Cwestiynu data ariannol safonau'r Gymraeg wedi amcan £12m

Mark Drakeford yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog y Gymraeg Mark Drakeford wedi mynegi "pryderon" ynghylch cywirdeb a defnyddioldeb y data ariannol y mae cyrff yn eu darparu yngylch costau gweithredu safonau'r Gymraeg.
Daw ei sylwadau wrth i un "awdurdod iechyd" anhysbys amcangyfrif costau o £12.7m o ran systemau a staff pe bai'n gorfod cyflwyno'r safonau.
Dywedodd y llywodraeth ni allai enwi'r corff penodol gan ei fod "wedi gofyn i fod yn ddi-enw".
Dywedodd Mark Drakeford nad yw'r amcangyfrif wedi ei arwain i gredu bod y safonau yn afresymol "gan fod cyrff eraill wedi awgrymu y byddent yn gallu cydymffurfio ar gost llawer is".
Mae disgwyl i Senedd Cymru gymeradwyo ddydd Mawrth bod 10 corff ychwanegol yn agored i orfod cydymffurfio â safonau'r Gymraeg.
Byddai hyn yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad iddynt sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â safonau penodol.

Mae Comisiynydd y Gymraeg Efa Gruffudd Jones a'i rhagflaenwyr wedi gosod safonau'r Gymraeg ar 131 o gyrff cyhoeddus hyd yn hyn
Y cyrff yw:
Awdurdod Cyllid Cymru
Y Comisiwn Ffiniau i Gymru
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol
Cymwysterau Cymru
Panel Dyfarnu Cymru
Awdurdodau Iechyd Arbennig.
Mae'r pedwar corff canlynol yn dod o fewn y categori Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n darparu gwasanaethau mewn perthynas â Chymru: Iechyd a Gofal Digidol Cymru; Addysg a Gwella Iechyd Cymru; Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG ac Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.
Bwriad y safonau, a ddaeth i rym ar ôl pasio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gan y Cynulliad Cenedlaethol (Senedd Cymru erbyn hyn) yw:
cynyddu defnydd pobl o wasanaethau Cymraeg;
gwella'r gwasanaethau Cymraeg y gall siaradwyr Cymraeg eu disgwyl gan gyrff;
ei gwneud yn glir i gyrff yr hyn y mae angen iddynt ei wneud o ran y Gymraeg.
'Annisgwyl o uchel'
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i'r 10 corff gymryd rhan mewn "ymarfer casglu data yn ymwneud ag asesiad effaith rheoleiddiol".
Dywedodd y llywodraeth bod un corff wedi darparu amcangyfrif o gostau sy'n "ymddangos yn annisgwyl o uchel", sef £7m o ran systemau a £5.7m am gostau staff i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau cyflenwi gwasanaethau.
Roedd yr amcangyfrif hwn yn "sylweddol uwch" na'r costau a nodwyd gan y cyrff eraill, ac yn cynnwys costau sefydlu a chynnal systemau, darparu gwefannau, gohebiaeth a chanolfan gyswllt.
Roedd amcan gost ar gyfer staff yn cynnwys recriwtio, rheoli corfforaethol a chostau staffio blynyddol.
Er ei "bryderon" ynghylch yr wybodaeth, mae Mark Drakeford yn mynnu "nid beirniadaeth ar ymdrechion y cyrff i amcangyfrif costau yw hyn, na'u rhesymeg wrth wneud hynny, ond yn hytrach cydnabyddiaeth o'r anawsterau o ran amcangyfrif costau'n gywir o dan system lle na fyddant yn gwybod pa ddyletswyddau y disgwylir iddynt gydymffurfio â nhw, ac o dan ba amgylchiadau, hyd nes y cânt hysbysiad cydymffurfio gan y comisiynydd".
Wrth osod dyletswyddau ar gyrff o dan reoliadau safonau blaenorol, nid yw swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi gosod pob un o'r safonau ar unrhyw gorff unigol.
Os caiff y rheoliadau hyn sêl bendith y Senedd, caiff gwybodaeth bellach ei chasglu gan gyrff pan fydd y comisiynydd, Efa Gruffudd Jones yn ymgynghori ar hysbysiadau cydymffurfio drafft.
Mae swyddfa'r comisiynydd wedi gosod safonau'r Gymraeg ar 131 o gyrff cyhoeddus hyd yn hyn.
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2024
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn tynnu sylw at yr hyn y mae Cymwysterau Cymru wedi nodi o ran costau gweithredu eu Cynllun Iaith Gymraeg presennol, sef costau staffio o £700,000 y flwyddyn - yn seiliedig ar naw swydd lle mae'r Gymraeg yn hanfodol - a chostau staffio ychwanegol o £51,000 sy'n ymwneud ag amcangyfrif o'r amser sydd ei angen gan staff eraill.
Mae Mark Drakeford yn nodi, "nid yw'r ffaith bod swydd yn un lle mae'r Gymraeg yn hanfodol o reidrwydd yn golygu y gellir ynysu'r gost yn ei chyfanrwydd fel gwariant ar y Gymraeg".
"Mae aelodau o staff sy'n gallu darparu gwasanaethau yn Gymraeg yn aml yn gallu darparu'r un gwasanaethau i'r cyhoedd yn Saesneg hefyd.
"Er enghraifft, os yw corff yn darparu gwasanaeth fel ateb galwadau ffôn, byddai aelod o staff fel arfer ar gael i ddarparu gwasanaeth ffôn Saesneg os nad oes angen gwasanaeth Cymraeg."
I gyflwyno'r safonau, mae Cymwysterau Cymru yn rhagweld costau untro o £5,000 a "chostau cylchol o £86,000 ar gyfer systemau a chostau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â staff", ynghyd â £1,000 ar gyfer hyfforddiant staff.
'Gallai arwain at gostau'
Dywedodd Mark Drakeford hefyd, "er bod rhai o'r cyrff eisoes yn darparu llawer o'u gwasanaethau yn Gymraeg beth bynnag, rydym yn cydnabod efallai na fydd gan rai Awdurdodau Iechyd Arbennig systemau ar waith ar hyn o bryd i gynnig gwasanaethau Cymraeg i'r un lefel ag sy'n ofynnol yn ôl safonau".
"Gallai cydymffurfio â safonau i gwmpasu'r ystod lawn o wasanaethau y maent yn eu darparu i'r cyhoedd yng Nghymru felly arwain at fwy o gostau o ran systemau a staff."
Roedd y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru y cytunwyd arno ym mis Tachwedd 2021 - ac a ddaeth i ben ym mis Mai 2024 - yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu safonau ar gyfer mwy o sectorau a chyrff cyn diwedd tymor y Senedd bresennol yn 2026.