'Angen cytundeb Senedd Cymru cyn i'r GIG allu cynnig cymorth i farw'

Mae cwestiynau cyfansoddiadol wedi codi ynghylch gweithredu trefn hawl i farw yng Nghymru wedi'r bleidlais hanesyddol ddiweddar yn San Steffan
- Cyhoeddwyd
Bydd GIG Cymru ond yn cynnig gwasanaethau hawl i farw i bobl derfynol sâl os ydy Senedd Cymru wedi cytuno iddo, yn ôl gweinidog Llywodraeth Cymru.
Yr wythnos ddiwethaf, fe bleidleisiodd ASau San Steffan o blaid mesur fyddai'n caniatáu i bobl yng Nghymru a Lloegr sy'n nesáu at ddiwedd eu bywyd gael cymorth meddygol i farw.
Ond mae dryswch wedi codi ynghylch sut allai hynny weithio yng Nghymru, ble mae iechyd yn faes wedi ei ddatganoli, wedi i'r Senedd ym Mae Caerdydd, wrthod cynnig tebyg fis Hydref y llynedd.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Julie James wrth y siambr ddydd Mercher y bydd yn rhaid iddyn nhw benderfynu a ddylid cynnig gwasanaethau cymorth i farw o fewn y sector cyhoeddus.
Yn ôl yr AS Ceidwadol Tom Giffard mae'n "hanfodol" bod y Senedd yn cael trafodaeth ystyrlon ar y mater.
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Fe fydd y ddeddf, sy'n cyfreithloni cymorth i farw yn achos pobl ag afiechydon terfynol, yn berthnasol i Loegr a Chymru, ond mae cwestiynau cyfansoddiadol wedi codi oherwydd ei geiriad.
Yn ogystal â chyfreithloni'r cysyniad o gael cymorth i farw yn y ddwy wlad, mae'n amlinellu sut fyddai'r fath drefn yn gweithio - gan orgyffwrdd â gofynion cyfreithiol y maes gofal iechyd sydd fel arfer dan reolaeth Senedd Cymru.
O ganlyniad mae dadl wedi codi o ran faint o reolaeth y dylai'r Senedd gael.
Fis Hydref y llynedd fe bleidleisiodd y Senedd yn erbyn cynnig symbolaidd i gefnogi cyfraith yn caniatáu'r hawl i ddewis cael marw.
Pleidleisiodd 19 AS o blaid, 26 yn erbyn ac fe wnaeth naw arall ymatal - neu wrthod pleidleisio.
Mae disgwyl y bydd yna o leiaf un bleidlais ar y mater yn y Senedd, i ystyried yn y lle cyntaf a oes cytundeb i'r ddeddfwriaeth ddod i rym o fewn meysydd dan reolaeth y Senedd.
Mae disgwyl i'r bleidlais honno gael ei chynnal yn yr hydref.
Ni fyddai'n orfodol yn gyfreithiol ond fe fyddai'n amlygu a yw Senedd Cymru'n credu y dylai'r ddeddf fod yn weithredol o fewn meysydd datganoledig.
Mae'n debygol y byddai angen ail bleidlais pe byddai Llywodraeth Cymru eisiau cynnal gwasanaeth hawl i farw, ond fe allai'r weinyddiaeth ddewis peidio cynnal pleidlais os yw'r Senedd yn gwrthwynebu'r polisi.
'Gofynion allwedol'
Cyn i'r mesur gael cymeradwyaeth yn San Steffan yr wythnos ddiwethaf, roedd yn fwriad i'r Senedd gael hawl i benderfynu a fyddai'n dod i rym yng Nghymru hefyd, ond o ganlyniad i'r ddadl fe benderfynodd ASau i ddileu'r hawl yna.
Ddydd Mercher fe ddywedodd Julie James, yr aelod o lywodraeth Lafur Cymru sy'n rhoi cyngor cyfreithiol i'r weinyddiaeth, bod yr hawl wedi ei dileu er mwyn osgoi rhoi pwerau tu hwnt i reolaeth Senedd Cymru i weinidogion yng Nghymru.
Mae hynny oherwydd bod Deddf Llywodraeth Cymru yn atal y Senedd rhag newid deddf yn ymwneud â hunanladdiad.
Ond fe ychwanegodd bod y mesur "yn dal yn cynnwys gofynion allweddol sy'n golygu na allai'r GIG nag unrhyw gorff cyhoeddus yng Nghymru ddarparu gwasanaethau cymorth i farw gwirfoddol nes bod gweinidogion wedi cyflwyno rheoliadau a bod pleidlais i'w cadarnhau yn y Senedd".
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd28 Mawrth
Mae'n "destun gofid", medd Tom Giffard, bod yr hawl wreiddiol wedi ei dileu o'r mesur.
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Er iddo gael ei basio yn San Steffan, mae'n bwysig cofio nad oedd y Senedd yn ei gefnogi yn y drafodaeth ddiwethaf.
"Ni ddylid gorfodi penderfyniad o'r fath ddifrifoldeb ar Gymru heb ganiatâd clir ei chynrychiolwyr etholedig."
Awgrymodd Julie James y byddai Llywodraeth Cymru'n parhau â safbwynt niwtral o ran y mesur.
Fe gafodd yr aelodau bleidlais rydd ar ddiwedd y drafodaeth ddiwethaf ar y mater yn y Senedd.
Dan y drefn, fe fydd panel tri pherson yn ystyried ceisiadau cleifion am gymorth meddygol i farw.
Mynegodd yr AS Plaid Cymru Mabon ap Gwynfor bryder "na fydd holl aelodau'r panel hwnnw o reidrwydd â'r gallu i weithredu trwy'r Gymraeg" fel y mae pethau'n sefyll.
Dywedodd y bydd angen i gleifion ofyn am wasanaeth Cymraeg yn absenoldeb "dewis naturiol" wrth gynnig y gwasanaeth.
Dywedodd Julie James bod yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles mewn "cysylltiad cyson" gyda'r AS a gyflwynodd y ddeddf, Kim Leadbeater, a bod y materion dan sylw "wedi cynnwys ystyriaethau o ran y Gymraeg".
Wrth ymateb i sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur Kim Leadbeater - wnaeth gyflwyno'r mesur cymorth i farw: "Does dim amheuaeth wedi bod o'r dechrau y byddai angen cymeradwyaeth y Senedd cyn cyflwyno gwasanaeth cymorth i farw o fewn y GIG.
"Rydw i wedi cael trafodaethau gwych ac adeiladol yng Nghaerdydd gyda'r Ysgrifennydd Iechyd a swyddogion Llywodraeth Cymru i ystyried y camau ymarferol wrth fynd ati i gyflwyno'r mesur yng Nghymru, ac mae'r trafodaethau hynny yn parhau.
"Mae'r mesur gafodd ei basio yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Gwener yn parchu'r setliad datganoli."