Cyfres o Gymru'n ennill gwobr Emmy Ryngwladol

Lost Boys & Fairies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lost Boys & Fairies yn ddrama ddwyieithog a gafodd ei darlledu ar BBC One ar draws y DU

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gyfres Gymreig Lost Boys & Fairies wedi ennill gwobr Emmy Ryngwladol nos Lun.

Cafodd y ddrama, sy'n dilyn cwpl hoyw drwy'r broses fabwysiadu, ei hysgrifennu gan y dramodydd Daf James, ac mae wedi ei seilio'n rhannol ar ei brofiadau ei hun.

Fe enillodd y gyfres y categori TV Movie/Mini-Series, yn seremoni'r Emmys Rhyngwladol yn Efrog Newydd.

Mae'r gwobrau yn cydnabod y cyfresi gorau sy'n cael eu cynhyrchu a'u darlledu y tu hwnt i'r Unol Daleithiau, ac wedi bod yn cael eu cynnal ers 1973.

Y gyfres yma gafodd y nifer fwyaf o enwebiadau yng ngwobrau BAFTA Cymru eleni, gan ddod i'r brig mewn pum categori fis diwethaf.