Cannoedd o ffermwyr yn protestio tu allan i gynhadledd y Blaid Lafur
1 o 5
- Cyhoeddwyd
Daeth cannoedd o ffermwyr i brotestio tu allan i gynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno fore dydd Sadwrn.
Roedd nifer o dractorau a cherbydau fferm wedi parcio ar y promenâd tu allan adeilad Venue Cymru, gyda ffermwyr yn codi arwyddion yn darllen 'Digon yw digon'.
Bu cyllideb y Canghellor, Rachel Reeves, yn ddadleuol yn y sector amaethyddol pan gyhoeddodd newidiadau i dreth etifeddiaeth ffermwyr.
Wrth annerch y gynhadledd, dywedodd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer y byddai'n amddiffyn y Gyllideb a'r "penderfyniadau anodd oedd yn angenrheidiol i sefydlogi'r economi".
'Digon yw digon'
Ymhlith y rhai oedd yn bresennol oedd y ffermwr a'r cyflwynydd teledu Gareth Wyn Jones.
Dywedodd bod ffermwyr wedi cael "llond bol" a bod hi'n "amser i bethau newid.
"Mae 'na gannoedd o ffarmwrs wedi troi i fyny, mae 'na lwythi o dractors, a ma' nhw di dod yma am reswm - digon yw digon.
"Ma' nhw di gal llond bol o’r ffordd 'da ni’n cael ein trin – mae’n amser i bethau newid" meddai.
Ychwanegodd hefyd mai'r newidiadau i'r dreth etifeddiaeth yw'r "hoelen olaf yn arch amaeth."
Ni wnaeth Syr Keir gwrdd â'r protestwyr, na chyfeirio atynt yn ei araith.
Beth yw'r newidiadau i'r dreth etifeddiaeth?
Ers iddo gael ei gyflwyno yn 1984, mae rhyddhad eiddo amaethyddol (APR), wedi caniatáu i dir a ddefnyddir ar gyfer cnydau neu fagu anifeiliaid, yn ogystal ag adeiladau fferm, bythynnod a thai – gael eu heithrio rhag treth etifeddiaeth.
Bellach mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi o fis Ebrill 2026, bydd ffermydd sydd werth mwy na £1m yn wynebu cyfradd treth etifeddiaeth o 20% - hanner y gyfradd arferol o 40%.
Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi ei alw’n “drychinebus” i ffermydd teuluol, gan ddweud y byddai’n gweld ffermwyr yn cael eu gorfodi i werthu tir i dalu’r dreth.
Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog Cymru wedi galw ar bobl i "ymdawelu ychydig" dros newidiadau i dreth etifeddiaeth ffermwyr.
Dywedodd Eluned Morgan fod amcangyfrifon cychwynnol yn awgrymu y bydd y newidiadau yn effeithio ar “gyfran fechan” o ffermydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2024