Wyth o fanciau Lloyds a Halifax yng Nghymru i gau

Arwydd Lloyds BankFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Grŵp Bancio Lloyds yn bwriadu cau wyth cangen yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'r grŵp sydd yn berchen ar fanciau Lloyds a Halifax wedi cyhoeddi cynlluniau i gau wyth o'u canghennau yng Nghymru.

Yn ôl Grŵp Bancio Lloyds, mae'n rhaid iddyn nhw wneud toriadau er mwyn arbed arian, ac wrth i gwsmeriaid droi at wasanaethau bancio ar-lein.

Mae'r cwmni'n bwriadu cau pedair cangen Banc Lloyds - yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, Pont-y-clun, Pontardawe a Doc Penfro - a phedair cangen Halifax - ym Mhontypridd, Caerfyrddin, Yr Wyddgrug a'r Rhyl.

Bydd gweithwyr yn y canghennau dan sylw yn cael cynnig gwaith yn safleoedd eraill y cwmni.

Mae'n rhan o gynlluniau Grŵp Bancio Lloyds i gau 136 cangen Lloyds, Halifax a Bank of Scotland ar draws y DU rhwng mis Mai eleni a mis Mawrth 2026.

Cangen Halifax
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pedair cangen Halifax yng Nghymru yn cau erbyn mis Mawrth 2026

Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp bod y defnydd o wasanaethau yn y safleoedd fydd yn cau wedi gostwng 48% ar gyfartaledd dros y bum mlynedd ddiwethaf wrth i gwsmeriaid ddefnyddio gwasanaethau digidol.

Ychwanegodd llefarydd: "Mae dros 20 miliwn o gwsmeriaid yn defnyddio ein ap i gael mynediad i'w harian ac mae gan gwsmeriaid fwy o ddewis a hyblygrwydd ar gyfer eu bancio nag erioed."

Dywedodd llefarydd bod cwsmeriaid hefyd yn gallu bancio dros y ffôn, defnyddio canghennau eraill neu fynd i Swyddfa'r Post a'r Hwb Bancio.

Pynciau cysylltiedig