Unig fanc Caergybi i gau wrth i Santander gau saith cangen

Person yn defnyddio peiriant arian Santander.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Santander wedi cyhoeddi eu bod nhw'n cau 95 cangen ar draws y Deyrnas Unedig

  • Cyhoeddwyd

Mae banc Santander wedi cyhoeddi y bydd saith o'u canghennau yn cau ar draws Cymru.

Ymhlith y rhain mae Caergybi ym Môn, sy'n golygu na fydd unrhyw fanc ar ôl yn y dref.

Dywedodd Aelod Seneddol Ynys Môn, Llinos Medi, bod hynny'n newyddion "trychinebus".

Y rhai eraill fydd yn cau ydy Caernarfon, Bae Colwyn, Treffynnon, Aberdâr, Aberhonddu, a Choed Duon.

Daw wrth i Santander gyhoeddi y bydd 95 cangen yn cau ar draws y Deyrnas Unedig, gan beryglu 750 o swyddi.

Dywedodd y banc fod y newidiadau yn digwydd am fod mwy o gwsmeriaid yn dewis bancio'n ddigidol.

'Penderfyniad anodd iawn'

Bydd canghennau yng Nghaerffili a'r Barri yn wynebu lleihau eu horiau agor, a byddan nhw'n cael gwared ar y cownter o'u cangen yng Nghastell-nedd.

Mae Santander yn anelu i gau bron i chwarter o'u canghennau o fis Mehefin - gan eu gadael â 349 o ganghennau, i lawr o 444.

Daw ar ôl i Grŵp Bancio Lloyds gyhoeddi fis Ionawr y byddan nhw'n cau 136 cangen.

Dywedodd Santander bydd y bylchau gwasanaeth fydd yn cael eu gadael o fewn y cymunedau sy'n colli canghennau, yn cael eu cyflenwi gyda "bancwyr cymunedol".

Bydd y bancwyr yma, meddai Santander, yn ymweld â chymunedau lleol yn wythnosol mewn llefydd fel llyfrgelloedd.

Llinos Medi AS
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r newyddion yn "drychinebus" i dref Caergybi, meddai Llinos Medi

Dywedodd Aelod Seneddol Ynys Môn, Llinos Medi, ei bod wedi bod mewn cysylltiad gyda'r banc.

"Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â Santander ers rhai wythnosau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ailagor yn dilyn y llifogydd."

Ychwanegodd: "Mae newyddion heddiw yn drychinebus i'r dref.

"Mae ymddygiad banciau sy'n gadael ein strydoedd mawr yn dangos amharch llwyr tuag at ein cymunedau. Nid pawb sy'n gallu bancio ar-lein."

Dywedodd Santander fod trosglwyddiadau digidol wedi cynyddu bron i ddwy ran o dair ers 2019, gyda gostyngiad tebyg ar gyfer trosglwyddiadau mewn canghennau.

"Mae cau cangen bob amser yn benderfyniad anodd iawn," meddai llefarydd.

"Rydyn ni'n treulio llawer iawn o amser yn asesu ble a phryd rydyn ni'n gwneud hyn a sut i leihau'r effaith y gallai ei gael ar ein cwsmeriaid."

Pa ganghennau sy'n cau a phryd?

Dyma pryd mae'r canghennau Cymreig i fod i gau:

  • Caergybi - Dim dyddiad cau eto

  • Aberdâr - 24 Mehefin

  • Caernarfon - 7 Gorffennaf

  • Bae Colwyn - 24 Gorffennaf

  • Treffynnon - 13 Awst

  • Aberhonddu - 25 Mehefin

  • Coed Duon - 23 Mehefin