Creu 200 o swyddi newydd ar safle niwclear yn y gogledd

Llun o'r safle newydd ar Lannau DyfrdwyFfynhonnell y llun, Boccard
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd y safle yn swyddogol fore Mercher

  • Cyhoeddwyd

Bydd 200 o swyddi yn cael eu creu yn sgil agor safle cynhyrchu nwyddau ar gyfer y diwydiant niwclear yn Sir y Fflint.

Cafodd y safle 10,000m2 ar Lannau Dyfrdwy ei agor yn swyddogol gan y cwmni o Ffrainc, Boccard fore Mercher.

Mae'n un o'r safleoedd mwyaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig, a bydd yn cynhyrchu cydrannau ar gyfer gwahanol orsafoedd niwclear gan gynnwys Hinkley Point C a Sizewell C.

Dywedodd Boccard eu bod yn gobeithio y gallai'r safle newydd "sbarduno adfywiad y diwydiant niwclear yn y DU".

Y gred yw y bydd yr 'hwb' newydd yn creu eitemau fel peipiau, tanciau a systemau modiwlar.

Daw'r datblygiad ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi eu bwriad i fuddsoddi £17bn yn y diwydiant niwclear fel rhan o'u hadolygiad gwariant.

Dywedodd Boccard y byddai 200 o swyddi parhaol yn cael eu creu ar y safle ac y byddai'n cyfrannu at ddatblygu sgiliau lleol a mynd i'r afael â thargedau sero net a datgarboneiddio'r DU.

"Mae cefnogaeth Llywodraeth y DU yn nodi trobwynt ar gyfer y sector niwclear, a newid ffocws tuag at sefydlu cadwyn cyflenwi o'r safon uchaf ac atynnu'r dalent orau," meddai Bruno Boaccard, cadeirydd y cwmni.

Pynciau cysylltiedig