Ramadan: Ryseitiau Elan Dafydd i dorri'r ympryd

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n gyfnod Ramadan i Fwslemiaid, sef mis o ymprydio pan mae hi'n olau dydd.

Un sy'n ymprydio yw Elan Dafydd, sydd wedi ymgartrefu yn Birmingham gyda'i gŵr a'u plant.

Mae hi wrth ei bodd yn coginio ar gyfer ei theulu a'r gymuned yn ehangach, ac mae hi wedi rhannu ambell i rysáit Iftar gyda BBC Cymru Fyw, sef y pryd bwyd sydd yn cael ei fwyta unwaith i'r haul fachlud:

Elan gyda'i gŵr a'u plantFfynhonnell y llun, Elan Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Elan gyda'i gŵr a'u plant

Mae gen i gariad mawr at fwyd, ac mae bwydo eraill yn weithred rinweddol yn Islam. Mae Mwslemiaid yn cael eu hannog i fwydo eraill, yn enwedig yn ystod mis Ramadan, ac i helpu'r rhai sydd mewn angen.

Trwy wneud hynny, gallant gael effaith gadarnhaol ar y byd ac ennill gwobrau yn y dyfodol.

Rydw i'n aml yn rhoi unrhyw fwyd dros ben ar ap sydd yn ei gynnig am ddim i bobl yn yr ardal. Braf ydi medru rhannu bwyd ag eraill ac hefyd gwneud yn siŵr nad ydym yn gwastraffu 'run pryd.

Datys wedi eu stwffio

DatysFfynhonnell y llun, Elan Dafydd

Oeddech chi'n ymwybodol bod datys yn rhan bwysig iawn o Islam? Maen nhw wedi cael eu dathlu ers tro nid yn unig am eu blas melys ond hefyd am y cyfoeth o fuddion iechyd maen nhw'n eu cynnig.

Mae'n draddodiad i dorri ympryd drwy fwyta datys yn gyntaf, ac mae hi hefyd yn arfer i fabi gael blas datys yn ei geg yn fuan wedi iddo gael ei eni.

Cynhwysion

10 datys Medjool

2 lwy fwrdd menyn cnau daear (peanut butter)

1 llwy de naddion (flakes) cnau coco

5 almwn cyfan

2 lwy fwrdd pâst cnau cyll (hazelnut spread)

1 llwy fwrdd cnau pistasio hallt, wedi eu torri'n fân

Dull

  • Torrwch hollt drwy ganol y datys, ond ddim yr holl ffordd drwyddo.

  • Llenwch 5 o'r datys gyda thua hanner llwy de o fenyn cnau daear bob un, ychwanegu almwn cyfan yn y canol, ac ysgeintio'r cnau coco drostyn nhw.

  • Yng ngweddill y datys, rhowch tua hanner llwy de o bâst cnau cyll, ac ysgeintio'r pistasio drostyn nhw.

  • Mwynhewch!

Yakhni Pulao Cyw iâr

Yakhni Pulao Cyw iârFfynhonnell y llun, Elan Dafydd

Pryd Pacistanaidd hynod boblogaidd sy'n bresennol ar bob bwrdd Eid [gŵyl i nodi diwedd Ramadan] a phob achlysur arbennig ydi pulao.

Dyma bryd reis one-pot lle mae'r reis yn cael ei coginio a'i stemio mewn dŵr neu stoc tra bod y cynhwysion eraill yn cael eu hychwanegu'n raddol, fel gwahanol sbeisys, llysiau, pulses ac weithiau cig.

Fel arfer mae gan y pryd gydbwysedd blas cain ac mae'n ysgafn ac yn bersawrus. Mae pulao yn aml yn cael ei weini fel dysgl ochr neu'r prif gwrs, gyda raita neu siytni.

Cynhwysion

Yakhni

(defnyddiwch sbeisys cyfan, nid powdr)

560g cyw iâr ar yr asgwrn, heb groen (gallwch hefyd ddefnyddio cig eidion, oen neu afr)

650ml dŵr

½ nionyn, wedi ei dorri'n fras

½ llwy fwrdd hadau cumin

½ llwy fwrdd hadau coriander

½ llwy fwrdd grawn pupur du

1 ffon 2″ sinamon

1 deilen bae sych

3 choden (pod) cardamom gwyrdd

1 cardamom du

3 chlof

2 lwy de halen

Pulao

275g reis (fel basmati)

