'Dim tystiolaeth o dwyll' gan Aelod Ceidwadol o'r Senedd

Laura Anne Jones yn siambr Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Laura Anne Jones wedi gwadu'r honiadau yn ei herbyn o'r dechrau

  • Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad yr heddlu i dreuliau Aelod Ceidwadol o'r Senedd wedi dod i'r casgliad nad oedd tystiolaeth o dwyll.

Dywed Heddlu De Cymru eu bod wedi dod â'u hymchwiliad i dreuliau Laura Anne Jones i ben.

Bu'n rhaid i AS Dwyrain De Cymru gamu'n ôl o gabinet yr wrthblaid tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Wrth ymateb i'r casgliad, dywedodd Laura Anne Jones ei bod hi'n "falch bod yr achos wedi ei ollwng o'r diwedd".

"Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd ond roeddwn i'n cael cryfder o'r ffaith fy mod i'n ddiniwed a'r gefnogaeth oedd gen i.

Dywedodd ei bod hi'n "edrych mlaen at gael gwasanaethu etholwyr".

Cafodd yr heddlu eu galw wedi i Gomisiynydd Safonau'r Senedd, Douglas Bain, gyfeirio cwyn i'r llu yn gynharach eleni.

Gan fod ymchwiliad heddlu ar ben, mae modd i Mr Bain barhau â'i ymchwiliad ei hun, pe bai'n penderfynu bod hynny'n angenrheidiol.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi cwblhau eu hymchwiliad "i honiad o dwyll wedi i Gomisiynydd Safonau'r Senedd gysylltu â'r llu".

Ychwanegodd: "Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw weithgaredd tywyllodrus ac mae'r ymchwiliad nawr wedi ei gau.

"Mae pawb oedd yn gysylltiedig â'r achos wedi cael gwybod."

Andrew RT Davies yn siambr y SeneddFfynhonnell y llun, Senedd TV
Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies wedi cefnogi Laura Anne Jones, er i rai ei feirniadu am wneud

Mae arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi cefnogi Laura Anne Jones ers i'r honiad ddod i'r amlwg.

Roedd rhai o fewn ei blaid yn ei feirniadu am fethu â thynnu'r chwip oddi arni a'i hatal o'r grŵp yn y Senedd.

Fe fydd Davies ei hun yn wynebu pleidlais o hyder ddydd Mawrth wedi i rai o'i Aelodau o'r Senedd godi pryderon ehangach ynghylch ei arweinyddiaeth.