'Ti angen siarad dy famiaith' yn ystod triniaeth canser

"Mae cael cefnogaeth yn Gymraeg yn holl bwysig" meddai Elen Hughes o Lanfairpwll sy'n byw gyda chanser cam pedwar
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi galw am "ymyraethau beiddgar" o blaid yr iaith wrth gyhoeddi maniffesto a blaenoriaethau y mae'n gobeithio y bydd y pleidiau yn eu mabwysiadu cyn etholiad y Senedd yn 2026.
Mae'r rhain yn cynnwys ymestyn safonau'r Gymraeg, creu uned arbenigol i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle, sicrhau hyfforddiant Cymraeg gorfodol ar gyfer y gweithlu addysg a buddsoddi a gweithredu ym maes gofal clinigol.
Mae Elen Hughes o Lanfairpwll, mam i dri, sy'n byw gyda chanser cam pedwar yn croesawu'r argymhellion newydd.
Ers ei diagnosis o ganser y fron yn 2008 mae cael staff meddygol Cymraeg wedi bod yn holl bwysig iddi.
Yn ddiweddar dywedodd ei bod am sefydlu gwefan a chreu podlediadau yn sgil diffyg darpariaeth Cymraeg.
"Mae cael canser yn un o'r adegau yna lle ti wir angen gallu siarad dy famiaith a gallu gwrando mewn modd sy'n gwneud synnwyr i chdi," meddai.
"Mi es i i ffindio gwefannau i America, es i ar forums – a ges i lot fawr o gefnogaeth drwyddyn nhw ond doedd yna fawr ar gael yn Gymraeg.
"O'dd fy nyrs canser y fron yn Gymraeg, roedd rhan fwyaf o'r tîm yn Gymraeg a 'nes i sylweddoli mor lyfli 'di siarad yn dy famiaith.
"Mae cael cefnogaeth yn Gymraeg yn holl bwysig.
"All neb fy mherswadio bod clywed rhywbeth ofnadwy yn mynd i fod yn well mewn unrhyw iaith ond Cymraeg.
"Mae Cymraeg hefyd yn iaith reit swynol sy'n crynhoi y teimladau. Un o fy hoff eiriau yw hiraeth – ac mae gen i hiraeth ofnadwy am y person o'n i.
"Pam 'sen i eisiau siarad efo rywun am hiraeth mewn iaith arall? Mae'n dod o'r galon. Mae'n holl bwysig ein bod yn cael y cyfle i drafod hyn yn Gymraeg."

Bydd cyfnod nesaf y Senedd yn "dyngedfennol i'r Gymraeg" meddai Efa Gruffudd Jones
Dywedodd Efa Gruffudd Jones y bydd cyfnod nesaf y Senedd yn "dyngedfennol i'r Gymraeg".
Mae gan Lywodraeth Cymru darged i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac i ddyblu'r defnydd dyddiol o'r iaith.
Yn ôl canlyniadau'r cyfrifiad diweddaraf, 538,296 o siaradwyr Cymraeg oedd yng Nghymru yn 2021, gostyngiad o dros 23,000 ers 2011.
Mae'r taflwybr i'r miliwn yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y bydd 680,000 o siaradwyr Cymraeg erbyn diwedd cyfnod y Senedd nesaf yn 2030.
'Digyfnewid ers 20 mlynedd'
Yn ôl Efa Gruffudd Jones, mae "sefyllfa'r Gymraeg wedi aros yn gymharol ddigyfnewid ers 20 mlynedd, ac mae'n anorfod bod angen newid meddylfryd a dulliau ymyrryd os am wyrdroi hyn".
Felly y pum blaenoriaeth sydd wedi eu cynnig yn y maniffesto yw:
Dyletswyddau iaith - cynyddu'r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i'r cyhoedd drwy ymestyn safonau'r Gymraeg i feysydd blaenoriaeth;
Cynllunio ieithyddol cymunedol - ymestyn dylanwad y Comisiynydd drwy gryfhau'r safonau hybu fel fframwaith i gydlynu cynllunio ieithyddol cymunedol dwys;
Gweithleoedd - sefydlu uned arbenigol yn swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn gweithleoedd;
Gwasanaeth iechyd a gofal clinigol - trawsnewid gofal clinigol yn Gymraeg drwy fuddsoddi a gweithredu'n ddwys mewn meysydd blaenoriaeth;
Y gweithlu addysg - sefydlu fframwaith hyfforddiant iaith Gymraeg pum mlynedd fel rhan orfodol o hyfforddi fel athro yng Nghymru.
