Ysgol lle bu athrawon yn streicio i gosbi disgyblion ar foreau Sadwrn

Alun Ebenezer
Disgrifiad o’r llun,

Alun Ebenezer ydy prifathro Ysgol Cil-y-coed yn Sir Fynwy

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgol yn bwriadu cadw disgyblion i mewn ar foreau Sadwrn o'r penwythnos yma ymlaen, fel ffurf o gosbi.

Daw cyflwyno'r gosb yn sgil ymddygiad gwael yn Ysgol Uwchradd Cil-y-coed yn Sir Fynwy.

Bu aelodau staff yn streicio yn 2023 mewn ymateb i gam-drin corfforol a geiriol gan ddisgyblion.

Dywedodd Estyn, yr arolygwyr addysg, yn eu hadroddiad diweddaraf fod yr ysgol angen "gwelliant sylweddol".

Ond mae Estyn hefyd wedi nodi bod morâl staff ac ymddygiad disgyblion wedi gwella ers i Alun Ebenezer gael ei benodi yn brifathro yno fis Mehefin diwethaf.

Er hynny, daeth yr ysgol dan y lach yn ddiweddar ar ôl i ddisgyblion ddweud bod nifer o ferched wedi eu hanfon adref oherwydd hyd eu sgertiau.

Glanhau byrddau a hel sbwriel

Dywedodd Mr Ebenezer fod cosbi disgyblion ar y penwythnos eisoes yn rhan o bolisi ymddygiad yr ysgol ers mis Medi - ond dywedodd nad oedd "angen i ni ei ddefnyddio tan nawr".

Pan ofynnwyd i Mr Ebenezer am y trefniadau ar fore Sadwrn i ddisgyblion sy'n dibynnu ar drafnidiaeth am ddim, dywedodd: "Mi wnawn ni bopeth o fewn ein gallu er mwyn sicrhau fod pobl ifanc yn medru bod yn bresennol."

Fel rhan o'r polisi, mae disgwyl hefyd i ddisgyblion lanhau byrddau os ydyn nhw wedi'u fandaleiddio, a hel sbwriel.

Ychwanegodd Mr Ebenezer fod cael rhiant i eistedd wrth ymyl disgyblion yn ystod gwersi ysgol hefyd wedi cael ei weithredu fel cosb.

Bydd chwe disgybl yn mynychu'r cyfnod cosb fore Sadwrn, ac mae'r ysgol yn rhoi addysg i 1,300.

Mewn llythyr i rieni, esboniodd yr ysgol mai'r bwriad yw defnyddio'r gosb pan nad yw cosbau eraill wedi llwyddo.

Mae gan ysgolion yr hawl i gadw disgyblion ar dir yr ysgol ar ddyddiau Sadwrn, ac eithrio'r rhai yn union cyn ac ar ôl gwyliau hanner tymor.

Fe ddylai ystyriaeth gael ei roi i drefniadau teithio ond nid oes gwahaniaeth os ydyn nhw'n "anghyfleus" i rieni.

Pynciau cysylltiedig