Biliau Dŵr Cymru i godi'n flynyddol am bum mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn y rhan fwyaf o Gymru yn wynebu cynnydd o 27% yn eu biliau dŵr o fis Ebrill ymlaen, gyda'r bil blynyddol yn codi ar gyfartaledd o £503 i £639.
Dyma ddechrau cyfnod o bum mlynedd o gynnydd mewn biliau gan Dŵr Cymru, sef cyfanswm o 42% erbyn 2029-30 - ond bydd y cynnydd mwyaf yn digwydd ar y dechrau.
Dywedodd grŵp defnyddwyr fod "angen cyflwyno system o roi cymorth i bobl fydd yn ei chael hi'n llawer mwy anodd i dalu eu biliau".
Dywedodd Dŵr Cymru y byddai dŵr glân yn costio £1.75 y dydd ar gyfartaledd o fis Ebrill ymlaen ac y byddai'r cynnydd cyffredinol yn ariannu "cynnydd o 68% mewn buddsoddiad" dros y bum mlynedd nesaf.
Galw am ddiwedd i'r 'loteri cod post'
Mae cwmnïau dŵr ledled Cymru a Lloegr yn codi'r prisiau er mwyn arwain at fwy o fuddsoddiad i ddelio â phroblemau fel gollyngiadau a gorlifiadau carthion.
Mae Hafren Dyfrdwy, sy'n gwasanaethu tua 87,000 o gwsmeriaid ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn cynyddu biliau 32% o fis Ebrill ymlaen.
Ond dywedodd y cwmni mai eu cwsmeriaid "sydd â'r biliau isaf yng Nghymru ac un o'r isaf yn y DU" a bod cymorth ar gael i'r rhai sy'n cael trafferth talu.
Mae pob cwmni â'u system tariffau cymdeithasol eu hunain - sef cyfraddau rhatach neu filiau wedi'u capio ar gyfer cwsmeriaid cymwys.
Dywedodd Dŵr Cymru bod 150,000 o'u cwsmeriaid yn cael biliau gostyngol ac y byddan nhw yn cynyddu eu pecynnau cymorth ariannol o £63m i £73m dros y pum mlynedd nesaf.
Ond galwodd Rhodri Williams, dirprwy gadeirydd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCGC), am ddiwedd ar y "loteri cod post" o gefnogaeth i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd.
Mae CCGC wedi cynnig un system o gymorth i gwsmeriaid ledled Cymru a Lloegr.
Dywedodd Mr Williams, o dan y cynllun arfaethedig, y byddai "mwy o arian i'w wario ar gymorth i gwsmeriaid yng Nghymru" oherwydd bod cyfraddau tlodi yn uwch nag yn Lloegr.
Mae cost biliau dŵr eisoes wedi effeithio ar gyllidebau llawer o bobl, meddai.
Ychwanegodd: "Fe wnaeth arolwg gan CCGC ganfod fod chwarter y cartrefi â mesurydd dŵr yn torri'n ôl ar yr hyn yr oeddent yn ei ystyried yn ddefnydd 'hanfodol' o ddŵr."
Mae bil dŵr Bianca Lepore o Gaerdydd wedi'i gapio gan Dŵr Cymru, gan arbed tua £280 iddi.
Mae'r fam i ddau sy'n gweithio i'r GIG yn cael bil rhatach o dan gynllun WaterSure am fod un o'i phlant yn anabl.
Dywedodd fod yr arbediad "yn golygu y galla i wneud mwy o bethau gwerthfawr mewn bywyd gyda fy mhlant".
Dywedodd y dylai unrhyw un sy'n cael trafferth gyda biliau "gysylltu â Dŵr Cymru i weld beth yw'ch hawliau".
"Heb ofyn gewch chi ddim cymorth," ychwanegodd.
Sut mae cael bil dŵr rhatach?
Mae Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy yn cynnig cynlluniau arbennig ar gyfer rhai cwsmeriaid sy'n cael trafferth.
Mae WaterSure yn capio costau i deuluoedd sydd â mesurydd dŵr, sy'n derbyn budd-daliadau penodol ac sydd naill ai â thri neu fwy o blant dibynnol gartref, neu sydd â rhywun yn y teulu â chyflwr meddygol sy'n cynyddu'r defnydd o ddŵr.
Mae tariff HelpU yn capio biliau ar gyfer aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau penodol ac sydd ag incwm o dan £18,800 ar gyfer teulu o dri neu fwy, neu lai na £17,400 ar gyfer teulu o ddau.
Trothwy incwm person sengl yw £11,600.
Os ydych chi'n cael trafferth talu eich bil dŵr, mae'n bosib y gallwch gael cymorth ariannol i'w dalu os ydych chi'n gallu dilyn cynllun talu y cytunwyd arno ymlaen llaw.
Sut alla i leihau fy nghostau dŵr?
Ystyriwch gael mesurydd dŵr os ydych chi mewn cartref bach - mae CCGC yn darparu cyfrifiannell i weld a allai arbed arian i chi.
Os ydych chi eisoes ar fesurydd dŵr, meddyliwch sut y gallwch chi ddefnyddio llai o ddŵr, a thrwsio unrhyw ollyngiadau o amgylch y tŷ.
Mynnwch ddyfeisiadau arbed dŵr am ddim gan Dŵr Cymru i'w defnyddio ar dapiau a phennau cawodydd ac mewn sestonau toiledau i leihau'r defnydd o ddŵr.
Roedd syndod gan bobl ar strydoedd Penmaenmawr fore Iau am y cynnydd.
Dywedodd Chloe Cartledge: "Mae'n dipyn o gynnydd ond mae popeth yn mynd i fyny dyddiau yma. Does dim ffordd rhag atal prisiau'n codi ac mae rhaid i ni fynd ymlaen efo fo - ond dydi o ddim yn grêt.
"Dylai fod mwy o gymorth i'r henoed ac i bobl fregus."
Dywedodd Tina Turner "dylai fod mwy o gymorth" i bobl wrth i filiau godi.
"Dwi wedi synnu fod y prisiau'n codi gymaint. Gallwn i brotestio ond pa wahaniaeth fysa hynna'n ei wneud? Dydi nhw ddim yn gofyn i ni a ni 'di'r rhai sy'n talu."
Dywedodd Jools Fryer: "Fydd raid i ni olchi yn y môr gyda'r ffordd mae pethau'n mynd".
"Dylai Dŵr Cymru ddim wedi disgwyl mor hir i godi'r prisiau - dylai o wedi bod yn fwy raddol. Fyddai'n ei gweld hi'n anodd gyda'r prisiau'n codi gymaint."
Dywedodd Frank Meldrum fod "y prisiau'n codi'n uwch na chwyddiant ac rydym wedi cael nifer o broblemau hefo ein dŵr".
"Ond maen nhw wedi cael eu tanariannu am mor hir mae rhaid iddyn nhw ddechrau dal i fyny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2024