- Cyhoeddwyd7 Ebrill
- Cyhoeddwyd7 Ebrill
- Cyhoeddwyd10 Mawrth
Mae'n dymuno gweld maniffestos etholiad 2026 yn ymrwymo i gyflwyno rheoliadau safonau'r Gymraeg ar gyfer Gweinidogion y Goron, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r adran sydd â chyfrifoldeb dros weithrediad gwasanaethau digidol y llywodraeth (GDS).
Mae'n galw am eu cyflwyno hefyd ar gyfer adrannau ac asiantaethau eraill sy'n darparu gwasanaethau pwysig i bobl Cymru, er enghraifft, Cyllid a Thollau EM, Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), Gwasanaethau Carchardai a Phrawf EM.
O ran cynllunio ieithyddol cymunedol, mae'r comisiynydd yn galw am weithredu prif argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i sefydlu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch.
Y tu hwnt i'r byd addysg, cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn gweithleoedd yw'r maes strategol sydd â'r "potensial mwyaf arwyddocaol i ddylanwadu yn uniongyrchol ar gyfleoedd pobl i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg" ym marn y comisiynydd.
Dywed y byddai "buddsoddiad ychwanegol yn galluogi'r Comisiynydd i ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach drwy sefydlu uned arbenigol i ganolbwyntio yn benodol ar y maes strategol allweddol hwn".
Ymhlith y cynigion i "drawsnewid" gofal clinigol yn Gymraeg y mae "cynyddu buddsoddiad canolog Gwasanaeth Iechyd Cymru yn y Gymraeg drwy ariannu adran o swyddogion arweiniol arbenigol", a chyllido datblygu a chynllunio'r gweithlu sy'n gallu darparu gofal yn Gymraeg "fel y bo siaradwyr Cymraeg yn derbyn gofal yn y Gymraeg lle bynnag y bônt".
Ac mae angen ymyrraeth sylweddol ym maes cynllunio gweithlu addysg ddwyieithog meddai'r comisiynydd, yn bennaf "ymrwymiad i sefydlu fframwaith hyfforddiant iaith Gymraeg pum mlynedd fyddai'n rhan orfodol o hyfforddi a chymhwyso fel athro yng Nghymru".
Ymateb pleidiau
Ymatebodd y Blaid Lafur i'r BBC i ddweud na fyddan nhw'n gwneud sylw.
Ni chafwyd unrhyw ateb gan Reform.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar y Gymraeg, Tom Giffard AS, "Mae Cymru yn genedl ddwyieithog. Mae parch a chefnogaeth i'n dwy iaith swyddogol yn hanfodol, ond o dan Lafur, mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn gostwng.
"Mae gan bobl yng Nghymru hawl i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni ddylid gwasgu'r naill iaith na'r llall allan o unrhyw ardal.
"Rhaid inni hefyd sicrhau nad yw straen biwrocrataidd ychwanegol yn cael ei roi ar y gwasanaethau iechyd na'r gwasanaethau addysg. Dylid blaenoriaethu adnoddau i fynd i'r afael â'r materion allweddol o dorri rhestrau aros cynyddol y GIG a gwella safonau ysgolion sydd wedi dirywio'n fwy serth yng Nghymru nag mewn mannau eraill yn y DU."
Dywedodd Heledd Fychan AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg, bod gan y blaid "bolisiau blaengar a radical o ran y Gymraeg, fel amlygwyd drwy nifer o ddatblygiadau sicrhawyd fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio megis Bil y Gymraeg ac Addysg.
"Os ydym am gyrraedd y targedau o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dyblu'r defnydd, mae angen llywodraeth sy'n fodlon gweithredu a llywodraeth Plaid Cymru yw honno.
"Rydym eisioes yn cydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg a pharteriaid allweddol eraill i ddatblygu ein cynlluniau terfynol ar gyfer etholiadau flwyddyn nesaf."
Dywedodd Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, eu bod "yn cefnogi gweledigaeth y comisiynydd i ehangu'r defnydd o'r Gymraeg ar draws gwasanaethau cyhoeddus, gweithleoedd ac addysg.
"Rhaid inni sicrhau bod y cynigion hyn yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sy'n deg, yn gynhwysol, ac wedi'i gwreiddio yn anghenion cymunedau lleol.
"Mae iaith yn ffynnu pan mae'n rhan o fywyd bob dydd. Mae cryfhau cynllunio cymunedol yn gam cadarnhaol, ond rhaid iddo gael ei arwain gan leisiau lleol."