Atgyfodi gêm o Bando yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr

Gwylio gêm o bêl-law mewn pentref yng Nghymru. Dim manylion i'r llun
- Cyhoeddwyd
Rygbi a phêl-droed yw'r chwaraeon amlycaf yng Nghymru heddiw, ond wyddoch chi mai gêm o gnapan, bando neu bêl-fas oedd yn boblogaidd ganrif neu ddwy yn ôl?
Ac mae grŵp wedi dod at ei gilydd er mwyn adfer llawer o'r hen chwaraeon Cymreig o'r enw CCC (Campau Celtaidd Cymru).
Dywedodd ysgrifennydd Campau Celtaidd Cymru, Stephen Lake ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru mai eu bwriad ydy atgyfodi'r gêm bando yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Mharc Margam a'r Fro ym mis Mai.
Yn ôl Stephen, mae Margam yn safle perffaith i gynnal twrnameint bando rhwng ysgolion lleol.
"Bydde miloedd ar filoedd yn tyrru i Margam ganrif a hanner yn ôl i wylio bando," meddai.
"Mae yna record hanesyddol o gêm rhwng tîm Margam a Phorthcawl a barodd bedair awr ar y traeth, a Margam yn ennill y dydd."
Gobaith CCC yn y pendraw yw i adfywio rhagor o'r hen chwaraeon Cymreig sy'n perthyn yn uniongyrchol i Gymru a sydd â chyswllt cryf i chwaraeon yn Iwerddon a'r Alban.
Ond beth yn union yw bando, cnapan, pêl-fas a phêl-law? Cymru Fyw aeth i dyrchu.
Pêl-law
Roedd pêl-law yn cael ei chwarae drwy daro pêl galed ledr gyda'ch llaw yn erbyn ochr tŷ neu eglwys, ac o'r 18g, mewn cwrt agored (fel arfer gerllaw tafarn).
Yn debyg i sboncen ond heb y racedi, y bwriad oedd cadw'r bêl o gyrraedd y gwrthwynebwr ond o fewn ffiniau'r cwrt. Byddai'r chwarae'n parhau nes i un cystadleuydd fethu â dychwelyd pêl.
Roedd y sgôr yn cael ei farcio ar y wal flaen, a byddai'r gêm yn cael ei chwarae am wobrau ariannol.

Hen gwrt pêl-law ym mhentref Nelson, Caerffili. Tynnwyd y llun yn 2000
Bando
Roedd bando yn arbennig o boblogaidd yn y 18g gan barhau mewn rhannau o'r wlad hyd at tua'r 19g.
Nid yw'n gêm annhebyg i hoci neu hurling yn Iwerddon ond roedd y rheolau'n amrywio o fro i fro.
Byddai'n cael ei chwarae ar feysydd gwastad, weithiau ar draethau, rhwng dau dîm o hyd at hanner cant o chwaraewyr yr un.
Fel chwaraeon gwerinol eraill, nid oedd rheolau pendant ar wahân i'r nod o yrru pêl i gôl ar y naill pen a'r llall o'r maes chwarae, a oedd weithiau'n eang iawn.
Y bando oedd enw'r ffon bren gyda blaen gron i chwarae'r gêm.
Yn ôl straeon llawr gwlad, roedd y Prif Weinidog David Lloyd George yn chwaraewr bando brwd yn ei ieuenctid.

Ffon Bando o tua 1845, oedd yn perthyn i Thomas Thomas, aelod o'r Margam Bando Boys
Pêl-fas
Roedd pêl-fas yn boblogaidd iawn yn ardal Caerdydd a Chasnewydd ymysg gweithwyr y dociau.
Gêm bat a phêl yw pêl-fas ac esblygodd o gyfuniad o gemau bat a phêl ers yr Oesoedd Canol.

Tîm Pêl Fâs Y Rhath yn 1905
Cnapan
Gêm rhwng dau bentref oedd cnapan.
Byddai pêl bren fechan wedi'i hiro gyda saim yn cael ei gollwng hanner ffordd rhwng y ddau bentref a'r nod oedd ceisio ei chario i gôl y gwrthwynebwyr e.e. eglwys neu goeden.
Eto, nid oes sicrwydd beth oedd y rheolau'n iawn, ac mae'n bosib nad oedd llawer ohonynt! Ond yn fras doedd dim hawl cicio'r bêl, doedd dim rhaid cael yr un nifer yn y ddau dîm, ac i sgorio roedd rhaid taro'r postyn.
Roedd llawer o fetio a thrais yn gysylltiedig â'r gêm, a daeth yr arferiad o'i chwarae mewn ardaloedd fel gogledd Sir Benfro i ben oherwydd hynny.
Pynciau cysylltiedig
Gwyliwch bentrefi Nanhyfer a Threfdraeth yn chwarae gêm o gnapan:
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 Chwefror