60ml olew

2 lwy fwrdd ghee

1 nionyn, mewn sleisys tenau

1 deilen bae sych

½ llwy de hadau cumin

½ llwy de hadau coriander, wedi eu malu yn fras

½ llwy de grawn pupur du

1 ffon 1″ sinamon

1 cardamom du

4-5 ewin garlleg

¾ modfedd sinsir ffres, wedi ei dorri'n fân

½ llwy de halen

2 tsili gwyrdd, wedi eu torri'n fân

1 tomato bach, wedi ei dorri'n fân

1½ llwy fwrdd iogwrt, wedi ei chwipio

*Ychwanegais gorbys (chickpeas) er mwyn ychwanegu protein

Garnais

½ llwy de pupur du wedi ei falu

½ llwy de garam masala

3 llwy fwrdd dail coriander, wedi eu torri'n fân

2 lwy fwrdd dail mint, wedi eu torri'n fân

Yakhni Pulao Cyw iârFfynhonnell y llun, Elan Dafydd

Dull

  • I wneud yr elfen Yakhni, rhowch y cynhwysion hynny gyda'i gilydd mewn sosban fawr a'u mudferwi am tua 20 munud, tan fod y cyw iâr wedi ei goginio, ond ddim yn syrthio oddi ar yr asgwrn.

  • Tynnwch y cyw iâr allan, yna straenio'r stoc, a chael gwared ar y nionod a'r sbeisys sydd ar ôl.

  • Bydd gennych chi tua 650ml o stoc – os ddim, ychwanegwch fwy o ddŵr ato.

  • I wneud yr elfen Pulao, golchwch y reis a'i socian mewn dŵr, yna'i roi i un ochr.

  • Cynheswch yr olew a ghee mewn padell non-stick dros dymheredd canolig. Ychwanegwch y nionyn a'i ffrio nes ei fod yn euraidd.

  • Defnyddiwch ychydig o ddŵr i de-glaze y badell. Pan mae'r dŵr i gyd wedi diflannu, ychwanegwch y sbeisys cyflawn, garlleg, sinsir a'u ffrio am rhyw 2 funud.

  • Ar dymheredd canolig-uchel, ychwanegwch y cyw iâr am 2-3 munud.

Yakhni Pulao Cyw iârFfynhonnell y llun, Elan Dafydd
  • Ychwanegwch yr halen, tsili gwyrdd, tomatos a'r iogwrt, a'u ffrio tan i'r olew ddechrau gwahanu. Yna ychwanegwch y stoc a'i ferwi.

  • Draeniwch y reis, a'i ychwanegu i'r stoc berwedig, a'i ferwi eto.

  • Trowch y gwres i lawr i 'canolig', a gorchuddio'r sosban y rhannol â'r caead, a'i fudferwi am 5 munud.

  • Stemiwch y reis drwy roi lliain sychu llestri o dan y caead a'i gau'n dynn – bydd stêm yn dianc o'r ochrau.

  • Trowch y gwres i lawr a'i goginio am 15 munud. Diffoddwch y gwres a gadael iddo sefyll am 10-15 munud arall. (Peidiwch â sbecian na rhoi tro i'r reis – byddwch yn amyneddgar!)

  • Ysgeintiwch y garam masala, pupur du, coriander a'r mint drosto i'w weini.

Punjabi Aloo Lobia

Punjabi Aloo LobiaFfynhonnell y llun, Elan Dafydd

Os ydych chi awydd pryd heb gig, dyma rysáit poblogaidd yn defnyddio ffa llygaid duon. Gan eu bod yn llawn protein, mae'r ffa hyn yn gyflymach i'w coginio na chorbys neu ffa Ffrengig.

Mae ganddyn nhw flas cnau sy'n ymdoddi mor dda mewn sylfaen o sbeisys nionyn-tomato tangy.

Cynhwysion

3 thaten ganolig, wedi eu plicio

1 tun ffa llygaid duon

2 lwy fwrdd olew

1 llwy de hadau cumin

¼ llwy de asafoetida

1 nionyn mawr, wedi ei dorri'n fân

1 llwy fwrdd sinsir, wedi ei dorri'n fân

1½ llwy fwrdd garlleg, wedi ei dorri'n fân

Halen (yn ôl blas)

½ llwy de powdr turmerig

1 llwy de powdr tsili coch

2 lwy de powdr coriander

1 tsili gwyrdd, wedi ei dorri'n fân

2-3 tomato ffres, wedi eu gwasgu i wneud purée

1½ llwy de garam masala

8-10 ewin garlleg

Punjabi Aloo LobiaFfynhonnell y llun, Elan Dafydd

Dull

  • Cynheswch olew mewn mewn sosban fawr, ychwanegu hadau cumin a gadael iddyn nhw newid lliw.

  • Ychwanegwch yr asafoetida, nionyn, 2 lwy fwrdd o ddŵr a'i gymysgu'n dda. Coginiwch tan i'r nionyn droi'n lled-dryloyw (translucent).

  • Ychwanegwch sinsir a garlleg a'u ffrio am 1-2 munud, yna ychwanegu halen, powdr turmerig, powdr tsili coch a phowdr coriander a 2 lwy fwrdd o ddŵr, a'r tsili gwyrdd, a'i gymysgu'n dda.

