Creu cannoedd o swyddi gyda phrosiect 'cyffrous' i ddal carbon

Llun o'r ffatri creu sment sydd ar y safle ar hyn o bryd gyda gweithiwr yn cerdded i ffwrdd o'r adeilad yn gwisgo gwisg diogelwch oren llachar.
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 500 swydd newydd yn rhan o'r gwaith adeiladu'r safle newydd dal carbon

  • Cyhoeddwyd

Bydd cannoedd o swyddi yn cael eu creu yng ngogledd Cymru gan gynllun i adeiladu'r safle cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddal a storio carbon ger ffatri sment.

I ddechrau bydd 500 o swyddi newydd ar gael wrth adeiladu ffatri prosesu newydd dros y tair blynedd nesaf ar safle Heidelberg Materials yn Padeswood, Sir y Fflint.

Yna, bydd 50 o swyddi parhaol yn cael eu creu, gan ymuno â'r gweithlu presennol o 220.

Cyhoeddwyd y prosiect, ynghyd ag un arall mewn gorsaf troi gwastraff i ynni yng ngogledd-orllewin Lloegr, gan Lywodraeth y DU ddydd Iau, fel rhan o'u cynllun i gyrraedd targed sero net erbyn 2050.

Mae hyn yn golygu torri allyriadau tŷ gwydr yn ddramatig, fel nad yw'r wlad yn cyfrannu bellach at gynhesu byd eang.

Dywedodd y Gweinidog Ynni Michael Shanks ar ymweliad â'r safle yn Sir y Fflint fod y prosiect yn cynrychioli eu hymrwymiad i'w "genhadaeth pŵer glân", ond y byddai hefyd yn sicrhau bod "cyfleoedd economaidd a diwydiannol" ar gael.

Ond, mae'r arbenigwr ynni Huw Michael yn cwestiynu a yw'r dechnoleg yn gost effeithiol.

Llun o'r Gweindiog Ynni Michael Shanks yn siarad gyda gweithiwr ar y safle sment yn Sir y Fflint. Mae'r ddau yn gwisgo gwisg diogelwch sy'n oren llachar mewn lliw a het diogelwch gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gweinidog Ynni Michael Shanks yn gweld dal carbon fel "rhan hanfodol" o gyrraedd targedau sero net y llywodraeth

Mae'r prosiect dal carbon yn Sir y Fflint yn un o'r cyntaf sy'n rhan o HyNet - clwstwr o ddiwydiannau yng ngogledd Cymru a Lloegr sydd â'r nod o ddal symiau enfawr o garbon a'i storio mewn hen feysydd nwy sydd dan wely'r môr.

Cafodd HyNet ei gymeradwyo gan y Prif Weinidog Keir Starmer ym mis Ebrill 2025.

Yn ôl y Gweinidog Ynni Michael Shanks, bydd y prosiect yn dod â "swyddi da a buddsoddiad i'r gymuned leol".

"Yr hyn rydym am ei wneud ar draws yr economi yw lleihau ein defnydd o danwydd ffosil gymaint â phosibl," meddai.

"Mae hynny'n golygu trydaneiddio diwydiant lle gallwn ni, ond rydym yn gwybod nad yw hynny'n bosibl i bob diwydiant, felly i amddiffyn pethau fel gweithfeydd sment fel yr un yma... mae dal carbon yn dod yn rhan hanfodol o hynny."

Ychwanegodd y byddai £9.4bn yn cael ei wario ar brosiectau o'r math yma i'w helpu i symud ymlaen, fel y cyhoeddwyd yn yr Adolygiad Gwariant fis Mehefin.

Huw Michael
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arbenigwr ynni Huw Michael yn cwestiynu "pwy sy'n mynd i dalu am y peth yn y pendraw?"

Mae'r arbenigwr ynni Huw Michael yn cytuno bod manteision i'r dechnoleg.

"Mewn ffordd mae'n broses sy'n galluogi chi i barhau i losgi nwy ac olew i greu trydan neu wres, fel sy'n digwydd mewn ffatri sment, gan hefyd leihau allyriadau carbon deuocsid," meddai.

Ond, mae'n teimlo bod yna anfanteision, yn enwedig y gost.

"Mae'n dechnoleg ac yn broses sy'n ddrud iawn. Mae'n gostus i'w datblygu ac i'w gosod.

"A'r cwestiwn i fi yw, pwy sy'n mynd i dalu am y peth yn y pendraw? Ydy biliau'n mynd i godi oherwydd y costau uchel?

"Hefyd, er mae'n bosib tynnu rhan fwyaf o'r carbon deuocsid allan sy'n cael ei greu wrth losgi'r tanwydd, nid yw pob rhan yn cael ei ddal.

"Felly mae hynny hefyd, ond y gost hir dymor yw'r prif farc cwestiwn i fi."

Prif Swyddog Gweithredol Heidelberg Materials Simon Willis yn gwenu at y camera ar safle'r ffatri sment yn Sir y Fflint yn gwisgo gwisg diogelwch oren llachar a het diogelwch gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae prif swyddog gweithredol Heidelberg Materials Simon Willis yn "gyffrous" am y prosiect newydd

Dywedodd Simon Willis, prif swyddog gweithredol Heidelberg Materials UK, ei bod yn "gyffrous" y bydd y prosiect dal carbon cyntaf ar safle sment yn y DU "yn mynd rhagddo yng Nghymru" ac "o ran ei raddfa, y cyntaf yn y byd".

"Bydd yn ein galluogi i amddiffyn swyddi... ac i ddatgarboneiddio'r sector adeiladu yn y DU," meddai.

"Mae sment yn hanfodol... dyma'r glud mewn adeiladu.

"Mae'r allyriadau sy'n dod o sment yn dod o'r broses o'i greu... yr unig opsiwn sydd gennym yw dal carbon."

Bydd y ffordd y mae'r sment yn cael ei wneud yn Padeswood yn aros yr un fath, meddai, ond yr hyn fydd yn newid yw y bydd y carbon deuocsid sy'n mynd i fyny'r simneiau presennol yn mynd i'r gwaith prosesu newydd sbon i'w lanhau a'i gywasgu, i'w storio o dan fôr Iwerddon trwy bibellau.

Bydd gwaith yn dechrau ar y ffatri prosesu newydd yn ddiweddarach eleni, gyda disgwyl iddo agor yn 2029.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig