
Dywedodd athro wrth y llys ddydd Iau ei fod wedi cysylltu gyda chyfarwyddwr addysg y cyngor sir yn 2019 oherwydd pryderon ynghylch yr hyn a ddisgrifiodd fel "ymddygiad amhriodol" Mr Foden gyda merch yn ei harddegau.
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2024
Dywedodd ei fod wedi gwneud hynny ar ôl rhybuddio Mr Foden yn uniongyrchol ei fod yn creu risg o fod yn destun cyhuddiadau.
"Doedd hi ddim yn ymddangos ei fod yn derbyn y cyngor," dywedodd.
Dyna pryd y cysylltodd gyda'r cyfarwyddwr addysg, Garem Jackson.
"Dywedodd Mr Foden wrtha i ei fod yn siomedig fy mod wedi gwneud hynny," meddai wrth y llys.
Yn ddiweddarach, fe gysylltodd Mr Jackson â'r ddau ddyn, gan ddweud bod ymchwiliad wedi ei gynnal a bod dim camau gweithredu.
"Fe oerodd ein perthynas wedi hynny," meddai'r tyst, gan ychwanegu na welodd unrhyw newid yn ymddygiad Mr Foden.
Yn gynharach, clywodd y rheithgor fod uwch aelod o staff wedi codi pryderon ynghylch ymddygiad amhriodol Mr Foden cyn iddo gael ei arestio.
Dywedodd yr aelod o staff wrth Lys y Goron Yr Wyddgrug, ar un achlysur iddi weld merch yn ei harddegau yn mynd i mewn i gar Neil Foden, 66, o Hen Golwyn.
Ychwanegodd ei bod "yn meddwl ei fod [Mr Foden] yn creu risg i'w hun" ar ôl iddi ei weld gyda merch.
Dywedodd ei bod hithau ac eraill wedi trafod y peth gyda Mr Foden ond "ni newidiodd ei ymddygiad".
Eglurodd nad dyma'r tro cyntaf i bryderon gael eu mynegi, a bod uwch aelod o staff arall wedi cysylltu'n flaenorol gyda Chyngor Gwynedd ynghylch Mr Foden.
Aeth ymlaen i ddweud wrth y rheithgor ei bod yn bresennol pan gyflwynodd merch, sy'n cael ei hadnabod yn yr achos fel Plentyn A, honiadau yn erbyn Mr Foden.
Dywedodd: "Roedd hi'n crio, roedd hi'n ymddiheuro'n gyson, roedd hi'n chwerthin yn sgil nerfusrwydd… roedd hi wedi cynhyrfu'n lân."
'Wedi fferru gan ofn'
Ychwanegodd y tyst bod Plentyn A "wedi fferru gan ofn" am ei bod yn meddwl bod Mr Foden yn gwybod bod rhywbeth o'i le wedi iddi wrthod ei gyfarfod y diwrnod cynt.
Dywedodd fod Plentyn A wedi dweud wrthi fod Neil Foden wedi dweud iddi "fynd â'r gyfrinach i'r bedd".
Wrth gael ei chroesholi, dywedodd yr uwch aelod o staff bod "yn meddwl yn uchel" o Mr Foden, a bod ganddi lawer o barch tuag ato am fod yn "ddigyfaddawd" a "thosturiol".
Dywedodd bod ei byd "wyneb i waered" oherwydd iddo gael ei arestio, a'r honiadau yn ei erbyn.
Dydd Mercher, clywodd y llys gan athrawes a ddywedodd bod Plentyn A wedi "dychryn yn ofnadwy" wrth iddi sôn am ei pherthynas gyda Mr Foden.
"Dywedodd y plentyn 'dwi ddim yn siŵr sut i ddweud hyn, gaf i ddangos rhywbeth ar fy ffon?'," meddai'r athrawes, gan ychwanegu bod y ferch yn anadlu yn drwm iawn.
"Fe ddangosodd hi lun i mi ohoni hi a Neil Foden yn ei gar - roedd hi'n pwyso arno fel y byddai rhywun yn gwneud i'w partner."
Esboniodd yr athrawes ei bod hi mewn sioc ar ôl clywed yr hyn yr oedd gan y ferch i'w ddweud.
Ychwanegodd bod Plentyn A wedi rhoi crys iddi, yr oedd hi'n honni oedd yn eiddo i Mr Foden.
Defnyddio enw ffug
Aeth y ferch ymlaen wedyn, meddai'r athrawes, i drafod y negeseuon WhatsApp a gafodd eu gyrru rhwng y ddau.
Fe ddangosodd Plentyn A bod rhif Mr Foden wedi ei arbed yn ei ffon dan yr enw ffug 'Nick Jones'.
Nododd y ddynes hefyd bod y ferch wedi mynd yn ei blaen i sôn am y cofleidio, cusanu a gweithgaredd rhywiol oedd wedi digwydd rhwng y ddau dros gyfnod o chwe mis.
"Dywedodd hi [Plentyn A] nad oedd hi eisiau i hynny ddigwydd, nad oedd hi'n hapus ond ei fod o [Mr Foden] wedi parhau," meddai.
Clywodd y llys fod y plentyn wedi rhoi ei ffôn a'i chyfrinair i'r athro cyn i'r mater gael ei gyfeirio at Wasanaethau Cymdeithasol Gwynedd a'r heddlu.
Mae'r achos yn parhau.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.