Treth etifeddiaeth yn poeni ffermwyr hŷn medd undeb wrth Starmer

Fe wnaeth cannoedd o ffermwyr brotestio tu allan i gynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno ym mis Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth prif undeb ffermio Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn ei annog i newid y cynigion am dreth etifeddiaeth, sydd yn ôl ef yn gadael ffermwyr hŷn yn teimlo'n "arteithiedig" a "llawn pryder".
Yn dilyn cynlluniau llywodraeth y DU, o fis Ebrill 2026 ymlaen bydd eiddo amaethyddol etifeddol gwerth mwy na £1m yn destun treth etifeddiaeth ar 20% - hanner y gyfradd arferol.
Mae Llywydd NFU Cymru, Aled Jones, wedi galw ar Syr Keir Starmer i "liniaru llawer o effeithiau dynol" y cynigion, gan gynyddu refeniw'r llywodraeth hefyd.
Mae llywodraeth y DU, a ddywedodd yn flaenorol bod ei newidiadau i dreth etifeddiaeth yn "hanfodol", wedi cael cais am sylw ar apêl Mr Jones.
Poeni am ragfynegiadau'r Trysorlys
Dywedodd Mr Jones ei fod yn teimlo bod yn rhaid iddo ysgrifennu at y Prif Weinidog ar ôl i "gannoedd o deuluoedd ffermio Cymru" gysylltu ag ef i ddweud eu bod wedi'u heffeithio gan y newidiadau arfaethedig.
Yn ôl llywodraeth y DU mi fydd y newidiadau dim ond yn effeithio ar y 500 o ffermydd cyfoethocaf bob blwyddyn.
Ond, mae Mr Jones yn poeni y bydd y nifer yma'n uwch "na rhagfynegiadau'r Trysorlys".
Mae undebau ffermio wedi amcangyfrif y gallai'r cynlluniau effeithio ar hyd at 70,000 o ffermwyr.

Mae Aled Jones yn poeni bydd y cynlluniau'n effeithio ar fwy o ffermydd na mae'r Trysorlys yn ei gredu
Dywedodd Mr Jones ei fod yn poeni'n benodol am yr effaith ar ffermwyr hŷn.
Ychwanegodd eu bod yn teimlo'n "arfaethedig" wrth boeni "y bydd eu marwolaeth yn creu baich ariannol i'w hanwyliaid na ellir ei reoli".
"Rwy'n gwybod na fyddai unrhyw lywodraeth eisiau rhoi unrhyw un yn y sefyllfa anodd a niweidiol y mae llawer o ffermwyr hŷn ynddi nawr," meddai'r llythyr.
"Fy marn o hyd yw bod dal cyfle i'ch llywodraeth liniaru llawer o effeithiau dynol y cynigion polisi yma, gan gyflawni nod y llywodraeth o godi refeniw."
Mae llywodraeth y DU wedi pwysleisio yn y gorffennol, o dan ei newidiadau, y byddai tri chwarter o ystadau yn parhau i beidio â thalu unrhyw dreth etifeddiaeth o gwbl, tra byddai'r chwarter sy'n weddill yn talu hanner y dreth etifeddiaeth y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei thalu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2024