Y DU eisiau cynnal Cwpan y Byd y merched yn 2035

Cwpan y Byd 2023Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sbaen enillodd Cwpan y Byd 2023 yn Awstralia a Seland Newydd

  • Cyhoeddwyd

Mae cymdeithasau pêl-droed Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi dweud eu bod eisiau cynnal Cwpan y Byd y merched ymhen degawd.

Daw wedi i gyngor FIFA - corff rheoli'r gamp yn fyd eang - argymell ddydd Mercher y dylid cynnal y gystadleuaeth yn 2035 yn Ewrop neu Affrica.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn Awstralia a Seland Newydd yn 2023, tra mai Brasil fydd yn ei chynnal yn 2027.

Mae disgwyl cyhoeddiad yn 2026 ynglŷn â phwy fydd yn cynnal y bencampwriaeth yn 2031 a 2035.

Bydd cymdeithasau pêl-droed y DU yn mynegi diddordeb i FIFA yn gyntaf, cyn i'r broses o wneud cais swyddogol ddechrau.

Fe fydd ceisiadau swyddogol yn cael eu cyflwyno ddiwedd y flwyddyn, gyda phenderfyniad yn "ail chwarter 2026" ynglŷn â phwy fydd yn cynnal Cwpan y Byd 2031 a 2035.

Yr Unol Daleithiau yw'r ffefrynnau i gynnal y bencampwriaeth yn 2031.

Mae pencampwriaeth Euro 2028 y dynion eisoes yn cael ei chynnal yn y DU, gyda Stadiwm Principality yn cynnal rhai o'r gemau.

Cymru'n dathlu cyrraedd Euro 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd merched Cymru yn cystadlu yn Euro 2025 eleni - y tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd un o'r prif bencampwriaethau

Bydd tîm merched Cymru yn cymryd rhan yn un o'r prif bencampwriaethau am y tro cyntaf eleni, wedi iddyn nhw gymhwyso ar gyfer Euro 2025 yn y Swistir.

Ond dyw Cymru erioed wedi cyrraedd Cwpan y Byd y merched.

'Tyfu gêm y merched ymhellach'

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney: "Ar ôl cymhwyso ar gyfer ein twrnament mawr cyntaf i ferched, mae diddordeb a chymryd rhan mewn pêl-droed merched yn cynyddu'n gyflym ar draws Cymru.

"Rydym yn gobeithio croesawu'r byd i Gymru yn 2035 i barhau i adeiladu gêm y merched drwy chwarae rhan fawr yn cynnal rowndiau terfynol Cwpan y Byd gorau erioed!"

Mae Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan, a Phrif Weinidog y DU Keir Starmer hefyd wedi rhoi eu cefnogaeth i'r cynllun.

"Rwy'n cefnogi'n llawn uchelgais y DU i gynnal twrnament 2035, a fydd yn tyfu gêm y merched yng Nghymru hyd yn oed ymhellach drwy roi cyfle i gefnogwyr Cymru gefnogi eu tîm yn nes at adref, ar y llwyfan mwyaf," meddai Ms Morgan.