'Rhaid i ysgolion fod yn ddiogel i bawb' - comisiynydd plant
![Ysgol Dyffryn Aman](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/5e42/live/edc6ad00-e6e3-11ef-9c03-b5355c68e892.jpg)
Fe gafodd dwy athrawes a disgybl eu trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman fis Ebrill y llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae angen cymryd gofal gyda mesurau diogelwch ysgolion oherwydd y "pwysau sylweddol" sydd ar athrawon a disgyblion, meddai Comisiynydd Plant Cymru.
Roedd Rocio Cifuentes yn siarad ar ôl i ferch 14 oed cael ei dyfarnu yn euog o geisio llofruddio dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman ar 24 Ebrill 2024.
Ychwanegodd ei bod yn cytuno â phrif arolygydd y corff arolygu ysgolion, Estyn, Owen Evans fod gwahardd plant sy'n cario cyllyll yn ymateb "rhy syml".
Wrth siarad â Vaughan Roderick ar raglen Sunday Supplement, dywedodd Ms Cifuentes fod y digwyddiad mis Ebrill y llynedd yn sioc.
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
"Roedd yn achos trist ac ysgytwol, a diolch byth yn brin iawn," meddai.
"Mae rhaid i ysgolion fod yn ddiogel i bawb, i athrawon ac i ddisgyblion. Rydw i'n cytuno'n gyffredinol gyda phrif arolygydd Estyn fod hwn yn fater cynnil a chymhleth.
"Allwn ni ddim gadael i ysgolion cael eu tynnu i bob cyfeiriad dros hyn. Mae athrawon, plant a phobl ifanc o dan bwysau sylweddol yn barod.
"Dydw i ddim eisiau gweld dull cosbol... rwy'n meddwl y byddai hynny'n niweidiol iawn i blant a phobl ifanc a'u lles."
![Rocio Cifuentes](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/87db/live/64beb840-e6e3-11ef-a319-fb4e7360c4ec.jpg)
"Mae angen i ni hefyd gynnig dewisiadau amgen go iawn i bobl ifanc," meddai'r comisiynydd plant, Rocio Cifuentes
Dywedodd Ms Cifuentes hefyd ei bod yn ymwybodol o'r sefyllfa o ran defnyddio ffonau yn yr ysgol.
Mae'n dilyn adroddiad gan Brifysgol Birmingham ar ddechrau'r mis a oedd yn awgrymu mai ychydig iawn o wahaniaeth y mae gwaharddiad ffonau yn ei wneud o ran gwella graddau neu les meddwl.
Fodd bynnag, roedd yr adroddiad yn awgrymu bod treulio mwy o amser ar ffonau a chyfryngau cymdeithasol yn gyffredinol yn gysylltiedig â graddau is, cwsg gwael, ymddygiad aflonyddgar a diffyg ymarfer corff.
'Ddim am ysgolion yn unig'
Dywedodd Ms Cifuentes mai materion llawer ehangach yn y gymdeithas sy'n gyfrifol am y problemau sy'n eu hwynebu.
"Dydi o ddim ond am be sy'n digwydd yn ysgolion, a hyd yn oed i ysgolion gyda chyfyngiadau ar ddefnyddio ffonau, nid yw o reidrwydd yn cael effaith ar faint mae plant yn defnyddio eu ffonau.
"Mae gennym ni reolau newydd yn dod i rym, drwy'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, a fydd yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i gadw plant yn fwy diogel ar-lein, ac mae gan rieni a theuluoedd rôl i'w chwarae.
"Dydi hyn ddim am be sy'n digwydd mewn ysgolion yn unig... Mae angen i ni hefyd gynnig dewisiadau amgen go iawn i bobl ifanc, ac mae angen i ni fod yn siarad mwy â phlant hefyd."