Ffocws Comisiynydd y Gymraeg ar bobl ifanc, iechyd a'r gweithle

Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd cyfnod Efa Gruffudd Jones fel comisiynydd yn dod i ben ymhen pum mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gosod tri maes blaenoriaeth yn ei chynllun strategol diweddaraf wrth baratoi ar gyfer "cyfnod allweddol" i ddyfodol yr iaith.

Y tri maes sydd wedi eu nodi yn y cynllun yw plant a phobl ifanc, iechyd a gofal a Chymraeg yn y gweithle.

Bydd y cynllun pum mlynedd, dolen allanol yn weithredol tan ddiwedd cyfnod Efa Gruffudd Jones yn y swydd.

Dywedodd y comisiynydd ein bod "yn byw mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol heriol" a bod "sicrhau bod sefydliadau yn rhoi'r Gymraeg wrth galon eu gweithredu yn bwysicach nag erioed".

Ond mae cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones, wedi cwestiynu gwerth rôl y comisiynydd, ac wedi awgrymu nad oes gobaith cyrraedd y miliwn o siradwyr erbyn 2050.

Yn ystod y pum blynedd nesaf bydd y comisiynydd yn gweithio i gryfhau darpariaeth a gwasanaethau Cymraeg yn y tri maes blaenoriaeth.

Mewn datganiad, mae'r comisiynydd yn dweud ei bod wedi dewis y meysydd hyn "er mwyn canolbwyntio ar y materion allai wneud y gwahaniaeth mwyaf i ffyniant y Gymraeg".

"Mae gen i a fy swyddfa gyfraniad pwysig i'w wneud i strategaeth genedlaethol Cymraeg 2050, ac mae'n hanfodol ystyried y cyfraniad hwn ochr yn ochr â gwaith mewn meysydd polisi allweddol fel addysg, a'r strategaethau ehangach ar gyfer hybu a hyrwyddo'r Gymraeg ar lefel genedlaethol, leol a chymunedol," meddai.

Efa Gruffydd JonesFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Efa Gruffudd Jones yw'r trydydd Comisiynydd y Gymraeg parhaol ers i'r rôl gael ei greu yn 2011, yn dilyn Meri Huws a'r diweddar Aled Roberts

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast fore Llun, esboniodd Ms Gruffudd Jones pam ei bod wedi dewis y meysydd penodol yma.

"Mae'r maes yn eang iawn, ry' chi'n gallu edrych ar unrhyw faes o ran y Gymraeg a dweud 'mae eisiau newid hyn, mae eisiau newid y llall' ond beth dwi wedi ei wneud yw gosod tri maes blaenoriaeth dwi'n meddwl ble galla i ddylanwadau yn fwyaf, a meysydd dwi'n meddwl sy'n hynod bwysig i'r Gymraeg yn y dyfodol.

"Mae fy ngwaith i yn bennaf yn ymwneud â chynyddu defnydd o'r Gymraeg mewn gwahanol feysydd.

"Ma' rhain [y tri maes blaenoriaeth] i gyd yn feysydd lle galla' i weithio gyda'r cyrff dwi'n eu rheoleiddio a hefyd gyda chyrff mewn sectorau eraill sy'n awyddus i ddatblygu eu gwasanaethau Cymraeg."

'Angen mwy o addysg cyfrwng Cymraeg'

Ychwanegodd bod angen gweld mwy o sylw yn cael ei roi i anghenion plant a phobl ifanc wrth i sefydliadau ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

"Yn sicr ry' ni'n awyddus i weld gwelliant yn y ddarpariaeth i blant a phobl ifanc ymhob rhan o Gymru, a ma' 'na ddatblygiadau deddfwriaethol ar hyn o bryd sy'n ymwneud â hynny.

"Ma' angen i ni sicrhau hefyd bod mwy o addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei ddatblygu dros y cyfnod nesaf ac yn sicr dwi'n gobeithio byddwn ni'n gallu cyfrannu at hynny.

