Biliau dŵr yng Nghymru i godi £190 dros y 5 mlynedd nesaf
- Cyhoeddwyd
Fe fydd biliau dŵr yn cynyddu £31 y flwyddyn ar gyfartaledd am y pum mlynedd nesaf yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r rheoleiddiwr, Ofwat, wedi cyhoeddi y bydd biliau'n codi £157 ar gyfartaledd erbyn 2029/30 dros Gymru a Lloegr.
Y bwriad yw buddsoddi mewn meysydd sydd angen gwelliannau fel pibau sy'n gollwng, a lleihau effeithiau amgylcheddol.
Fe fydd cwsmeriaid Dŵr Cymru yn gweld y cynnydd uchaf, gyda biliau cyfartalog yn codi o £455 i £645 y flwyddyn erbyn 2029/2030 - sydd yn gynnydd o £190 neu 42%.
I ddefnyddwyr Hafren Dyfrdwy, bydd biliau'n codi o £396 y flwyddyn ar gyfartaledd i £557 erbyn 2029/2030 - sy'n gynnydd o £161, neu 42%.
Mae'r diwydiant wedi wynebu beriniadaeth yn ddiweddar ynghylch gollyngiadau carthion i afonydd.
Mae'r cynnydd yn uwch na'r £19 y flwyddyn a gynigiwyd gan Ofwat ym mis Gorffennaf, ond yn is nag yr oedd cwmnïau dŵr wedi gofyn amdano.
Mae'r cynnydd cyn ystyried chwyddiant, felly mae biliau'n debygol o fod yn uwch mewn gwirionedd.
Er mwyn gwella ansawdd afonydd a moroedd, a chynnig gwasanaethau gwell i gwsmeiriad, mae Ofwat wedi cyhoeddi gwariant gwerth £104bn.
Yn rhan o'r gwariant bydd bron i £12bn yn cal ei neilltuo i fynd i'r afael ag effeithiau stormydd gan geisio lleihau gorlifoedd stormydd 44% o'r lefelau a welwyd yn 2021.
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2023
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dolen allanol, dywedodd Rhodri Williams, Dirprwy Gadeirydd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr, bod "tanfuddsoddi hanesyddol" wedi bod i seilwaith y cwmnïau dŵr.
"O ganlyniad mae 'na dipyn o waith i 'neud i sicrhau bod y systemau yma – y pibau yma sydd yn cario dŵr glan i'n tai a'n busnesau a dŵr brwnt oddi wrthyn nhw yn gweithio yn effeithiol."
Ychwanegodd bod newid hinsawdd hefyd yn cyfiawnhau cynnydd ym miliau defnyddwyr.
"Fel ni yn gwbod yn dda iawn yn yr wythnosau diwethaf – yn golygu bod dŵr nawr yn dueddol o syrthio yn gyflym iawn, a dyw'r seilwaith hanesyddol oedd gyda ni ddim yn ddigonol ar gyfer delio a'r patrwm newydd yma lle mae dŵr yn disgyn mewn cyfnod mor fyr."
Er bod angen arian ychwanegol ar gwmnïau, meddai, mae'r cynnydd ym miliau cwsmeriaid yn mynd i ddigwydd "mor sydyn" sydd yn "broblem" i rai.
"Mae'r rhan fwyaf o'r cynnydd yn mynd i ddigwydd yn y flwyddyn ariannol nesaf.
"Mae 'na fwy o gynnydd ar ddechrau'r cyfnod nac ar y diwedd, ac mae hynny yn mynd i achosi dwi meddwl, problemau mawr i nifer o ddefnyddwyr sydd yn chael hi yn anodd talu biliau yn barod mae hynny yn mynd i waethygu'r sefyllfa."
Esboniodd hefyd bod Llywodraeth y DU yn gweithio i roi rhagor o bwerau i Ofwat fel bod buddsoddiad digonol yn cael ei wneud i sicrhau bod "cwsmeriaid yn derbyn y fath wasanaeth maen nhw'n haeddu o ystyried faint i ni gyd yn talu amdano fe".
Biliau heb gyd-fynd â chynnydd chwyddiant
Mewn datganiad, dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn "croesawu'r ffaith bod Ofwat wedi ymateb i'r sylwadau a wnaethom ar ôl y penderfyniad drafft i ganiatáu mwy o'r hyn yr oeddem wedi holi amdano yn ein cynllun busnes".
"Dyw unrhyw gynnydd mewn pris byth yn cael ei groesawu, ac rydym o hyd yn ceisio eu cadw yn isel, ond nid yw cynnydd mewn biliau wedi cyd-fynd â chwyddiant yn ystod y 15 mlynedd diwethaf.
"Ni fyddem yn gallu ariannu'r cynnydd angenrheidiol mewn buddsoddiad mewn modd cynaliadwy heb gynyddu biliau."
Ychwanegodd y datganiad fod y cyhoeddiad yn ymateb i'w "cyflwyniad ar gyfer y buddsoddiad mwyaf erioed dros y pum mlynedd nesaf er mwyn cyflawni gwelliannau sylweddol i'r gwasanaeth".
Dywedodd Hafren Dyfrdwy y byddai'n buddsoddi £262m mewn isadeiledd dros y blynyddoedd nesaf, er mwyn "sicrhau gwasanaeth cryf a dibynadwy mae cwsmeriaid yn ei haeddu, a buddion enfawr i gymunedau ym Mhowys a Wrecsam".
Ychwanegodd y cwmni ei fod wedi ymrwymo i ddiogelu'r amgylchedd a chymryd camau i leihau allyriadau ty gwydr o 12% erbyn 2030.
Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr, James Jesic: "Bydd penderfyniad Ofwat yn ein galluogi i sicrhau'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad er mwyn cyrraedd disgwyliadau cwsmeriaid, gwella ein gallu i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd a thaclo blaenoriaethau fel toriadau i gyflenwadau a gollyngiadau."