Ffermwyr i gael awgrym o faint fydd eu cymhorthdal flwyddyn nesaf

Bydd ffermwyr Cymru'n cael awgrym o faint fydd eu cymhorthdal ar gyfer y flwyddyn nesaf
- Cyhoeddwyd
Bydd ffermwyr Cymru'n cael yr awgrym cyntaf o faint fydd eu cymhorthdal ar gyfer y flwyddyn nesaf, wrth i'r drafodaeth ynglŷn â newid mawr i gyllid amaethyddol barhau.
Wrth i'r Sioe Fawr agor ei gatiau yn Llanelwedd, Powys, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi teclyn ar-lein i helpu ffermwyr i amcangyfrif taliadau'r dyfodol.
Cafodd fersiwn terfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) ei gyhoeddi ddydd Mawrth, gan dderbyn ymateb cymysg.
Dywedodd gweinidogion iddyn nhw "wrando yn ofalus ar ffermwyr drwy Gymru", gan addasu'r cynlluniau i sicrhau eu bod yn gweithio ar gyfer y diwydiant a'r amgylchedd.
- Cyhoeddwyd15 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd12 Mehefin
Er gwaethaf hyn fe rybuddiodd grwpiau bywyd gwyllt bod y cynllun wedi ei wanhau, gydag RSPB Cymru yn galw nawr ar i'r llywodraeth egluro sut y bydd y taliadau'n helpu Cymru i gyrraedd targedau adfer bioamrywiaeth erbyn 2030.
Mae'r CFfC yn disodli hen daliadau o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd, oedd yn arfer cael eu cynnig ar sail faint o dir oedd dan ofal ffermwr, yn bennaf.
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC), Ian Rickman y byddai'n cymryd amser i ffermwyr ddod i ddeall mwy ynglŷn â goblygiadau'r cynllun newydd, gwyrddach ar gyfer eu busnesau.
"Ry'n ni'n falch o'r newidiadau ry'n ni wedi llwyddo eu sicrhau," ychwanegodd - gan gynnwys cael gwared ar y rheol dadleuol fyddai wedi gorfodi ffermydd i gael coed ar 10% o'u tir.
Ond doedd y drefn newydd ddim yn berffaith, gyda phenderfyniad i dorri cymhorthdal y sawl sy'n peidio dewis ymuno â'r CFfC yn syth gan 40% yn gadael "blas cas", meddai.
'Defnydd gwael o arian cyhoeddus'
Bydd RSPB Cymru'n defnyddio digwyddiad ar faes y sioe i danlinellu gofynion y sector amgylcheddol, yn dilyn cyhoeddiad y llywodraeth.
Maen nhw'n cynnwys "cynllun clir yn esbonio sut fydd y CFfC yn cyfrannu at gyrraedd targedau bioamrywiaeth Cymru erbyn 2030" meddai'r elusen.
"Mae'r Swyddfa Archwilio Cenedlaethol wedi cydnabod diffyg y math yma o gynllun fel gwendid mawr gyda'r drefn yn Lloegr, gan arwain at ddefnydd gwael o arian cyhoeddus," ycwhanegon nhw.
Byddai angen cyllid pellach yn y tymor hir hefyd er mwyn buddsoddi mewn ffermio sy'n gyfeillgar i natur, meddai'r RSPB - gydag ymchwil ar ran grwpiau bywyd gwyllt yn awgrymu ffigwr o £594m y flwyddyn - bron i ddwywaith y gyllideb bresennol.
Dywedodd y dirprwy brif weinidog Huw Irranca-Davies bod y sioe yn "benllanw ar wythnos hanesyddol i amaethu yng Nghymru".
Yn ogystal â'r teclyn ar-lein fydd yn galluogi ffermydd i amcangyfrif eu cymhorthdal, fe gyhoeddodd gwerth £33m ar gyfer naw cynllun paratoadol fydd yn "cefnogi busnesau fferm i symud tuag at y CFfC".
"Bydd y cyllid yma yn helpu ffermwyr i reoli nitradau, gwneud gwelliannau amgylcheddol a sicrhau offer effeithlonrwydd tra'n llwyddo i gynnig buddion fel gwella ansawdd dŵr a biomamrywiaeth," meddai.
'Addo arddangosfa rhagorol'
Mae disgwyl i wleidyddion o bob lliw dyrru i faes y Sioe er mwyn cynnig eu gweledigaeth i Gymru wledig cyn etholiad y Senedd flwyddyn nesaf.
Ymysg y pynciau eraill sy'n siŵr o ddominyddu mae'r ffrae am newidiadau i'r dreth etifeddiant i ffermwyr, a chyfyngiadau ar fasnachu ar hyd y ffin o ganlyniad i glefyd y tafod glas.
Yn y cyfamser, mae trefnwyr y Sioe wedi addo arddangosfa "rhagorol" o dda byw, er gwaethaf yr heriau eleni wrth ymateb i'r feirws.
Mae defaid, gwartheg a geifr o Loegr a'r Alban wedi'u gwahardd mewn ymdrech i geisio cadw'r tafod glas allan o Gymru am gyhyd â phosib.
Dyw'r feirws ddim yn peryglu pobl na diogelwch bwyd, ond gall gael goblygiadau difrifol i dda byw.

Mae Will Edwards yn dweud bod yr awyrgylch yn wahanol yno eleni
Mae'r siediau gwartheg yn dawelach, gyda nifer y cystadleuwyr draean yn is na'r arfer - tra nad oes cystadlaethau o gwbl yn adran y geifr.
Ond mae niferoedd y defaid yn fwy sefydlog, ar ôl i lefydd gael eu cynnig i gystadleuwyr o Gymru oedd ar restr aros.
Dywedodd Will Edwards o Sir Gaerffili, oedd yn arddangos buwch a llo Charolais bod yr awyrgylch "damaid bach yn wahanol".
"Does na ddim cymaint o wartheg yma, bendant. Ond mae lot o ddefaid a falle bod hyn yn rhoi cyfle i'r Cymry fynd ben ben â'i gilydd" meddai.

Mae Thomas Corbett ac Emily Simpson yn siomedig nad oes yna wartheg o Loegr na'r Alban yn y Sioe eleni
Roedd Thomas Corbett ac Emily Simpson o Felindre ym Mhowys wedi'u siomi nad oedd yna wartheg o Loegr na'r Alban yn y Sioe "am fod y rhai sy'n gwneud yr ymdrech i ddod o bell bant yn aml gyda'r gorau - a ry'ch chi'n colli'r gystadleuaeth yna".
Roedd Emily'n arfer byw yn yr Alban cyn cwrdd â'i phartner yn y Sioe dair blynedd yn ôl, a dywedodd y byddai ei ffrindiau sy'n arddangos eu hanifeiliaid "wedi caru cael dod lawr yma".
"Ond mae'n ddigon teg - mae'n rhaid i chi flaenoriaethu bioddiogelwch" ychwanegodd.

Mae Aled Rhys Jones yn benderfynol o gynnal sioe o safon
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Aled Rhys Jones, ei fod yn benderfynol o gynnig sioe o safon.
"Mae rhaid dweud mae'r ymateb ni wedi cael o arddangoswyr o Gymru wedi bod yn wych," meddai.
"O ran y bridiau cynhenid o ddefaid mae'r niferoedd gyda'r uchela' 'da ni wedi gweld ers blynddoedd lawer."
"Bydd yna dal sioe arbennig o ran stoc - a stoc gore Cymru yn dod i'r sioe eleni."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.