Arwisgo Syr Gerald Davies mewn seremoni yng Nghastell Windsor

Sir Gerald Davies yn cael ei arwisgo yng Nghastell WindsorFfynhonnell y llun, BCA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Syr Gerald Davies ei arwisgo gan Dywysog Cymru yng Nghastell Windsor

  • Cyhoeddwyd

Mae un o gewri rygbi Cymru, Syr Gerald Davies wedi cael ei urddo'n farchog mewn seremoni arwisgo yng Nghastell Windsor.

Cafodd cyn-asgellwr Cymru a'r Llewod, a chyn-lywydd Undeb Rygbi Cymru, dolen allanol, ei ddyrchafu'n farchog am ei wasanaethau i'w gamp a'i waith elusennol.

Wrth ymateb pan gyhoeddwyd ei enw yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd, dywedodd ei fod yn teimlo'n "emosiynol iawn" a bod "geiriau yn annigonol".

Fe gynrychiolodd Gerald Davies ei wlad rhwng 1966 a 1978, gan ennill tair Camp Lawn.

Fe deithiodd gyda'r Llewod yn 1968 a 1971 gan chwarae mewn pum gêm.

Bu'n Llywydd ar Undeb Rygbi Cymru rhwng 2019 ac 2023.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig