'Camgymeriadau' wedi bod yn ymgyrch y Ceidwadwyr
- Cyhoeddwyd
Mae camgymeriadau gan Geidwadwyr blaenllaw wedi cyfrannu at ymgyrch etholiad "anodd" i'r blaid, yn ôl Ysgrifennydd Cymru.
Dywedodd David TC Davies fod Craig Williams yn rhoi bet ar ddyddiad yr etholiad, a Rishi Sunak yn gadael digwyddiadau D-Day yn gynnar, yn "gamgymeriadau o ran crebwyll".
Ychwanegodd mewn cyfweliad â BBC Cymru ei fod eisiau gweld mudo cyfreithlon i'r Deyrnas Unedig yn gostwng i rhwng 100,000 a 150,000. 685,000 oedd y ffigwr y llynedd.
Dywedodd Mr Davies y byddai llywodraeth Geidwadol ar ôl 4 Gorffennaf yn cadw chwyddiant i lawr, lleihau mudo cyfreithlon ac anghyfreithlon, a gwella gwasanaethau cyhoeddus.
Er yn cydnabod camgymeriadau gan aelodau blaenllaw o'i blaid, dywedodd Mr Davies nad yw'n credu mai "ymddygiad unigolion" fydd yn penderfynu'r etholiad.
Ychwanegodd ei fod "erioed wedi gweld arweinydd yn ymddiheuro mor ddiffuant am rywbeth", gan gyfeirio at ymateb Mr Sunak i'r feirniadaeth ohono am adael digwyddiadau D-Day yn Ffrainc yn gynnar.
Ychwanegodd mai Mr Sunak yw "un o'r bobl fwyaf clyfar i mi weithio â nhw erioed".
Cafodd Mr Davies ei wneud yn Ysgrifennydd Cymru gan Mr Sunak yn 2022, ac ef yw ymgeisydd y Ceidwadwyr yn etholaeth Sir Fynwy ar gyfer yr etholiad cyffredinol.
Ar fewnfudo, dywedodd Mr Davies fod y 685,000 o bobl a ddaeth i'r DU yn gyfreithlon y llynedd yn "llawer rhy uchel", ac y byddai'n hoffi gweld y ffigwr yn gostwng i tua 100,000 i 150,000.
Dywedodd fod mesurau eisoes wedi cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â hyn, a bod "mewnfudo eisoes yn gostwng oherwydd hynny".
Mynnodd fod cynllun y Ceidwadwyr i yrru ceiswyr lloches i Rwanda yn ymarferol, a'i fod eisoes yn atal pobl rhag dod i'r DU.
Dywedodd hefyd fod cynllun y blaid i gael gwared â'r "math anghywir o raddau prifysgolion" a chreu 100,000 o brentisiaethau yn golygu y gallai pobl o Brydain lenwi'r swyddi sy'n cael eu gwneud gan fewnfudwyr ar hyn o bryd.
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2024
Bydd cyfweliad llawn David TC Davies yn cael ei ddarlledu ar BBC One Wales am 19:00 ddydd Iau.
Bydd cynrychiolwyr Reform UK a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael eu holi ddydd Gwener, ac arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth ddydd Llun.
Gallwch wylio'r cyfweliad gyda Nick Thomas-Symonds o'r Blaid Lafur yma.
Ymgeiswyr etholaeth Sir Fynwy yn llawn
Ioan Bellin - Plaid Cymru
Ian Chandler - Y Blaid Werdd
David TC Davies - Ceidwadwyr
June Davies - True & Fair Party
Catherine Fookes - Llafur
Owen Lewis - Annibynnol
Emma Meredith - Plaid Treftadaeth
William Powell - Democratiaid Rhyddfrydol
Max Windsor-Peplow - Reform UK