"Mae ysgolion yn un maes pwysig iawn, ond hefyd mae'n rhaid i ni sicrhau bod cymunedau yng Nghymru sy'n parhau i fod yn rhai bywiog Cymraeg."

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad diweddar ynglŷn â chynlluniau Cyngor Gwynedd i wneud y Gymraeg yn brif iaith addysg ym mhob ysgol yn y sir, dywedodd y comisiynydd fod angen sicrhau bod rhieni a chymunedau yn deall ac yn cefnogi'r ymdrech.

"Dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig iawn fod pob plentyn yng Ngwynedd yn gadael ei haddysg yn gallu siarad y Gymraeg a'r Saesneg," meddai.

"Os y' chi'n meddwl am y peth o safbwynt y plant a phobl ifanc eu hunain yn arbennig mewn ardal fel Gwynedd, dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig o ran cyfiawnder cymdeithasol, i raddau helaeth, eu bod nhw'n gadael yr ysgol yn siaradwyr hyderus yn y ddwy iaith.

"Beth sy'n rhaid i ni gofio yw y bydd pawb sy'n gadael addysg cyfrwng Cymraeg yn rhugl yn y Saesneg hefyd, ac weithiau mae'r peth sy' mor amlwg i ni fel siaradwyr Cymraeg yn mynd ar goll yn y drafodaeth.

"Mae mor bwysig ein bod ni'n dod â'r gweithlu gyda ni, dod â'r rhieni gyda ni a dod â chymunedau gyda ni ar y daith hon."

Ychwanegodd fod angen hefyd rhoi "pwyslais ar ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle".

"Dwi'n awyddus i sicrhau ein bod ni'n creu lleoliadau gwaith sy'n llefydd lle gall pobl fwynhau defnyddio eu Cymraeg, parhau i ddefnyddio eu Cymraeg a mwynhau defnyddio eu Cymraeg."

'Dim gobaith cyrraedd y miliwn'

Nod y llywodraeth yw cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ond wrth siarad ar Dros Ginio ar Radio Cymru ddydd Llun dywedodd cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones, nad oes "gobaith i gyrraedd y pwynt yna".

O edrych ar y data cyfredol, dywedodd bod "gyda ni ddim yr athrawon, does gennym ni ddim yr hyfforddiant" gan ofyn "a oes ganddom ni yr ewyllys gwleidyddol?"

"Mae'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn rhy uchelgeisiol ond mae'n dal yn iawn i ni drio ffyrdd gwahanol i geisio denu rhieni i ddewis addysg Cymraeg i'w plant."

"Yn seicolegol mae targedau yn ddefnyddiol ond weithiau maen nhw yn dwyll hefyd. Maen nhw'n gallu codi gobeithion afrealistig. Does dim amheuaeth gen i mai twyll yw'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg," ychwanegodd.

MPJ
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meirion Prys Jones hefyd yn cwestiynu gwerth rôl y comisiynydd

Dywedodd hefyd "bod rôl Comisiynydd y Gymraeg a chomisiynwyr yn gyffredinol yn dirwyn i ben".

"Rhyw fad yw'r cysyniad wedi bod. Mae 'na feddwl bod comisiynydd yn gallu llwyddo lle mae gwleidyddion yn methu.

"Mae'n rhaid i bethau gael eu gyrru gan y llywodraeth ei hun ond bod y llywodraeth hefyd yn sylweddoli bod yna dasgau na allen nhw eu gwneud ac [felly bod] rhaid gosod strwythur yn ei lle sy'n helpu hynny i ddigwydd.

"Mae angen strwythur fydd yn gyrru'r agenda sy'n deillio allan o adroddiad Simon Brooks ar gymunedau Cymraeg.

"Dyw'r llywodraeth ddim yn gallu gwneud hynny, yn sicr dyw'r comisiynydd ddim yn gallu gwneud hynny, felly pwy sy'n gwneud?"