Pryderon am allu gwasanaeth tân i gadw pobl yn ddiogel

- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, dolen allanol wedi canfod "pryderon am berfformiad y gwasanaeth o ran cadw pobl yn ddiogel rhag tân a risgiau eraill".
Cafodd yr adolygiad annibynnol, gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (AEF), ei gynnal yn dilyn beirniadaeth y llynedd o ddiwylliant gwaith y gwasanaeth.
Fe ddywedodd yr adroddiad fod pryderon ynghylch sut oedd strategaethau'r gwasanaeth yn llwyddo i "liniaru risgiau i'r cyhoedd".
Roedd angen i'r gwasanaeth tân hefyd wneud mwy i "daclo bwlio, aflonyddu ac anffafriaeth", gydag arolwg yn awgrymu bod un o bob chwe aelod o staff wedi cael profiad o'r fath yn y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd yr Arolygydd Roy Wilsher nad oedd yn "tanamcangyfrif faint o welliant sydd ei angen", ond bod ymrwymiad y prif swyddog tân newydd i wneud gwelliannau yn "galonogol".
Mewn ymateb i'r adroddiad dywedodd y Prif Swyddog Tân, Fin Monaghan, ei fod yn "ddarllen anodd" ond ei fod yn "croesawu'r adroddiad".
"Mae tipyn o amser wedi pasio ers yr arolygiad," meddai. "Fe ddechreuodd cyn i mi gyrraedd... [ac] mae tipyn wedi newid ers hynny."
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gymryd rheolaeth dros Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dilyn adolygiad ym mis Ionawr 2024 wnaeth ddarganfod diwylliant o aflonyddu rhywiol a chasineb at fenywod.
'Achosion pryder' mewn dau faes
Cafodd arolygiad AEF ei gynnal rhwng mis Awst a Hydref y llynedd, gan edrych ar 11 maes gwahanol.
Nodwyd bod 'meysydd i'w gwella' mewn naw ohonynt, ac 'achosion pryder' mewn dau arall – sef deall y risg o dân ac argyfyngau eraill, a diogelu'r cyhoedd trwy reoleiddio tân.
Roedd y pryderon yn cynnwys yr angen i'r gwasanaeth tân "wella'r modd y mae'n nodi, yn casglu ac yn cynnal gwybodaeth risg".
Doedden nhw ddim chwaith, meddai'r adroddiad, "bob amser yn blaenoriaethu'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf".
Fe wnaeth yr adroddiad nodi nad oedd gan y gwasanaeth "raglen arolygu gyfredol ar sail risg", a'u bod nhw ond wedi archwilio "4.9% o'r safleoedd risg uchel yn ei ardal".
Yn ystod digwyddiadau tân, meddai'r arolygwyr, dylai'r gwasanaeth hefyd "wella'r ffordd y mae'n cyfathrebu â'r cyhoedd" er mwyn "helpu i'w cadw'n ddiogel".
'Rhoi adborth i reolwyr yn medru effeithio ar yrfa'
Wrth drafod y diwylliant gwaith o fewn y gwasanaeth tân, dywedodd yr arolygwyr fod ymddygiad weithiau ddim yn "bodloni'r safonau disgwyliedig, ac nid oedd diwylliant cryf o herio".
Roedd staff yn "teimlo'n anghyfforddus ynghylch rhoi adborth i uwch reolwyr", gan boeni y gallai hynny "effeithio ar eu gyrfa".
Dywedodd yr adroddiad bod angen i'r gwasanaeth hefyd "fod yn fwy effeithiol wrth fynd i'r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu".
Doedd gan staff yn aml ddim yr hyder i adrodd am gamymddwyn o'r fath, meddai'r adroddiad, am eu bod nhw'n credu "na fyddai dim yn digwydd o ganlyniad".
Roedd nifer yr achosion o gamau disgyblu hefyd wedi dyblu, o 15 yn 2021/22, i 31 yn 2023/24.
Yn ogystal, roedd angen i'r gwasanaeth "wella amrywiaeth ei weithlu", ac roedd eu data presennol ynglŷn ag a'u staff o "ansawdd gwael".

"Mae'r adroddiad yn ddarllen anodd," meddai Fin Monahan
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd y Prif Swyddog Tân Fin Monaghan: "Mae'r adroddiad yn ddarllen anodd.
"Y prif feysydd sydd angen i ni wella yn yr adroddiad yw deall risg tanau ac argyfyngau eraill, a gwarchod y cyhoedd drwy reoliadau tân."
Ychwanegodd Mr Monaghan fod gan y gwasanaeth "gynllun cadarn" ar gyfer gweithredu'r argymhellion yn yr adroddiad, a'u bod eisoes yn "symud ymlaen gyda llawer o'r gwaith yma".
"Mae tipyn o amser wedi pasio ers yr arolygiad.
"Fe ddechreuodd cyn i mi gyrraedd, gan orffen yn fy ail wythnos gyda'r gwasanaeth; mae'n ddarlun o'r sefyllfa chwe mis yn ôl.
"Mae llawer wedi newid ers hynny."
'Blynyddoedd o ddiffyg ariannu'
Yn ymateb i'r adroddiad, dywedodd Undeb yr Achubwyr Tân nad oedd y canfyddiadau yn syndod "wedi blynyddoedd o ddiffyg ariannu".
"Mae diffoddwyr tân ar draws Cymru yn gweithio mewn criwiau llai ar draws ardaloedd ehangach gyda llai o adnoddau, a hyn oll wrth daclo mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol fel tannau gwyllt a llifogydd," meddai Gareth Tovey, llefarydd yr undeb yng Nghymru.
"Mae angen i ni gael gwasanaethau tân ac achub sydd wedi eu hariannu'n iawn, sy'n barod i wynebu'r heriau yn yr adroddiadau hyn, a thaclo risgiau newydd sy'n ymddangos."
Dywedodd y comisiynwyr gafodd eu penodi gan Lywodraeth Cymru i oruchwylio gwaith y gwasanaeth eu bod yn "falch" bod "cynnydd sylweddol wedi'i wneud" ers i'r arolygiad gael ei gynnal.
Mae disgwyl i AEF ail-arolygu'r gwasanaeth tân yn y 12 i 18 mis nesaf.
Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y comisiynwyr wedi eu penodi "oherwydd bod gennym bryderon difrifol am allu'r gwasanaeth i weithredu'n saff ac effeithiol".
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Comisiynwyr a'r Prif Swyddog Tân er mwyn gweithredu eu blaenoriaethau gwelliant."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd16 Mai 2024