  • Tywalltwch y purée tomato i mewn a'i gymysgu, yna'i orchuddio'n rhannol a'i goginio am 4-5 munud.

  • Yn y cyfamser, torrwch y tatws yn eu hanner a'u hychwanegu, yn ogystal â'r ffa llygaid duon a'u ffrio am 1-2 munud.

  • Ychwanegwch y garam masala, ei gymysgu a'i goginio am 3-5 munud. Yna tywalltwch 560ml o ddŵr, ei orchuddio a'i goginio am tua 15 munud, gostwng y gwres i isel a'i goginio am 12-15 munud arall.

  • Cynheswch weddill yr olew mewn padell non-stick, ychwanegu'r garlleg a'u ffrio nes eu bod yn euraidd, yna diffodd y gwres.

  • Rhowch y gymysgedd ar eich plât, ac ychwanegu'r garlleg ar ei ben i'w weini.

Gajar ki kheer

Gajar ki kheerFfynhonnell y llun, Getty Images

Pwdin reis efo moron - rhyfedd, dwi'n gwybod, ond yn hollol hyfryd yr un pryd.

Mae kheer, sef pwdin reis traddodiadol India yn cael ei wneud â llaeth a reis. Oherwydd natur aml-ranbarthol India, mae gwahanol fersiynau o kheer ar gael mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Mae'r rysáit yma'n cael ei wneud yn ystod tymor y gaeaf, pan fydd moron coch llachar Pacistan ar gael yn dymhorol.

Mi driais y rysáit yma am y tro cyntaf yng nghartref fy rhieni yng nghyfraith ac wedi bod yn ei wneud fy hun ers hynny. Mae'n union fel y kheer hufennog arferol, ond gyda melysder y moron, sy'n ychwanegu rhywfaint o liw.

Cynhwysion

1.5 litr llaeth cyflawn

450g moron, wedi eu plicio a'u torri'n fân

50g reis basmati, wedi ei olchi, draenio a'i falu

200g siwgr

80g cnau pistasio neu almwn, wedi eu torri

½ llwy de powdr cardamom

Moron coch PacistanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Moron coch llachar Pacistan

Dull

  • Mewn sosban â gwaelod trwm, cynheswch y llaeth dros dymheredd cymedrol nes iddo ddechrau berwi ychydig, gan ei droi'n aml i atal y llaeth rhag llosgi.

  • Ychwanegwch y moron a'r reis a'i gymysgu. Unwaith i'r llaeth ddechrau berwi eto, trowch y gwres i lawr, a'i goginio nes fod y moron a'r reis wedi meddalu yn llwyr, gan ei droi yn aml. Bydd hyn yn cymryd rhyw 45-60 munud.

  • Ychwanegwch y siwgr, cnau a'r cardamom. Coginiwch bopeth am tua 15-20 munud, nes iddo fynd yn drwchus, gan barhau i'w droi.

  • Tynnwch o oddi ar y gwres a rhoi mwy o gnau ar ei ben os hoffech.

  • Gallwch ei fwyta'n oer, neu mae'n wych pan gaiff ei fwyta'n ffres ac yn gynnes oddi ar y stof!

Chaat ffrwythau

Chaat ffrwythauFfynhonnell y llun, Elan Dafydd

Mae chaat ffrwythau yn salad ffrwythau enwog dros wledydd Asiaidd, sy'n cael ei wneud â ffrwythau ffres a'i daflu mewn dresin sbeislyd tangy.

Gallwch fwynhau'r anhrefn adfywiol hwn fel byrbryd neu bwdin ar ôl pryd.

Mae unrhyw ffrwyth yn gweithio, ond mae'n well i ddefnyddio rhai tymhorol.

Cynhwysion

1 afal

1 gellygen

1 oren

1 mango

5 mefusen

75g grawnwin

45g hadau pomegranad

¼ llwy de halen du (Kala namak)

¼ llwy de powdr cumin wedi ei rostio

½ llwy de chaat masala

¼ llwy de pupur du, wedi ei falu

2 lwy de sudd lemon

6-8 deilen mint, wedi eu torri

Dull

  • Torrwch yr afal, gellygen, oren a mango yn dameidiau, y mefus yn bedwar darn a'r grawnwin yn eu hanner, a rhoi'r ffrwythau i gyd mewn powlen.

  • Ychwanegwch yr halen du, powdr cumin, chaat masala a'r pupur du. Ysgeintiwch y sudd lemon dros y cyfan, i atal y ffrwythau rhag troi'n frown.

  • Cymysgwch bopeth heb stwnsio'r ffrwythau, yna'i roi yn yr oergell am 30-60 munud.

  • Rhowch y dail mint arno i'w weini.

Mwynhewch y coginio a'r bwyta. Ramadan Mubarak!

Pynciau cysylltiedig