Callender yn holliach ar gyfer gêm gyntaf Cwpan Rygbi'r Byd

Arweiniodd Alex Callender dîm merched Cymru i fuddugoliaeth dros Awstralia am y tro cyntaf fis diwethaf
- Cyhoeddwyd
Mae cyd-gapten merched Cymru, Alex Callender, yn ffit i wynebu'r Alban yng ngêm agoriadol Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd ddydd Sadwrn.
Roedd amheuaeth a fyddai'r chwaraewr rheng-ôl ar gael, ar ôl iddi anafu ei ffêr yn erbyn Awstralia yn gynharach yn y mis.
Bydd Callender yn arwain tîm gyda Kate Williams yn gyd-gapten iddi, ac mae pum newid o'r golled yn yr ail gêm brawf yn Sydney yn ddiweddar.
Dywedodd Sean Lynn, prif hyfforddwr Cymru, eu bod wedi dewis y "garfan gryfaf sydd ar gael, ar gyfer gêm hanfodol i'r garfan".

Mae disgwyl i Lisa Neumann ennill ei 50fed cap ddydd Sadwrn
Y timau
Cymru: Nel Metcalfe; Lisa Neumann, Hannah Dallavalle, Courtney Keight, Jasmine Joyce-Butchers; Lleucu George, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones, Donna Rose, Alaw Pyrs, Gwen Crabb, Kate Williams (cyd-gapten), Bethan Lewis, Alex Callender (cyd-gapten).
Eilyddion: Carys Phillips, Maisie Davies, Sisilia Tuipulotu, Abbie Fleming, Georgia Evans, Seren Lockwood, Kayleigh Powell, Carys Cox.
Yr Alban: Chloe Rollie; Rhona Lloyd, Emma Orr,Lisa Thomson, Francesca McGhie; Helen Nelson, Leia Brebner-Holden; Leah Bartlett, Lana Skeldon,Elliann Clarke, Emma Wassell, Sarah Bonar, Rachel Malcolm (capten), Rachel McLachlan, Evie Gallagher
Eilyddion: Elis Martin, Molly Wright, Lisa Cockburn, Jade Konkel, Eva Donaldson, Alex Stewart, Caity Mattinson, Beth Blacklock.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl