Cadarnhau mai corff bachgen 16 oedd yn y môr ger Llandudno

AthrunFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Daeth cadarnhad gan yr heddlu mai corff y bachgen 16 oed aeth ar goll yn Llandudno y penwythnos diwethaf a ganfuwyd yn y môr nos Fercher.

Mae teulu'r bachgen, Athrun o Sir Gaerloyw, wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod mewn cysylltiad gyda'r crwner er mwyn cynorthwyo'i ymchwiliadau.

Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan: "Mae ein meddyliau gyda theulu Athrun, ac maen nhw am ddiolch i'r holl asiantaethau ac i'r cyhoedd am y gefnogaeth aruthrol a gawson nhw, ac am beidio rhoi'r ffidil yn y to gyda'r chwilio.

"Nid dyma oedd y canlyniad y byddai unrhyw un wedi dymuno gweld," ychwanegodd, "ond gobeithio y bydd nawr atebion i deulu Athrun."

"Rwy'n gofyn eto i bawb barchu preifatrwydd y teulu yn y cyfnod eithriadol o anodd yma."

Pynciau cysylltiedig