Sut lwyddodd gêm y merched i ffynnu a chyrraedd yr Euros?
- Cyhoeddwyd
Mae cyrraedd Pencampwriaethau Ewrop yr haf nesaf yn nodi uchafbwynt yn hanes gêm y merched yng Nghymru.
Mae'r fuddugoliaeth dros Weriniaeth Iwerddon yn golygu mai dyma fydd y tro cyntaf erioed iddyn nhw ymddangos yn rowndiau terfynol un o’r prif gystadlaethau.
Fel gyda thîm y dynion yn cyrraedd Euro 2016, bydd proffil y merched yn cael ei ddyrchafu y tu hwnt i ffiniau Cymru.
Mae gêm y merched wedi bod yn ffynnu yma yng Nghymru ers rhai blynyddoedd, ond roedd y nod o gyrraedd rowndiau terfynol wedi bod y tu hwnt iddyn nhw tan nawr.
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2024
Roedden nhw wedi dod yn agos yn ystod yr ymgyrchoedd diwethaf – colli yn y gemau ail gyfle yn erbyn Y Swistir yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2023.
Bellach mae timau’r merched ar y gwahanol lefelau oedran yn rhan annatod o Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC).
Pan sefydlwyd tîm merched Cymru yn y 1970au, roedd hynny fel endid annibynnol ac nid yn rhan o CBDC.
Bu’n rhaid aros 20 mlynedd cyn y byddai tîm y merched yn dod o dan adain y gymdeithas.
Roedd un o’r chwaraewyr ar y pryd – yr Athro Laura McAllister, sydd bellach yn aelod o Weithgor UEFA - ymysg criw oedd wedi mynd at ysgrifennydd y gymdeithas Alun Evans yn galw ar y corff i fabwysiadu’r tîm.
Er i hynny ddigwydd, araf iawn y bu’r newidiadau er gwell.
Roedd aelodau tîm y merched yn gorfod gwisgo crysau oedd unwaith wedi bod ar gefnau sêr tîm y dynion.
Ac fe dynnodd y gymdeithas yn ôl o gymryd rhan yn rowndiau rhagbrofol Euro 2005 oherwydd rhesymau ariannol.
Matikainen a Ludlow
Datblygiad pwysig ac arwyddocaol yn hanes y tîm oedd penodiad Jarmo Matikainen fel rheolwr llawn amser cyntaf.
Fe wnaeth y gŵr o’r Ffindir lawer i godi safonau a chyflwyno proffesiynoldeb i dîm, oedd, ar y cyfan, yn parhau i fod yn un lled-broffesiynol o ran statws.
Roedd hefyd yn hyfforddi’r timau dan-17 a dan-19, ac yn gyfrifol am strategaeth hir dymor y gêm yng Nghymru.
Pan adawodd Matikainen ei swydd yn 2014 fe benodwyd y cyn-gapten cenedlaethol, Jayne Ludlow fel ei olynydd.
Roedd Ludlow wedi ennill 61 o gapiau dros ei gwlad, ond efallai yn fwy arwyddocaol oedd ei llwyddiant gydag Arsenal.
Gyda’r Gunners fe gafodd Ludlow lwyddiant ysgubol – gyda’r uchafbwynt yn 2007 pan roedd yn rhan o’r tîm enillodd Cwpan Merched UEFA.
O dan ei harweiniad fe ddatblygodd tîm y merched ymhellach, gyda Jess Fishlock yn datblygu yn ffigwr allweddol yn yr un modd ag yr oedd Gareth Bale gyda thîm y dynion.
Mae Fishlock wedi bod yn chwarae i Seattle Reign yn yr Unol Daleithiau ers 2013, ac wedi ennill mwy o gapiau a sgorio mwy o goliau dros Gymru nag unrhyw chwaraewr arall.
Mae chwaraewyr fel Angharad James a Charlie Estcourt hefyd yn chwarae yn yr Unol Daleithiau, ac mae ffyniant Uwch Gynghrair y Merched yn Lloegr yn gweld rhagor o chwaraewyr Cymreig yn ennill bywoliaeth o’r gêm.
Gwelwyd datblygiad amlwg o dan ofal Ludlow, gyda Chymru'n gorffen yn ail i Loegr mewn grŵp rhagbrofol i gyrraedd Cwpan y Byd 2019.
Yn anffodus doedd record Cymru ddim yn ddigon i sicrhau gêm ail gyfle, ond roedd yr ymgyrch wedi rhoi gobaith o’r newydd y bod cyrraedd rowndiau terfynol yn bosib.
Wedi'r siom o golli i Ogledd Iwerddon am le ym Mhencampwriaethau Ewrop 2022 yn Lloegr, gadawodd Ludlow ei swydd.
Gemma Grainger, o ogledd-ddwyrain Lloegr, oedd nesaf i dderbyn yr her, ac fe arweiniodd Cymru i ail rownd gemau ail gyfle Cwpan y Byd, ond colli yn hwyr i’r Swistir oedd eu hanes.
Roedd gemau yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ystod yr ymgyrch honno wedi denu torfeydd na welwyd o'r blaen ar gyfer gemau merched yng Nghymru.
Pan adawodd Grainger i hyfforddi Norwy yn gynharach yn 2024, pwy fyddai wedi rhagweld y byddai Cymru’n gorffen y flwyddyn yn gwireddu’r freuddwyd o gyrraedd rowndiau terfynol?
Ac mae hynny yn nodi pennod gyffrous newydd yn hanes y gêm yng Nghymru, dan arweiniad y rheolwr newydd o Ganada - Rhian Wilkinson.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2024