Gwerth 17 tancer o ddŵr gwastraff y dydd wedi ei ryddhau i afon

Pibell CSO
  • Cyhoeddwyd

Mae tystiolaeth bod yr hyn sy'n cyfateb i 17 tancer y dydd o ddŵr gwastraff, oedd yn cynnwys carthion, wedi ei ryddhau i Afon Cleddau Wen yn ystod 2023, yn ôl ymgyrchwyr safon dŵr yr afon, sy'n dadlau bod modd atal y llygredd.

Fe wnaeth grŵp Prosiect y Cleddau gais rhyddid gwybodaeth am ddata gan gwmni Dŵr Cymru ynghylch pherfformiad pympiau yng ngorsaf Picton yn Hwlffordd.

Roedd y data, sy'n dyddio'n ôl i Orffennaf 2022, yn dangos bod y pympiau'n gweithio ar tua 80% o'u capasiti rhwng Gorffennaf 2022 a Chwefror 2024.

Cafodd tua 55,857 metr ciwbig o wastraff ei ryddhau i'r Cleddau Wen am nad oedd y pympiau'n gweithio yn iawn. Fe ddylai'r garthffosiaeth fod wedi mynd i'r gwaith trin dŵr lleol.

Dywed Dŵr Cymru eu bod nhw wedi gosod offer monitro cyn yr amserlen a osodwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a'i bod wedi cymryd 26 wythnos i greu offer newydd i'r orsaf.

Mae'r Cleddau Wen wedi ei dynodi yn ardal o gadwraeth arbennig.

Arllwys llygredd ar 133 o achlysuron

Dywedodd Ric Cooper, llefarydd ar ran Prosiect y Cleddau, bod y grŵp wedi penderfynu ymchwilio ar ôl sylwi bod carthion yn cael eu rhyddhau yn rheolaidd o bibell ger meysydd chwarae Picton.

Mae'r pibelli - Combined Storm Overflows - i fod i ryddhau ar adeg o law trwm yn unig.

Dywedodd Mr Cooper fod y "pympiau i fod i anfon carthion i'r gwaith trin dŵr ym Mhontfadlen, rhyw hanner milltir i ffwrdd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedod Ric Cooper bod y grŵp wedi penderfynu ymchwilio ar ôl sylwi bod carthion yn cael eu rhyddhau yn rheolaidd o bibell ger meysydd chwarae Picton

"Maen nhw fod i bwmpio 120 litr yr eiliad. Roedd y data yn dangos bod y pympiau yn symud 95 neu 96 litr yr eiliad.

"Mae hynny yn golygu bod 20% o'r hyn oedd fod cael ei drin, yn mynd syth mewn i'r afon. Ar gyfartaledd, mae'n cyfateb i 17 tancer y dydd yn gwacáu cynnwys i mewn i'r afon."

Mae data Dŵr Cymru yn dangos bod y bibell CSO ger meysydd chwarae Picton wedi arllwys gwastraff i'r afon ar 133 o achlysuron am 646.6 awr yn 2023.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru, Steve Wilson, fod y cwmni wedi gosod offer monitro cyn yr amserlen gafodd ei osod gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

"Fe wnaethom ni gytuno i osod offer monitro yn Picton o flaen llaw," meddai, "felly roedden ni yn medru gweld fod problem gyda faint o lif oedd yna, ac oedd, roedd carthion yn cael eu rhyddhau ar adegau.

"Er mwyn diweddaru'r orsaf, roedd rhai gosod pympiau a phaneli newydd. Fe wnaeth hynny gymryd 26 wythnos. Mae'n offer arbenigol, a dyw e ddim ar gael ar y silff. Mae'r llif cywir yn cael ei symud gan y pympiau erbyn hyn, ac mae llai o ollyngiadau."

Dywedodd Mr Wilson fod y cwmni yn ymddiheuro am unrhyw niwed i'r Cleddau Wen. Fe wnaeth gyfaddef, serch hynny, fod hi'n bosib fod y broblem yn digwydd mewn llefydd eraill.

Yn ôl Mr Wilson, mae'r cwmni'n gweithio "mor gyflym â phosib i ddiweddaru safleoedd ar draws Cymru, gwella ansawdd dŵr, mewn ffordd sydd "mor fforddiadwy â phosib" i gwsmeriaid.

Mae'r cwmni'n bwriadu buddsoddi £4bn erbyn 2030, gyda £100m yn cael ei wario yn Sir Benfro, yn ddibynnol ar sêl bendith y rheoleiddiwr Ofwat.

Mae Prosiect y Cleddau yn dweud eu bod wedi hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru sawl gwaith am y broblem, ac fe ymwelodd y rheoleiddwyr â'r safle ym mis Mehefin 2023.

Fe gymrodd hi naw mis arall i ddatrys y broblem.

Cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi cael gwybod am bryderon am orsaf Picton ym Mehefin 2023, ac fe ddywedodd Dŵr Cymru y byddai'r pympiau newydd wedi eu gosod erbyn 31 Hydref 2023.

Penderfynodd y rheoleiddwyr i roi rhybudd i'r cwmni pan fethwyd â chwblhau'r gwaith erbyn hyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Simon Walters wedi ymgyrchu dros ansawdd dŵr y Cleddau Wen ers blynyddoedd

Cafodd y gwaith ei wneud erbyn Chwefror 2024. Cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod yna "ymchwiliad cyfreithiol swyddogol" yn cael ei gynnal i fater arall yn ymwneud â gorsaf Picton.

Yn ôl Simon Walters, sydd wedi ymgyrchu dros ansawdd dwr y Cleddau Wen ers blynyddoedd, mae lleoliad y gollyngiadau yn un sensitif iawn.

Dywedodd: "Dyma ble mae'r sewin a'r eogiaid yn cymryd saib, wrth deithio o ddŵr y môr i ddŵr ffres. Mae hon yn ardal o gadwraeth arbennig a dylid ei hamddiffyn. Mae'n bryd i Gyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru wneud rhywbeth am hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Prosiect y Cleddau yn dweud eu bod nhw wedi hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru sawl gwaith am y broblem

Ym mis Gorffennaf, cadarnhaodd Ofwat, y rheoleiddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr, eu bod wedi rhoi hysbysiad gorfodi i Dŵr Cymru a nifer o gwmnïau dŵr eraill yn sgil y ffordd maen nhw yn ymdrin â dwr gwastraff.

Mae'r Aelod Seneddol lleol, Henry Tufnell, wedi galw am fwy o adnoddau i Gyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd nad yw'r sefyllfa yn "dderbyniol o gwbl. Dim ond 20% o achosion mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio, felly mae'n amlwg fod yna broblem adnoddau.

"Mae dirwyon yn gorfod mynd nôl i'r Trysorlys, a dyw'r arian ddim yn aros yn y diwydiant dŵr yng Nghymru. "

Pynciau cysylltiedig