Addysgu gartref: 'Llwybr gwerthfawr i ni fel teulu'

Fritha a'r plantFfynhonnell y llun, Fritha Quinn
  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Yn 2020, dechreuodd Fritha Quinn, dolen allanol a'i gŵr o Gaerdydd addysgu eu plant o gartref yn lle mewn ysgol. Yma mae hi'n egluro pam:

Plant yn dysguFfynhonnell y llun, Fritha Quinn

"Penderfynodd ein teulu ni ddechrau addysgu ein plant gartref oherwydd ein bod eisiau rhoi addysg mwy personol i'n plant; addysg oedd yn cwrdd â'u hanghenion a'u diddordebau ar gyflymder oedd yn gweithio iddyn nhw.

"Roedden ni wedi meddwl am addysgu gartref ychydig dros y blynyddoedd, ond y pandemig yn 2020 a roddodd gipolwg i ni ar y ffyrdd gwahanol o ddysgu.

"Roedd dysgu yn ystod y cyfnod clo yn hollol wahanol i ddysgu gartref, wrth gwrs, ond rhoddodd y cyfle i ni edrych ar y syniad o ddifri' cyn cymryd y cam swyddogol o dynnu ein plant mas o'r ysgol.

"Un o'r prif fuddion yw ein bod ni'n gallu teilwra profiadau dysgu ein plant. Mae addysgu gartref wedi rhoi'r hyblygrwydd i ddysgu mewn ffordd sydd yn gweddu rhythm ein teulu. Rydyn ni'n cael boreau araf, distaw (dwi ddim yn meddwl ein bod wedi bod i grŵp addysg sydd yn dechrau cyn 10.30!) a ddim yn brysio o un pwnc i'r nesaf mewn blociau o awr.

Mynd ar zip-lineFfynhonnell y llun, Fritha Quinn

"Un pryder cyffredin sydd gan rieni sydd yn ystyried addysgu gartref yw gwneud arholiadau ffurfiol, fel TGAU neu Lefel A. Does dim rhaid i'r plant gymryd yr arholiadau yma, ond mae'n bosib iddyn nhw wneud os ydyn nhw'n dewis hynny.

"Mae'n rhaid astudio'n annibynnol a chofrestru fel ymgeiswyr preifat mewn canolfannau arholi lleol. Er fod hyn yn golygu adnoddau a chynllunio ychwanegol, mae'n cynnig yr hyblygrwydd i wneud y cymwysterau ar gyflymder sy'n addas i bob plentyn.

"Mae ein taith hefyd wedi dangos pa mor bwysig yw cymuned a rhwydweithiau cefnogi. Mae bod yn rhan o grwpiau addysgu gartref lleol yma yng Nghaerdydd wedi rhoi amrywiaeth eang o gyfleoedd cymdeithasol i'n plant, ac hefyd i rannu profiadau gyda theuluoedd sydd yn meddwl yr un ffordd.

"Mae hi'n myth fod plant sy'n cael eu haddysgu gartref ddim yn cael cyfle i gymdeithasu. Rydw i'n dadlau fod fy mhlant i'n cael mwy o gyfle i gymdeithasu mewn ffordd arwyddocaol na phan oedden nhw'n yr ysgol.

Fritha a'i merchFfynhonnell y llun, Fritha Quinn

"Dros y bum mlynedd ddiwethaf o addysgu gartref, rydyn ni wedi gweld ein plant yn datblygu cariad tuag at ddysgu, gwell hunan-ysgogiad a'r gallu i wir fynd ar ôl yr hyn sydd o ddiddordeb iddyn nhw.

"Er nad yw addysgu o gartref yn rhywbeth fyddai'n gweithio i bob teulu, mae wedi bod yn llwybr gwerthfawr i ni, gan gynnig addysg rydyn ni'n gallu ei addasu ac un sydd wedi ei diwnio i anghenion unigol ein plant."

Geirfa

addysgu / to educate

gartref / at home

cwrdd / to meet

anghenion / needs

diddordebau / interests

cyflymder / pace

cipolwg / a glimpse

cyfnod clo / lockdown

o ddifri' / seriously

cam swyddogol / official step

buddion / advantages

teilwra / to tailor

profiadau / experiences

hyblygrwydd / flexibility

gweddu / to suit

boreau / mornings

brysio / to rush

pwnc / a subject

pryder / a worry

cyffredin / common

ystyried / to consider

ffurfiol / formal

annibynnol / independent

cofrestru / to register

ymgeiswyr / candidates

adnoddau / resources

cynllunio / to plan

cymwysterau / qualifications

addas / appropriate

rhwydweithiau / networks

amrywiaeth eang / wide variety

cymdeithasol / social

dadlau / to argue

arwyddocaol / meaningful

hunan-ysgogiad / self-motivation

gwerthfawr / rewarding

tiwnio / to tune

Pynciau cysylltiedig