Torcalon rhieni merch fu farw tra'n ymweld â'i mam-gu yn yr ysbyty
![Mabli Cariad Hall](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/5793/live/ecad01c0-e7b6-11ef-ae7d-97b156abf29f.jpg)
Bu farw Mabli Cariad Hall bedwar diwrnod ar ôl i gar daro ei phram
- Cyhoeddwyd
Mae teulu ifanc wedi datgelu manylion torcalonnus am ddiwrnod pan fu farw eu merch fach tra'n ymweld â'i mam-gu yn yr ysbyty.
Mae'r hyn a ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw ym mis Mehefin 2023 yn "sefyllfa y tu hwnt i ddychymyg", meddai Rob Hall.
Cafodd Mabli Cariad Hall, wyth mis oed o Gastell-nedd, ei lladd ar ôl cael ei tharo gan gar y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.
Roedd hi yno gyda'i thad, Rob, a oedd yn wynebu'r sgyrsiau olaf â'i fam ef - a oedd yn byw gyda chlefyd motor niwron.
Dweud celwydd wrth ei fam
Tua hanner dydd ar 21 Mehefin, roedd Rob, ei frawd a Mabli ger mynedfa'r ysbyty pan aeth car BMW gwyn yn sydyn allan o reolaeth a'u taro.
Cafodd Rob ei daflu i'r awyr a'i anafu - ond y peth cyntaf a oedd ar ei feddwl oedd Mabli.
"Y peth nesa fi'n cofio yw rhywun yn cerdded heibio fi yn dal corff difywyd Mabli," meddai Rob mewn cyfweliad gyda WalesOnline.
"Fydda' i byth yn gallu esbonio sut deimlad oedd hwnnw."
Cafodd Mabli anafiadau difrifol a'i chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Ond gan fod gymaint o feddygon yn rhoi gofal i Mabli, doedd dim lle i'w rhieni - Rob a Gwen - a oedd yn gorfod gwneud y daith 100 milltir i'r dwyrain yng nghefn car heddlu.
Chawson nhw ddim gweld eu merch am sawl awr wedyn, a bu'n rhaid trosglwyddo Mabli am ofal pellach i ysbyty ym Mryste.
![Llun o rieni Mabli](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/14a7/live/e53365b0-e860-11ef-a819-277e390a7a08.jpg)
Mabli Cariad Hall gyda'i rhieni, Rob a Gwen
Yn y cyfamser, roedd Rob yn dygymod â marwolaeth ei fam, a aeth i'w bedd heb wybod fod Mabli yn brwydro am ei bywyd.
"Nes i ddweud celwydd wrthi," meddai Rob, wrth gofio'n ôl i'w sgwrs FaceTime olaf gyda'i fam.
"Doedd hi ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd i Mabli, nes i ddim dweud wrthi.
"Roedd hi eisiau gwybod pam mod i ddim yno [yn Ysbyty Llwynhelyg gyda hi] achos o'n i wedi bod yno am y bythefnos a hanner cyn hynny, ond o'n i ddim yna ar y diwedd."
Bu farw ei fam tua dwy awr ar ôl yr alwad.
"Dwi'n eistedd mewn ystafell ysbyty ym Mryste, wrth ymyl fy merch fach oedd yn brwydro am ei bywyd ac yn galaru am farwolaeth fy mam.
"Does gen i ddim y geiriau i ddisgrifio'r sefyllfa yna."
Er gwaethaf ymdrechion meddygon, bu farw Mabli yn Ysbyty Plant Bryste yn gynnar fore Sul, 25 Mehefin.
![Mabli Cariad](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1800/cpsprodpb/e746/live/422e1c70-e7c0-11ef-ae7d-97b156abf29f.jpg)
Roedd Mabli yn fabi i'r teulu ac yn cael ei charu gymaint, meddai ei mam, Gwen
Misoedd ar ôl y digwyddiad, fe blediodd Bridget Curtis, 71 oed o Begeli yn Sir Benfro, yn euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Roedd y broses gyfreithiol i gael cyfiawnder i'w merch fach yn hir a phoenus, meddai Rob, gyda sawl dyddiad llys yn cael eu gohirio.
Ond fis diwethaf, cafodd Curtis ei dedfrydu i bedair blynedd o garchar.
Wrth ei dedfrydu, dywedodd y barnwr Geraint Walters fod yr "olygfa o'r car yn cyflymu, cyn y gwrthdrawiad, yn rhywbeth na all geiriau ddisgrifio".
"Mae'n rhaid ei weld er mwyn ei gredu," meddai.
"Dwi'n derbyn yn llawn na wnaethoch chi fwriadu anafu unrhyw un, ond mae'n anodd dychmygu achos mwy di-ofal, ac o ganlyniad, peryglus."
'Cyfan oedd hi'n wybod oedd cariad'
Mae Rob a'i wraig Gwen wedi parhau i gofio eu merch drwy godi arian ar gyfer yr elusen 2 Wish, sy'n cefnogi teuluoedd sydd wedi colli plentyn yn annisgwyl.
Hyd yma, maen nhw wedi codi dros £14,000.
Wrth siarad am ei merch, dywedodd Gwen mai Mabli oedd "cannwyll llygad pawb".
"Roedd hi'n fabi i'r teulu ac yn cael ei charu gymaint," meddai.
"Yn y cyfnod hwnnw o ansicrwydd gyda mam Rob yn yr ysbyty, Mabli wnaeth i ni gyd wenu trwy hynny oherwydd ei bod hi'n fabi diniwed a'r cyfan roedd hi'n ei wybod oedd cariad, y cyfan roddodd hi oedd cariad.
"Bydd hi bob amser yn rhan o'n bywydau, bob dydd, ac rydym yn meddwl amdani trwy'r amser. Hi oedd y babi hapusaf i mi ei adnabod erioed."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2024