Trafferth recriwtio staff yn effeithio ar ansawdd addysg - Estyn

Dosbarth ysgol yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae problemau recriwtio staff i ysgolion - yn enwedig mewn meysydd fel yr iaith Gymraeg, gwyddoniaeth a mathemateg - wedi effeithio ar ansawdd addysg, yn ôl y prif arolygydd addysg a hyfforddiant.

Dywedodd adroddiad blynyddol Estyn ar gyfer 2023-24 bod dirywiad mewn recriwtio "yn peri pryder sylweddol".

Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Owen Evans o Estyn bod "canran y bobl sy'n mynd mewn i ddysgu i fod yn athrawon wedi haneru dros y ddegawd ddiwethaf".

Yn yr arolwg o gyflwr y drefn addysg, mae yna bryder hefyd bod presenoldeb yn parhau i fod yn rhy isel yn dilyn y pandemig

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad yn ofalus a'u bod wedi neilltuo dros £230m o gyllid dros y ddwy flynedd nesaf i wella canlyniadau addysg.

Y Gymraeg yn bryder 'sylweddol'

Roedd cynnydd yn y niferoedd oedd yn gwneud ymarfer dysgu yn ystod y pandemig ond yn ôl yr adroddiad mae recriwtio "wedi gostwng yn sydyn", ac mae "problemau sylweddol" mewn rhai pynciau allweddol.

Yn ôl yr adroddiad: "Mae'r prinder mwyaf sylweddol mewn myfyrwyr sy'n hyfforddi i fod yn athrawon Cymraeg".

Cafodd llai na 25 o fyfyrwyr eu recriwtio i ddysgu'r pwnc ar draws pob canolfan ymarfer dysgu ym mhob un o'r pedair blynedd ddiwethaf, dywedodd Estyn, a hynny'n llai na thraean o'r ffigyrau targed.

Mae'n "bryder mawr" o ran gwireddu'r uchelgais o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, ychwanegodd arolygwyr.

Daw'r rhybudd wrth i'r rhaglen 'Cynllun Pontio' agor unwaith eto - cynllun sydd â'r nod o ddenu athrawon sy'n siarad Cymraeg i ysgolion uwchradd yng Nghymru.

Yn y sector addysg uwchradd mae'r problemau mwyaf dwys.

"Mae'r methiant i ddenu ymgeiswyr newydd i'r proffesiwn wedi effeithio ar ansawdd addysgu a dysgu," meddai'r adroddiad, ac mae'n "parhau i fod yn risg i'r system addysg".

Mae'n crybwyll bod rhai penaethiaid wedi dweud bod y rhai sy'n ymgeisio am swyddi weithiau "ddim yn cyrraedd y safon ofynnol".

Fe allai ymddygiad disgyblion fod yn un rheswm posib am ddiffyg apêl y proffesiwn, yn ôl Estyn, yn ogystal ag apêl swyddi eraill i raddedigion.

Mae'r adroddiad yn dweud bod angen creu cymhellion mwy deniadol megis dileu ffioedd ar gyfer cyrsiau ymarfer dysgu, yn ogystal â gwneud amodau yn fwy apelgar.

Mae'n dweud bod rhai penaethiaid wedi caniatáu i staff weithio o adref am ddiwrnod neu ddod i'r ysgol ychydig yn hwyrach er bod hynny'n anoddach yn sgil pwysau cyllidebol.

Cinio ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae presenoldeb yn parhau'n broblem, yn enwedig ymysg disgyblion o gefndiroedd difreintiedig

Presenoldeb yw un o'r heriau mawr eraill sy'n wynebu'r drefn addysg, yn enwedig i blant o gefndiroedd mwy difreintiedig ac yn y sector uwchradd, meddai'r adroddiad

"Dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, mae'r gyfradd presenoldeb uwchradd wedi cynyddu 0.5% yn unig," dywedodd Estyn.

"Ar y gyfradd wella bresennol, byddai'n cymryd dros 10 mlynedd i bresenoldeb uwchradd wella i'r lefelau cyn y pandemig."

Er bod y ddarpariaeth llesiant a diogelu yn gryf ar draws ysgolion, mae Estyn yn dweud nad oes digon o dystiolaeth o gysondeb o ran addysgu ansawdd uchel, bod yna ddiffyg cysondeb o ran dealltwriaeth o'r cwricwlwm newydd a gwendidau wrth ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd uwch.

Dywedodd y prif arolygydd Owen Evans: "Rydym yn dra ymwybodol o'r pwysau a'r heriau y mae darparwyr addysg yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ond mae angen gwella hunanwerthuso mewn ysgolion a darparwyr eraill i gryfhau'r system.

"Mae angen arweinwyr cryf arnom i ysgogi'r gwelliant hwn, gan fod methiant i wneud hynny'n atal cynnydd gormod o ddysgwyr."

Mwy o arian i 'wella canlyniadau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae adroddiad Estyn yn rhoi barn bwysig, annibynnol ar ein system addysg a byddwn yn ystyried y canfyddiadau'n ofalus.

"Mae Estyn yn glir bod cryfderau sylweddol i'w dathlu ond mae heriau hefyd.

"Rydym eisoes wedi dechrau mynd i'r afael â meysydd lle mae angen i ni weld gwelliant drwy neilltuo £230.5m ychwanegol o gyllid dros y ddwy flynedd nesaf i helpu i wella canlyniadau addysg."