Dim DNA newydd yn adolygiad marwolaeth Gareth Williams

Gareth Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Gareth Williams ei ddarganfod ym mis Awst 2010

  • Cyhoeddwyd

Mae adolygiad fforensig i farwolaeth y swyddog MI6, Gareth Williams, yn 2010 wedi methu â chanfod unrhyw dystiolaeth DNA newydd i awgrymu bod rhywun arall yn ei fflat pan fu farw.

Cafodd Mr Williams, 31, o’r Fali ar Ynys Môn, ei ganfod yn farw gan swyddogion heddlu wedi ei gloi mewn bag oedd wedi ei osod mewn bath yn ei fflat yn Llundain.

Daeth cwest yn 2012 i’r casgliad bod ei farwolaeth yn "annaturiol ac yn debygol o fod wedi bod yn ganlyniad i drosedd", ond fe ddaeth ditectifs â'r ymchwiliad i ben flwyddyn yn ddiweddarach.

Dechreuodd y Met adolygiad ym mis Ionawr 2021, ond maen nhw’n dweud nad ydyn nhw wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth newydd.

'Dim llinellau ymchwilio pellach'

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Neil John, yr uwch swyddog ymchwilio: "Ers 2010 mae'r Met wedi cynnal ymholiadau helaeth i farwolaeth Gareth.

"Dechreuodd adolygiad fforensig annibynnol ym mis Ionawr 2021 a chawsom y canfyddiadau ym mis Tachwedd 2023.

"Ni ddaethpwyd o hyd i dystiolaeth DNA newydd a does dim llinellau ymchwilio pellach.

"Rydyn ni wedi rhoi gwybod i deulu Gareth am y canlyniad, ac rydym yn meddwl amdanynt o hyd."

Ychwanegodd y Met y bydd unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth bellach yn cael ei hadolygu gan dditectifs.

Yn 2013, dywedodd teulu Mr Williams eu bod yn credu ym marn y crwner Fiona Wilcox a bod ei dyfarniad yn "adlewyrchu'r amgylchiadau yn gywir".

Ar ôl ei farwolaeth, roedd dyfalu eang yn y cyfryngau y gallai, mewn rhyw ffordd, fod yn gysylltiedig â'r gwaith cudd-wybodaeth cyfrinachol yr oedd yn ymwneud ag ef fel swyddog GCHQ - asiantaeth diogelwch a chuddwybodaeth y llywodraeth.

Yn dilyn marwolaeth y mathemategydd dawnus, nid oedd gwyddonwyr wedi gallu cael proffiliau DNA llawn o rai o'r samplau a ddarganfuwyd yn y fflat yn Pimlico.

Roedd y penderfyniad i lansio adolygiad fforensig yn dilyn adroddiad yn 2021 gan bapur newydd y Sunday Times, a awgrymodd ei bod yn bosibl y byddai datblygiadau mewn gwyddoniaeth DNA yn caniatáu astudiaeth bellach o flewyn o wallt a ganfuwyd yn y lle.

Mae mwy ar y stori hon ar bodlediad Death of a Codebreaker ar BBC Sounds.

Pynciau cysylltiedig