Bwrdd newydd i ystyried rôl bywyd gwyllt yn lledaeniad TB?

Nia Thomas a Huw Irranca DaviesFfynhonnell y llun, Ffermio/Telesgop
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgrifennydd Materion Gwledig Llywodraeth Cymru yn ystyried ymestyn prosiect arbrofol TB Sir Benfro i weddill Cymru

  • Cyhoeddwyd

Fyddai ddim yn syndod pe bai bwrdd newydd sydd wedi ei sefydlu i edrych ar TB mewn gwartheg yn dod i’r casgliad bod angen edrych ar rôl bywyd gwyllt yn lledaeniad y clwy', yn ôl Ysgrifennydd Materion Gwledig Llywodraeth Cymru.

Wrth siarad ar raglen Ffermio S4C dywedodd Huw Irranca Davies y bydd y bwrdd a fydd yn cyfarfod cyn diwedd y flwyddyn am y tro cyntaf - yn gorfod edrych ar yr hyn sy’n llwyddo wrth fynd i’r afael â TB buchol ac i ba gyfeiriad arall sydd angen mynd.

Dywedodd: “Fyddwn i ddim yn synnu - er ein bod ni’n gwybod fod prif drosglwyddiad yr haint o wartheg i wartheg ac o wartheg i foch daear – y bydd angen i ni hefyd edrych ar storfeydd o fewn bywyd gwyllt.

“Ond dwi’n gadael iddyn nhw [y bwrdd] edrych ar hynny a ble arall sydd angen i ni fynd,” meddai.

'Dysgu gwersi'

Dywedodd Mr Irranca-Davies hefyd ei fod yn ystyried ymestyn prosiect arbrofol TB Sir Benfro i weddill Cymru ac ymestyn hyd y cynllun presennol yn y sir y tu hwnt i ddwy flynedd.

“Rwy’n ystyried sut i symud hyn ymlaen a sut mae dysgu gwersi ar gyfer gweddill Cymru,” meddai.

Sylfaen y cynllun yn Sir Benfro ydi clustnodi milfeddyg i gydweithio’n uniongyrchol â 15 o ffermwyr dros ddwy flynedd.

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar fioddiogelwch pob fferm yn unigol ac yn astudio data pob anifail er mwyn gweld pa fuwch sydd fwyaf tebygol o ddatblygu TB.

Mae gan y ffermwr ddewis i ddifa yr anifail sydd yn y categori risg uchel - categori coch - yn wirfoddol.

Mae’r diciâu mewn gwartheg yn broblem ddifrifol yn y sir gyda bron i 40% o’r holl anifeiliaid a gafodd eu difa yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru yn Sir Benfro.

Ffynhonnell y llun, Ffermio/Telesgop
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Williams yn ffermio ger Cas-mael, Sir Benfro

Un o’r ffermwyr sydd yn rhan o’r prosiect ydi Michael Williams – sy’n ffermio ger Cas-mael, Sir Benfro.

Mae’n dweud bod fferm odro’r teulu wedi bod mewn ac allan o gyfyngiadau TB ers sawl blwyddyn – a’i fod o blaid edrych ar ffyrdd gwahanol o geisio cael gwared â’r clwy'.

Dywedodd Mr Williams: “Daeth y milfeddyg aton ni a gofyn i ni oes oedden ni mo’yn gwneud rhywbeth yn wahanol – gweithio 'da’n gilydd. - ddim gwneud yr un peth achos os chi’n gwneud yr un peth drwy’r amser chi’n mynd i gael yr un canlyniadau."

Esboniodd Mr Williams bod rhaid edrych ar ddwy ochr i'r prosiect.

“Edrych ar risk rate y da sydd wedi ei greu gan y prawf croen ac edrych ar y da sydd â risg uchel o gario’r clefyd. Yr ochr arall ydi biosecurity.

"Y cam mwyaf i ni oedd cau’r herd lawr, i beidio a phrynu mwy o dda mewn a gorfod magu popeth ein hunain.

"Pethau eraill oedd rhoi foot dips rhwng siediau fel bod ni ddim yn cario dim byd o’r da i’r lloi.

"Ni hefyd 'di gwneud ychydig o waith rownd moch daear - a gweld lle maen nhw’n gweithio ar y fferm,” ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Ffermio/Telesgop
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Williams o blaid edrych ar ffyrdd gwahanol o geisio cael gwared â’r clwy

Ar ôl gosod camerâu ar y fferm a gweld olion baw, roedd gan Michael dystiolaeth i ddangos symudiadau moch daear ar y fferm.

Penderfynodd godi ffens newydd er mwyn atal y moch daear a’i wartheg godro rhag cymysgu.

Esboniodd Mr Williams: "Fi’n gwbod bod y clefyd yn y fuches a fi’n gwbod hefyd o’r arolwg badger found dead survey bod y moch daear yn yr ardal hon yn glir (o TB).

"Ond ma fe’n pwysig i ni beidio â gadael i’r moch daear pigo TB lan o’r gwartheg a mynd â fe i fferm arall,” meddai.

Mae Mr Williams o blaid gweld y cynllun yn Sir Benfro yn cael ei ymestyn y tu hwnt i’r ddwy flynedd.

Dywedodd: "Mae ishe mwy o amser er mwyn i ni weld effaith.

"Yn lle bod milfeddyg yn tynnu da oddi ar y fferm ni mo’yn cydweithio a dod lan â plan sy’n siwtio ni – sydd yn wahanol i’r fferm lawr yr hewl.

Mae modd gweld cyfweliad Nia Thomas gyda'r Ysgrifennydd Materion Gwledig yn rhifyn yr wythnos hon o Ffermio

Pynciau cysylltiedig