'Fydden ni ddim yn newid ein bechgyn awtistig am y byd'

efeilliadFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Ioan a Iago wedi iddyn nhw nofio 400m yr wythnos hon

  • Cyhoeddwyd

Mae rhieni i efeilliad 11 oed o Aberystwyth wedi dweud y bydden nhw "ddim yn newid ein bechgyn awtistig am y byd, petawn ni'n cael cynnig i wneud hynny miliwn o weithiau."

Mae Aled ac Angeles Rees wedi bod yn siarad â Cymru Fyw am eu meibion Ioan a Iago ar ddiwedd wythnos codi ymwybyddiaeth am awtistiaeth.

Yr amcangyfrif yw bod un ym mhob saith person yn y DU yn niwro-amrywiol - sy'n cynnwys pobl sydd â dyslecsia, dyspracsia, ADHD, ar y sbectrwm awtistig a chyflyrau niwrolegol arall.

"Maen nhw [yr efeilliaid] yn wahanol - ond yn gwbl arbennig ac ry'n ni am ddathlu hynny, ac wrth gwrs ry'n yn gwbl falch o Mari eu chwaer, sy'n 15 ac yn ail fam iddyn nhw," meddai Mr Rees.

"Mae'n bwysig peidio bod yn negyddol am awtistiaeth - mae'n bechgyn ni yn anhygoel, yn dysgu mwy i ni a ni'n dathlu yr hyn maen nhw yn ei gyflawni bob dydd."

'Deall, derbyn a dathlu'

Ychwanegodd Mr Rees: "Nid yw yr wythnos hon yn ymwneud ag ymwybyddiaeth yn unig.

"Mae'n ymwneud â deall, derbyn a dathlu gwahaniaeth - oherwydd dyna lle mae cymaint o harddwch bywyd.

"Dathlwch yr hyn sy'n gwneud plant awtistig yn unigryw - gweld yr hud ymhob dydd a dewiswch gariad bob amser."

Y teulu yn dathlu pen-blwydd Ioan a IagoFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu yn dathlu pen-blwydd Ioan a Iago

Yn ôl Mr Rees, mae yna beryg rhoi label ar bobl awtistig, ac mae gan rai ddarlun stereoteip o'r hyn maen nhw'n ei wneud, sydd yn aml yn gwbl anghywir.

"Dyw Ioan a Iago ddim yn eu hystafelloedd drwy'r dydd yn chwarae gemau cyfrifiadurol. Allai'r stereoteip hwnnw ddim fod ymhellach o'r gwir," meddai.

"Maen nhw'n mwynhau eu gemau, ydyn - ond maen nhw hefyd wrth eu bodd yn mynd allan, yn treulio amser gydag eraill, a bod yn rhan o fywyd.

"Maen nhw wrth eu bodd â Sonic a Mario, ac mae eu casgliad cynyddol o gonsolau gemau retro yn rhywbeth y maent yn wirioneddol falch ohono.

"Mae eu gallu i gofio ffeithiau a dyddiadau yn rhyfeddol - mae'n bwysig dathlu hynny.

"Maen nhw wedi adeiladu grŵp bach, caredig, ffyddlon o ffrindiau, ac maen nhw hyd yn oed yn dechrau mwynhau cysgu oddi cartref dros nos - rhywbeth o'n ni'n meddwl na fyddai byth yn digwydd.

"Ro'n ni'n poeni hefyd na fyddai neb yn eu gwahodd, ond mae gweld nhw'n cymdeithasu fel hyn yn ein gwneud ni mor falch ohonyn nhw."

'Awtistig ond yn gwbl berffaith'

Ychwanegodd Aled Rees na all orbwysleisio pa mor bwysig yw i beidio disgwyl i blant awtistig "ffitio mewn gyda disgwyliadau arferol bywyd, am eu bod nhw'n wahanol".

"Ddydd Mercher fe nofiodd ein hefeilliaid 400 metr," meddai.

"Nid oedd yn berffaith - nid oedd y strôc i gyd yr un peth, roedd yna rhythm ac yna doedd 'na ddim - ond fe wnaethant hynny gyda phenderfyniad, balchder, a gwên enfawr, a dyna sy'n wirioneddol bwysig.

"Mae ein bechgyn yn awtistig ond maent yn gwbl berffaith - nid er gwaethaf pwy ydynt, ond yn gyfan gwbl o'u herwydd.

"Yn ystod y blynyddoedd cynnar, bu cyfnodau anodd ond mae pob teulu yn cael hynny rhywbryd. Ond ni ddim yn cofio'r cyfnod anodd olaf.

"Maen nhw wedi tyfu cymaint ac wedi dysgu nad yw'n bosib rhagweld o hyd be' sy'n digwydd mewn bywyd."

Dywed Mr Rees hefyd ei bod yn bwysig bod "yn rhagweithiol", ac mae'n rhaid gofyn cwestiynau a sicrhau fod pawb yn deall y gofynion, ac yn fwy na dim bod lleisiau'r bechgyn yn cael eu clywed.

"Maen nhw'n hapus yn yr ysgol, ac mae hynny'n golygu'r byd i ni ac maen nhw yn cael cefnogaeth wych

"Maen nhw wedi addasu mwy nag y byddai llawer o bobl byth yn ei ddisgwyl, ac rydyn ni'n dawel falch o hynny hefyd.

"Felly na, fyddwn ni ddim yn newid dim byd.

"Maen nhw yn ein synnu, yn ein hysbrydoli, ac yn llenwi ein dyddiau â balchder a llawenydd."

Pynciau cysylltiedig